Cynrychioli Cymru 2025-2026
Ymgeisiwch nawr ar gyfer pumed rownd Cynrychioli Cymru!
Dyma raglen ddwyieithog 12 mis o hyd sy’n darparu cyfleoedd i awduron sydd heb gynrychiolaeth deg yn y sector llenyddol. Eleni, rydym yn croesawu ceisiadau gan awduron o Gymru sy’n dod o gefndir heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy’n dymuno ysgrifennu a chreu ar gyfer oedolion. Bydd y rhaglen yn cael ei rhedeg rhwng Ebrill 2025 – Mawrth 2026.
Yn ystod y flwyddyn, bydd Llenyddiaeth Cymru yn cefnogi carfan o 14 o awduron drwy gynnig y canlynol:
- Ysgoloriaeth ariannol o £3,000
- Nawdd ariannol ar gyfer teithio a thocynnau
- Rhaglen hyfforddi ddwys ar grefft ac ar ddatblygiad gyrfa proffesiynol sy’n cynnwys awduron byd-enwog fel tiwtoriaid a siaradwyr gwadd gan gynnwys ystafelloedd ysgrifennu ar-lein a dosbarthiadau meistr, gydag un ohonynt yn benwythnos preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
- Mentor personol
- Cyfleoedd cyson i rannu gwaith creadigol ac adborth ymysg y garfan
- Cyfleoedd rhwydweithio trwy gydol y flwyddyn, ar-lein a wyneb yn wyneb
- Cefnogaeth bwrpasol gan Llenyddiaeth Cymru gan gynnwys cyngor, cyfeirio a nodi cyfleoedd
- Rhaglen ôl-ofal bwrpasol
Dyddiad cau: 12.00 pm hanner dydd, Dydd Iau 10 Hydref 2024.
Ariennir rhaglen Cynrychioli Cymru gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Foyle.
Ceir rhagor o fanylion am y rhaglen, meini prawf cymhwystra, a sut i wneud cais isod. Mae’r wybodaeth ar gael mewn print bras ac mewn ffurf dyslecsia gyfeillgar ar y dudalen Llawrlwytho.