Dewislen
English
Cysylltwch
Stephanie Butland
Mwy
Deborah Kay Davies
Mwy
Damian Walford Davies
Mwy
Rachel Dawson
Mwy
Dilar Dirik
Mwy
Eliot Duncan
Mwy
Inua Ellams
Mwy
Jenni Fagan
Mwy
Glyn Maxwell
Mwy
Grug Muse
Mwy
Llwyd Owen
Mwy
Mike Parker
Mwy
Lleucu Roberts
Mwy
Jacob Ross
Mwy
Joelle Taylor
Mwy
Stephanie Butland

Yn mentora: Grace Quantock

Roedd dwy gyfrol gyntaf Stephanie Butland yn gyfrolau hunangofiannol ynglŷn â’i phrofiad o gancr. Ers hynny mae wedi troi at ffuglen ac wedi ysgrifennu saith nofel, yn cynnwys y cyfrolau poblogaidd am siop lyfrau, Lost For Words a Found In A Bookshop. Mae Stephanie yn gweithio gydag awduron ar bob cam o’u gyrfaoedd fel mentor a golygydd. Mae’n byw yn Northumberland gyda’i gŵr a Harris y milgi.

Gwefan: https://www.stephaniebutlandauthor.com/

X: @under_blue_sky

Instagram: @stephaniebutlandauthor

Cau
Deborah Kay Davies

Yn mentora: Ed Garland
Mae Deborah Kay Davies yn byw yng Nghaerdydd. Mae ganddi Ddoethuriaeth mewn Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol.

Casgliad o farddoniaeth oedd ei chyfrol gyntaf, Things You Think I Don’t Know (Parthian Books).

Enillodd ei chyfrol gyntaf o straeon byrion, Grace, Tamar And Laszlo The Beautiful (Parthian Books) wobr Llyfr y Flwyddyn 2009.

Ar ôl cyhoeddi ei nofel gyntaf True Things About Me (Canongate Books 2010) fe’i henwyd yn un o nofelwyr newydd gorau Prydain ar raglen BBC The Culture Show. Pan gyhoeddwyd y nofel yn yr Unol Daleithiau, fe’i dewiswyd gan Lionel Shriver fel ei hoff Lyfr y Flwyddyn.

Cyrhaeddodd ail nofel Deborah Reasons She Goes To The Woods (Oneworld 2014) restr fer Wobr Encore a rhestr hir The Women’s Prize for Fiction. Cyhoeddwyd Tirzah And The Prince Of Crows gan Oneworld yn 2019.

Yn 2022 addaswyd True Things About Me yn ffilm nodwedd gan y BBC, True Things, gyda’r actorion Ruth Wilson a Tom Burke yn chwarae’r prif gymeriadau.

Cau
Damian Walford Davies

Yn mentora: Natasha Gauthier

Mae Damian Walford Davies yn fardd, llenor a libretydd. Fe’i ganwyd yn Aberystwyth ym 1971. Mae’n awdur ar bum casgliad, wedi’u cyhoeddi gan Seren: Suit of Lights (2009), Witch (2012), Judas (2015), Docklands (2019) a Viva Bartali! (2023), ynghyd â’r pamffled Alabaster Girls (Rack Press, 2015). Mae'n ysgrifennu'n greadigol ac yn feirniadol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae ei ddiddordebau academaidd a’i ddulliau creadigol yn cydblethu: wedi’i wreiddio mewn hanesion dwfn am le, cartograffeg a seicoddaearyddiaeth, mae ei waith yn archwilio arswyd a thrawma hanesyddol, lleisiau ymylol a bylchau yn y record – yn enwedig trwy gyfrwng y monolog dramatig.

Ef yw Profost a Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd. Gwasanaethodd fel Cadeirydd Llenyddiaeth Cymru rhwng 2012 a 2018, ac o 2015 i 2018 ef oedd Cadeirydd Bwrdd Gwasg Prifysgol Caerdydd.

https://profiles.cardiff.ac.uk/cy/staff/walforddaviesd

Cau
Rachel Dawson

Yn mentora Rudy Harries

Daw Rachel Dawson o Abertawe yn wreiddiol ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Yn 2020 derbyniodd Ysgoloriaeth Awdur Newydd gan Llenyddiaeth Cymru, ac fe gafodd ei mentora gan Rebecca F. John. Neon Roses yw ei nofel gyntaf ac fe’i cyhoeddwyd gan John Murray Press yn 2023. Mae’n stori garwriaeth lesbiaidd, wedi ei gosod yn ystod cyfnod stormus gwleidyddol a diwylliannol y 1980au. Yn 2024, cyrhaeddodd Neon Roses restr fer Gwobr Betty Trask a Llyfr y Flwyddyn ac mae ar restr hir Gwobr Polari ar gyfer ysgrifennu cwiar. Mae Rachel yn gweithio ym maes cyfathrebu ar gyfer cwmni theatr, ac yn diwtor Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol Dysgu Gydol Oes Prifysgol Caerdydd, ac mae’n Gyfarwyddwr Anweithredol Seren Books. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ail nofel yn archwilio bod yn rhiant cwiar a chariad at hanes.

https://racheldawson.cymru/

Instagram: @racheldawsonwrites

X: @RachelCDawson

Cau
Dilar Dirik

Yn mentora: Heledd Melangell

Ganwyd Dilar Dirik yn Antakya ac fe’i magwyd yn Offenbach am Main. Mae ganddi Ddoethuriaeth mewn cymdeithaseg o Brifysgol Caergrawnt. Cyhoeddwyd ei chyfrol The Kurdish Women’s Movement: History, Theory, Practice gan Pluto Press yn 2022. Mae’n gofnod ethnograffeg manwl o frwydr chwyldroadol merched Cwrdaidd am ryddhad. Rhwng 2019-2023 bu Dirik yn gweithio fel ymchwilydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Rhydychen. Mae wedi ysgrifennu nifer o benodau i gyfrolau ac erthyglau ar amryfal bynciau, yn canolbwyntio ar frwydrau merched. Mae ei gwaith wedi ei gyfieithu i sawl iaith. Mae Dirik wedi gadael y byd academaidd ac ar hyn o bryd mae’n canolbwyntio ar addysg gwleidyddol.

Cau
Eliot Duncan

Yn mentora: Aliyy Azad Malik

Mae Eliot Duncan yn awdur a golygydd o ganolbarth yr Unol Daleithiau. Ei nofel gyntaf Ponyboy (Norton, Footnote) yw’r llyfr cyntaf sydd â phrif gymeriad traws i’w enwebu ar gyfer y National Book Awards yn yr Unol Daleithiau. Mae’n eich caru ym mhob amser.

https://www.eliotduncan.com/

Instagram: @semantic_rush

Cau
Inua Ellams

Yn mentora: Tia-zakura Camilleri

Yn enedigol o Nigeria, mae Inua Ellams yn fardd, dramodydd a pherfformiwr, artist graffeg a dylunydd, ac yn sylfaenwr: The Midnight Run (profiad teithiau cerdded dinesig gyda’r nos yn llawn celfyddydau amrywiol), The Rhythm and Poetry Party (The R.A.P Party) sydd yn dathlu barddoniaeth a hip hop, a Poetry + Film / Hack (P+F/H) sydd yn dathlu barddoniaeth a ffilm.  Mae Hunaniaeth, Dadleoliad a Ffawd yn themâu sy’n codi’n gyson yn ei waith, ble mae’n ceisio cyfuno’r hen a’r newydd: adrodd straeon llafar Affricanaidd gyda barddoniaeth gyfoes, peintio gyda pixel, gweadu gyda vector. Cyhoeddir ei lyfrau gan Flipped Eye, Akashic, Nine Arches, Penned In The Margins, Oberon & Methuen. 

Gwefan: https://www.inuaellams.com/

Threads: @inuaellams

Instagram: @inuaellams

Cau
Jenni Fagan

Yn mentora: Lowri Morgan

Mae Dr Jenni Fagan yn awdur, bardd, sgriptiwr ac artist arobryn, wedi derbyn canmoliaeth uchel. Mae eu gwaith ei gyhoeddi mewn naw iaith, gyda phum nofel, saith casgliad o farddoniaeth ac un hunangofiant sydd yn archwilio eu bywyd yn tyfu i fyny o fewn gofal awdurdod lleol. Fel awdur maent wedi gweithio gyda grwpiau bregus yn cynnwys merched yng ngharchar. Mae Fagan yn Ddoethur Athroniaeth, a’u harbenigedd yw strwythuriaeth ac ystyried sut mae strwythurau ehangach cymdeithasol yn effeithio ar yr unigolyn. Mae Fagan yn Gymrawd y Royal Society of Literature ac yn aelod o Liberty.

Cau
Glyn Maxwell

Yn mentora: Lesley James

Magwyd Glyn Maxwell yn swydd Hertford, Lloegr, ond mae o dras Cymreig. Bu ei fam Buddug-Mair Powell yn actio yng nghynyrchiadau gwreiddiol Under Milk Wood. Mae pob un o’i gasgliadau barddoniaeth wedi cyrraedd rhestri byrion prif wobrau barddoniaeth y Deyrnas Unedig, yn fwyaf diweddar Gwobr T.S. Eliot am How The Hell Are You. Enillodd The Nerve  Wobr Geoffrey Faber. Mae ei gyfrol ddiweddaraf, The Big Calls, yn brotest yn erbyn Llywodraeth y DU – ymateb y DU i bandemig Covid, ei ymdriniaeth o ymfudwyr, Afghanistan, Tŵr Grenfell, yn arddull Tennyson, Kipling, Rossetti, Oscar Wilde. Yn ddiweddar mae wedi cyhoeddi ychwanegiad i’w ganllaw On Poetry, sef Silly Games To Save The World,  llyfr am farddoniaeth, seicoleg, gwleidyddiaeth ac athroniaeth, a gellir ei ddarllen yn rhad ac am ddim ar Substack. Mae ei ddramâu wedi eu llwyfannu’n eang yn y DU a’r Unol Daleithiau. Mae’n Bennaeth Astudiaethau cwrs MA yn The Poetry School.

Facebook: https://www.facebook.com/PoetGlynMaxwell/

https://en.wikipedia.org/wiki/Glyn_Maxwell
https://glynmaxwellgmailcom.substack.com/

Cau
Grug Muse

Yn mentora: Heledd Melangell

Mae Grug Muse yn fardd ac ysgrifwr o Ddyffryn Nantlle. Daeth ei chyfrol ddiweddaraf, merch y llyn i’r brig yng nghategori barddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn, 2022. Mae hi’n un o sylfaenwyr a golygyddion Cyhoeddiadau’r Stamp a chylchgrawn barddoniaeth Ffosfforws. Mae hi hefyd yn un o gyd-olygyddion y gyfrol Welsh (plural) (Repeater, 2022), cyfrol o ysgrifau sy’n dychmygu Cymru gynhwysol a neilltuol.

Cau
Llwyd Owen

Yn mentora: Leo Drayton

Mae Llwyd Owen wedi cyhoeddi pymtheg nofel ers 2006, gan gynnwys Ffydd Gobaith Cariad, a enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn 2007, Iaith y Nefoedd, a gyrhaeddodd restr fer yr un gystadleuaeth yn 2019, a saith nofel drosedd yng nghyfres barhaus Gerddi Hwyan, sy’n dilyn hynt a helynt heddlu a thrigolion y dref ddychmygol sydd wedi’i disgrifio fel “Cwmderi ar crac” gan un adolygydd. Yn ogystal ag ysgrifennu llyfrau, mae Llwyd yn gyfieithydd ac yn diwtor ysgrifennu creadigol profiadol. Mae’n byw yng Nghaerdydd, tref ei febyd, gyda’i wraig, ei blant a’i gi.

Cau
Mike Parker

Yn mentora: Si Griffiths

Mae llyfrau Mike Parker bob amser yn cychwyn gyda’i ymwybyddiaeth o le, ond yn cynnwys cyfuniad o ysgrifennu hunangofiannol, hanes, hunaniaeth, gwleidyddiaeth a pherthyn. Maent yn cynnwys y gyfrol boblogaidd Map Addict, a’r dilyniant The Wild Rover, a gafodd gryn ganmoliaeth, a’r gyfrol Neighbours From Hell? Mae hefyd wedi ysgrifennu a chyflwyno nifer o gyfresi radio a theledu, yn cynnwys On the Map ar gyfer BBC Radio 4, ac i ITV Wales, Coast to Coast a Great Welsh Roads.

Yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf mae wedi bod yn gweithio ar drioleg lled-gysylltiedig. Mae dwy gyfrol eisoes wedi eu cyhoeddi: On the Red Hill (2019), ymdriniaeth o fywyd cwiar gefn gwlad, a enillodd wobr ffeithiol greadigol Llyfr y Flwyddyn 2020, ac a gyrhaeddodd Rhestr Fer y Wainwright Prize ar gyfer ysgrifennu natur. Fe’i dilynwyd yng ngwanwyn 2023 gan All the Wide Border, astudiaeth o’r ffin rhwng Lloegr a Chymru, fel llinell ar fap, llinell drwy hanes, a llinell yn ein pennau. Fe’i enwyd yn un o ddeg llyfr taith gorau’r flwyddyn gan Waterstones.

Gwefan: https://www.mikeparker.org.uk/

X @mikeparkerwales

Cau
Lleucu Roberts

Yn mentora: Marged Elen Wiliam

Daw’n wreiddiol o ardal Llandre yng Ngheredigion, ond mae’n byw yn Rhostryfan, Caernarfon ers tri degawd. Cafodd ei haddysg yn ysgolion Rhydypennau a Phenweddig, a phrifysgol Aberystwyth, lle cafodd Ddoethuriaeth am waith ar feirdd yr uchelwyr. Bu’n olygydd yng ngwasg Y Lolfa, cyn dilyn gyrfa fel cyfieithydd ac awdur.

Gweithiodd fel awdur a sgriptiwr ar nifer o gyfresi drama ar radio a theledu, yn cynnwys Rownd a Rownd, Pengelli, Dau Dŷ a Ni, Amdani, Perthyn a Pobol y Cwm. Mae’n awdur wyth nofel a dwy gyfrol o straeon byrion i oedolion, ac wyth nofel i blant a phobl ifanc. Enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd Pwllheli 1982, gwobr Tir na n-Og ddwywaith am Annwyl Smotyn Bach a Stwff, Gwobr Goffa Daniel Owen ddwywaith am Rhwng Edafedd (2014) a Hannah-Jane (2021), a’r Fedal Ryddiaith ddwywaith am gyfrol o straeon byrion, Saith Oes Efa (2014), a nofel Y Stori Orau (2021). 

Cau
Jacob Ross

Yn mentora: Janett Morgan

Mae Jacob Ross yn awdur, tiwtor, mentor ac yn Olygydd Cysylltiol Ffuglen gyda Peepal Tree Press – cyhoeddwr annibynnol amlwg llenyddiaeth Caribïaidd, Affricanaidd ac Asiaidd yn y Deyrnas Gyfunol. Mae wedi bod yn feirniad ar gyfer nifer fawr o wobrau, yn cynnwys y Commonwealth Writers Short Story Prize, y Scott Moncrieff Translation Prize, a gwobrau VS Pritchett a Tom Gallon.

Mae’n diwtor profiadol, yn hyfforddi ar grefft naratif, ac mae’n cynnal nifer o weithdai ysgrifennu creadigol yn y DU a thramor. Mae ei ffuglen wedi ennill nifer o wobrau, ac roedd un o’i gyfrolau ar restr Jiwbili’r Frenhines, yn cynnwys ffuglen gorau’r Gymanwlad ar gyfer pob degawd o deyrnasiad Ei Mawrhydi.

Mae Jacob Ross yn Gymrawd y Royal Society of Literature. 

Twitter: @rosswriterj

Cau
Joelle Taylor

Yn mentora: Natasha Borton

Mae Joelle Taylor yn awdur 4 casgliad o farddoniaeth. Enillodd ei chasgliad diweddaraf C+NTO & Othered Poems Wobr T. S. Eliot 2021, a gwobr Polari Book Prize 2022 ar gyfer awduron LHDT. Mae C+NTO yn cael ei addasu ar gyfer y theatr ar hyn o bryd, gyda’r bwriad o deithio. Mae hi’n gyd-guradur a chyflwynydd Out-Spoken Live yn y Southbank Centre ac mae’n teithio yn perfformio ei gwaith yma a thramor mewn rhychwant eang o leoliadau, o Awstralia i Brasil. Mae’n Gymrawd Barddoniaeth Prifysgol East Anglia ac yn guradur Gwobrau Koestler 2023. Mae wedi beirniadu sawl gwobr farddoniaeth a gwobrau llenyddol, yn cynnwys Cymrodoriaeth Jerwood, y Forward Prize a’r Ondaatje Prize. Cyhoeddwyd ei nofel o straeon wedi eu cyd-gysylltu The Night Alphabet gan Riverrun yng ngwanwyn 2024. Mae hi’n Gymrawd y Royal Society of Literature, ac yn Artist Llafar y Flwyddyn Saboteur 2022.
Er rôl actio diweddaraf oedd yn Blue gan Derek Jarman, a gyfarwyddwyd gan Neil Bartlett ac yn cynnwys Russell Tovey, Jay Bernard, and Travis Alabanza. Roedd Blue wedi gwerthu allan ar draws y DU a disgwylir rhagor o ddyddiadau ar gyfer dangosiadau yn y dyfodol.

Gwefan: http://www.joelletaylor.co.uk/

X: @jtaylortrash

Instagram: @jtaylortrash

Cau