Mae Rhiannon Oliver yn actores, bardd, ac arweinydd gweithdai. Hyfforddodd fel actores yn RADA ac mae hi wedi gweithio gyda Shakespeare’s Globe, National Theatre of Wales, Theatre Royal Bath, Manchester Royal Exchange, ac mewn llawer o theatrau eraill yn y DU a thramor. Mae hi hefyd wedi ymddangos ar y BBC a Sky TV.
Dechreuodd Rhiannon farddoni yn 2020. Ym mis Mawrth 2021, enillodd ail wobr y Gair Llafar yn Poetry for Good, cystadleuaeth genedlaethol sy'n dathlu gweithwyr allweddol. Dechreuodd ysgrifennu barddoniaeth i blant yn 2021 ac ers hynny mae wedi ymddangos yn The Caterpillar, The Dirigible Balloon, Northern Gravy, PaperBound, Buzgaga, Parakeet, Little Thoughts Press, a Launchpad. Mae ei barddoniaeth wedi ymddangos ar y teledu (Nadolig Only Boys Aloud, S4C) ac mae hi wedi creu a pherfformio barddoniaeth yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer Amser Rhigwm Mawr 2023 (Book Trust Cymru).
Mae hi’n ddysgwr Cymraeg lefel uwch ac yn gweithio i Fudiad Meithrin yn rhedeg cylchoedd chwarae Ti a Fi i blant cyn oed ysgol. Mae hi hefyd yn perfformio straeon, caneuon, a cherddi yn ei hysbyty lleol ar gyfer Interact Stroke Support. Mae hi wrth ei bodd yn cerdded yn yr awyr iach, sglodion da, a chwtsh mawr. Mae hi'n byw yng Nghaerdydd gyda'i theulu.
Sut ydych chi'n rhagweld y bydd y rhaglen hon yn eich helpu chi o ran eich datblygiad fel awdur?
"Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o’r rhaglen hon gan ei bod wedi dod ar bwynt hollbwysig yn fy ngyrfa ysgrifennu. Rwy’n edrych ymlaen at ddysgu gan arbenigwyr yn y diwydiant ac at arbrofi gyda’r math o waith rwy’n ei gynhyrchu. Rwy’n disgwyl y bydd y Dosbarthiadau Meistr a’r ystafelloedd ysgrifennu yn help mawr i mi archwilio fy mhotensial fel awdur: rwyf wrth fy modd yn ysgrifennu mewn rhigwm, ond rwy’n barod i ddatblygu fy arddull a gweld beth arall y gallaf ei wneud.
Rwy'n gwybod fy mod yn ymateb yn dda iawn i arweinyddiaeth mentor, felly rwy'n edrych ymlaen i weld yr hyn y gallaf ei gyflawni gyda blwyddyn lawn o gefnogaeth. Hefyd, gan fod fy mhrofiad ysgrifennu wedi bod yn weddol ynysig hyd at y pwynt hwn, ni allaf aros i gysylltu gydag awduron eraill sy'n dod i'r amlwg, i rannu profiadau, ac i ffurfio cymuned gefnogol. Rwyf wrth fy modd y byddwn i gyd yn cyfarfod mewn bywyd go iawn yn Nhŷ Newydd yn fuan!
Rwy’n gobeithio y bydd y rhaglen hon yn fy helpu i adeiladu ar yr hyn rwyf wedi’i gyflawni hyd yn hyn ac yn fy helpu i gyrraedd fy nod hirdymor o ddod yn fardd llawn amser i blant."
Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf fel rhan o'r rhaglen hon?
"Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o gymuned o awduron ac at gael yr amser a’r lle i ddatblygu fy ysgrifennu.
Mae gen i nifer o nodau ar gyfer y flwyddyn: y prif un yw cwblhau fy nghasgliad barddoniaeth cyntaf, a bod mewn sefyllfa i chwilio am gyhoeddwr. Bydd y casgliad hwn, sydd wedi’i anelu at blant 8-12 oed, yn archwilio iechyd meddwl, lles, a’r adegau mawr mewn bywyd. Rwyf hefyd am ddatblygu fy ngwaith ysgrifennu yn Gymraeg a chynyddu fy nghynnyrch Cymraeg gyda golwg ar gyhoeddi casgliad ar gyfer darllenwyr iau. Rwyf hefyd yn gobeithio adeiladu ar fy mhrofiad fel perfformiwr a datblygu cyfres o weithdai ‘Barddoniaeth mewn Perfformio’ y gallaf eu cynnig mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol. Rwy’n gobeithio y byddai’r gweithdai hyn yn helpu pobl ifanc i fagu hyder a datblygu perthynas weithredol ag iaith a llenyddiaeth."