Dewislen
English
Cysylltwch

Carfan Cynrychioli Cymru: 2025-2026

Freya Blyth
Mwy
Rhiannon Fielder-Hobbs
Mwy
Gwenno Gwilym
Mwy
Paz Koloman Kaiba
Mwy
Michael Kelleher
Mwy
Krystal S. Lowe
Mwy
Nadheem
Mwy
Grace O’Brien
Mwy
Claire Pickard
Mwy
Silvia Rose
Mwy
Ivy Femke Taylor
Mwy
Lowri Hedd Vaughan
Mwy
Steffan Wilson-Jones
Mwy
Gruffydd Siôn Ywain
Mwy
Freya Blyth

Awdur Cypriad Groegaidd Prydeinig yw Freya Blyth sydd wedi’i lleoli yn Aberystwyth. Cyn covid, roedd hi'n llyfrgellydd yn y Dwyrain Canol. Freya yw perchennog y siop lyfrau Bookshop by the Sea sydd wedi ennill sawl gwobr. Sefydlodd Ŵyl Farddoniaeth Aberystwyth yn 2023, a’r llynedd cwblhaodd ei gradd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae gan Freya ddiddordeb mewn archwilio themâu ysbrydolrwydd benywaidd wrth ddatblygu ei phamffled o farddoniaeth.

Cau
Rhiannon Fielder-Hobbs

Bardd o Sir Gaerfyrddin yw Rhiannon Fielder-Hobbs. Mae hi hefyd wedi byw yn Llundain, Birmingham a Chymoedd De Cymru, ac mae gan bob un ohonynt le arbennig yn ei chalon. Mae gwaith Rhiannon wedi’i gyhoeddi yn ‘Poetry Wales’, ‘The New Welsh Review’, cylchgrawn ‘Modron’ a ‘Black Bough Poetry’. Yn 2022 ymddangosodd yng nghyfres ‘Seren Esgynnol’ Just Another Poet. Mae ganddi MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac mae wedi gweithio fel awdur llawrydd. Wedi cael deiagnosis o Dyscalcwlia yn blentyn ifanc, mae Rhiannon yn angerddol am fynediad i addysg a’r celfyddydau i bawb. Mae profiad Rhiannon a’i hadferiad o salwch meddwl ôl-enedigaeth difrifol i’w gweld yn aml yn ei barddoniaeth, ochr yn ochr ag archwiliadau o hunaniaeth Gymreig ffeministaidd, ymgysylltiad ffydd blaengar a gweithrediaeth. Mae Rhiannon hefyd yn gantores, ac yn hoff o gerddoriaeth jazz.

"Bydd yn amhrisiadwy cael mentor personol. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at ddod i adnabod aelodau eraill y garfan a datblygu fy nghymuned ysgrifennu a rhwydwaith cymorth."

Cau
Gwenno Gwilym

Mae Gwenno Gwilym yn byw yn Nyffryn Ogwen ac yn mwynhau ‘sgwennu yn Gymraeg a Saesneg (ac yn aml mewn cyfuniad o’r ddau). Fe ennillodd radd MA Ysgrifennu Creadigol (Saesneg) gyda Rhagoriaeth o Brifysgol Bangor yn 2022 ac mae ei cherddi wedi cael eu cyhoeddi gan Poetry Wales, Arachne Press, Cyhoeddiadau’r Stamp a Barddas, ymhlith eraill. Roedd Gwenno yn Fardd y Mis ar BBC Radio Cymru yn 2024 a cafodd ei nofel gyntaf, V + Fo, ei chyhoeddi gan Wasg y Bwthyn ym mis Tachwedd 2024.

"Rwy'n edrych ymlaen i gael y cyfle i rannu fy ngwaith yn rheolaidd a chael adborth gan awduron eraill. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen i weld beth sydd gan bawb arall ar y gweill."

Cau
Paz Koloman Kaiba

Awdur, bardd a gwneuthurwr theatr yw Paz Koloman Kaiba, a’i waith yn llywio tiriogaethau dosbarth, undod, a goroesiad, gan gyfuno realaeth amrwd ag elfennau o swrrealaeth, hiwmor, a’r rhyfeddod. Yn raddedig o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol Aberystwyth, mae gwaith Paz yn deillio o’r croestoriadau rhwng hunaniaeth, rhywioldeb, ffydd a gwrthwynebu. Roedd Paz yn Artist Preswyl gyda rhaglen City Socials National Theatre Wales, gan weithio gyda ffoaduriaid o Wcrain i archwilio dadleoli a pherthyn. Mae ei waith blaenorol yn cynnwys ‘A Proper Ordinary Miracle’, a grëwyd gyda chymuned ddigartref Wrecsam, a ‘The Mute Messiah’, drama air am air gomig dywyll am system fudd-daliadau Prydain. Yn 2024, roedd Paz yn Artist Llwyfan yng Ngŵyl y Gelli, gan gyflwyno ‘The Mute Messiah’ i ganmoliaeth uchel.

Mae ysgrifennu Paz yn gyfuniad o’r real a’r swreal, y cyffredin a’r hynod. Mae’n waith tyner ac yn ddi-fflach, yn wynebu anghyfiawnder systemig gyda hiwmor tywyll ac empathi dwfn.

"Rwy’n cymryd y rhaglen hon fel cyfle unigryw i blymio i gyfeiriad newydd fel awdur, yn benodol drwy archwilio ysgrifennu rhyddiaith a’r grefft o ysgrifennu nofel. Rwyf hefyd yn gyffrous iawn i ymgysylltu â charfan o gyd-awduron, a dod at ein gilydd mewn gofod sy’n gefnogol ac yn greadigol. Mae’r cyfle i rannu, gwrando, a dysgu oddi wrth grŵp o unigolion o’r un anian yn teimlo’n hanfodol i’m twf fel awdur. Yr adborth, y cyfeillgarwch, yr egni cyfunol - mae'r cyfan yn rhan o'r broses greadigol rwy'n gyffrous i fynd mewn iddi."

Cau
Michael Kelleher

Mae Mike yn fab i fewnfudwyr Gwyddelig dosbarth gweithiol a weithiodd ddwy, weithiau tair, swydd i brynu ei wisg ysgol i fynd i'r ysgol ramadeg. Yno y syrthiodd mewn cariad â barddoniaeth. Er nad oedd yn llwyddiannus yn yr ysgol, arweiniodd nawdd gan undeb llafur ef at yrfa academaidd lwyddiannus, PhD o Brifysgol Caerfaddon, ysgoloriaethau ymweld a Chadeirydd pwyllgorau ymchwil rhyngwladol. Mae Mike wedi byw yn Nhorfaen yn Ne Cymru ers dros 30 mlynedd lle mynychodd gwrs ysgrifennu creadigol fel trît iddo’i hun ar ei ben-blwydd yn 70 oed. Ysgrifennodd ei gerdd gyntaf ychydig wythnosau'n ddiweddarach. Mae'n aelod o Newport Stanza sy'n gysylltiedig â'r Poetry Society, gan gyhoeddi cerddi yn ei blodeugerdd gyntaf ‘Wire: Elemental Emergency’ (2023); ‘Fragments of Memories’, Zero Dark Thirty Publishers (2024) ac yn ‘At This Place, Poets at Barnabas’ (2024). Cyrhaeddodd y rhestr fer yng Nghystadleuaeth Farddoniaeth Gŵyl Allingham (2023) a derbyniodd le Canmoliaeth Uchel yng nghystadleuaeth Bardd Pont-y-pŵl 2022. Mae Mike yn drwm ei glyw. Ysbrydolir ei gerddi yn aml gan y profiad byw hwn ynghyd â'i aelodaeth o'r alltud Gwyddelig.

"Mae ysgrifennu yn gallu bod yn broses unig ac ansicr. Rwyf wrth fy modd gyda'r posibilrwydd o gymryd rhan mewn rhaglen strwythuredig sy'n cynnig y cyfleoedd i ddysgu gan eraill i wella ansawdd fy ngwaith. Mae cydnabod bod gennyf ddigon o botensial i fod yn rhan o’r rhaglen fawreddog hon eisoes wedi rhoi hwb y mae mawr ei angen i’m hyder. Mae hwn hefyd yn gyfle gwych i gael mewnwelediad i sut i fynd i'r afael â'r heriau a wynebir gan awduron newydd i gael eu cyhoeddi'n ehangach a chael eu lleisiau wedi eu clywed."

Cau
Krystal S. Lowe

Mae Krystal S. Lowe yn awdur, bardd a sgriptiwr o Fermwd sy'n byw yng Nghymru, ac mae ei gwaith yn archwilio themâu hunaniaeth groestoriadol, lles meddyliol, a grymuso. Trwy ei gyrfa helaeth fel dawnsiwr a choreograffydd mae hi wedi cael y pleser o blethu ei hysgrifennu gyda symudiad i greu gweithiau theatr ddawns ar gyfer llwyfan, gofod cyhoeddus, a ffilm. Mae Krystal wedi ysgrifennu ffilmiau byr gan gynnwys ‘Daughters of the Sea’ ar gyfer Ffilm Cymru, BBC Arts, BBC Cymru, a Chyngor Celfyddydau Cymru; ‘Somehow’ ar gyfer Music Theatre Wales; ‘Complexity of Skin’ ar gyfer cyfres Culture in Quarantine y BBC; a ‘Seven’ i Ffilm Cymru a Rhwydwaith BFI Cymru. Ochr yn ochr â’i gwaith sgriptio, hunan-gyhoeddodd Krystal lyfr dwyieithog i blant ‘Whimsy’ sydd i’w gael mewn llyfrgelloedd yng Nghymru a Bermuda. Mae hi wedi ysgrifennu erthyglau ar gyfer cydweithrediad Wales Arts Review gyda The Guardian, cylchgrawn People Dancing, ac wedi cyfrannu at ‘Woman’s Wales?’ (Parthian Books). Yn benderfynol o rannu gwerth ysgrifennu gyda phobl ifanc, hwylusodd Krystal weithdai ysgrifennu creadigol i Llenyddiaeth Cymru ar gyfer eu rhaglen Cymru Ni ac ysgrifennodd gerdd ddwyieithog ar gyfer Amser Rhigwm Mawr Cymru BookTrust 2025. Mae Krystal yn frwd dros mynediad i’r celfyddydau ac yn awyddus i ddatblygu ei harfer ysgrifennu dwyieithog. Eleni mae hi wedi ysgrifennu ei drama ddwyieithog gyntaf ‘Aderyn’, a gomisiynwyd gan Ŵyl Theatr Ymylol gyntaf Calon Cymru yn Llanymddyfri.

"Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddatblygu fy mherthynas ag awduron Cymreig eraill a’r sector llenyddiaeth yn ei gyfanrwydd, er mwyn adeiladu fy hyder yn fy ysgrifennu fy hun a chryfhau fy nealltwriaeth o strwythurau ysgrifennu."

Cau
Nadheem

Mae Nadheem yn llenor, bardd, a hwylusydd sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd. Mae'n frwd dros ddod â hygyrchedd i'r celfyddydau. Ar hyn o bryd mae’n hwyluso sesiynau barddoniaeth mewn caffi sy’n hyrwyddo lleisiau queer a niwrowahanol, ac yn ymdrechu i bontio’r bwlch rhwng mynegiant artistig ac ymgysylltiad cymunedol. Mae'n defnyddio ei brofiad byw fel ymfudwr i greu mannau croesawgar lle mae creadigrwydd yn cael ei annog waeth beth fo'i sgil neu arbenigedd penodol. Mae wedi perfformio ar lafar mewn digwyddiadau fel ‘You're Invited’ yn y Cabaret yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ‘South Asian Heritage Month Showcase’ yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter, a ‘The Acoustic Afternoon’ ar gyfer Trans Pride Caerdydd. Mae'n ysgrifennu er mwyn cysylltiad, trwy archwilio diaspora, anghyfiawnder, a natur ddramatig bywyd.

"Rwy’n gobeithio dod â strwythur i’m hysgrifennu, a chael fy mentora ar sut i fanteisio’n llwyr ar fy mhotensial a mynd i’r afael â phryder creadigol. Rwy’n edrych ymlaen at y penwythnosau ysgrifennu preswyl, at gyfarfod a rhyngweithio â’m carfan, at gydweithio a chael cipolwg ar y diwydiant ysgrifennu yng Nghymru. Yn gyffredinol, rwy’n edrych ymlaen at neilltuo amser a gofod bwriadol i gefnogi a meithrin fy ymarfer ysgrifennu, a dysgu a thyfu gydag eraill sydd ar gamau tebyg yn eu gyrfa ysgrifennu."

Cau
Grace O’Brien

Mae Grace O’Brien yn actor-gerddor, awdur a chynhyrchydd Cymreig-Wyddelig, dosbarth gweithiol, dwyieithog, o Gymoedd De Cymru. Mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Artistig Purple String Productions Ltd. Enillodd radd Dosbarth 1af mewn Drama o Brifysgol Caerwysg cyn astudio yn y Royal Central School of Speech and Drama. Mae ei gwaith actio yn cynnwys ‘The Snow Queen’ (Theatr y Sherman), ‘Stella’ (Sky 1), a’r ddrama drosedd sydd wedi ennill gwobr BAFTA Cymru, ‘35 Diwrnod’ (S4C).

Cymrodd Grace ran ym Mhrosiect Fresh Ink y Sherman ar gyfer awduron o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is a chafodd ysgoloriaeth i weithwyr llawrydd gan Theatr Clwyd, a ddefnyddiodd i lansio ei chwmni. Mae ei phrosiect ysgrifennu 'The Welsh Lxdies' wedi bod yn cael ei ddatblygu ers 2019 ac mae wedi'i ysbrydoli gan y Fonesig Gymreig yn ‘Harri IV Rhan 1’ sydd heb unrhyw linellau ei hun ond sy’n yn bodoli mewn cyfarwyddiadau llwyfan a safbwyntiau eraill yn unig. Mae 'The Welsh Lxdies' yn adferiad episodig dwyieithog o Fenywdod, Cymreictod, Rhywioldeb a Hunaniaeth. Cafodd fersiwn cynnar o’r ddrama ei chyflwyno yn The Other Room (2022), Gŵyl VAULT Llundain (2023) ac yn ddiweddar ymgymerodd ag Ymchwil a Datblygu gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer datblygiad pellach.

Cymerodd Grace ran yng nghwrs 'Ailddyfeisio'r Prif gymeriad' Llenyddiaeth Cymru mewn cydweithrediad â Chelfyddydau Anabledd Cymru ac mae ei genres ysgrifennu yn bennaf yn cynnwys barddoniaeth, gair llafar, testunau chwarae, cofiannau a ffuglen naratif (weithiau i gyd ar unwaith!).

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gael fy nhrochi mewn ysgrifennu! Rwy'n arbennig o gyffrous am gael nodau, terfynau amser a strwythur (fel arall rwy'n pendilio rhwng ysgrifennu deg cerdd mewn diwrnod i beidio ag ysgrifennu am 3 mis!). Rydw i mor gyffrous i ddysgu am gyhoeddi yng Nghymru trwy'r gweithdai a chlywed straeon gan awduron llwyddiannus sy'n fy ysbrydoli."

Cau
Claire Pickard

Cafodd Claire Pickard ei magu yn ne Lloegr ond mae wedi byw yng nghanolbarth Cymru ers dros 15 mlynedd. Mae ganddi MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Bath Spa a DPhil mewn Llenyddiaeth Saesneg o Brifysgol Rhydychen. Mae Claire yn ysgrifennu ar gyfer y ‘New Welsh Review’ a'r ‘TLS’. Enillodd un o’i straeon byrion y wobr gyntaf yng Nghystadleuaeth Stori Fer Gŵyl Frome. Mae hi wedi cwblhau drafft o’i nofel gyntaf ac ar hyn o bryd yn gweithio ar gasgliad o straeon byrion.

"Rwy’n gobeithio y bydd y berthynas gyda fy mentor yn fy ngalluogi i fireinio fy llais llenyddol a hogi fy sgiliau golygyddol, tra’n fy ngalluogi i lunio rhai straeon byrion a all ddod yn sail i gasgliad."

Cau
Silvia Rose

Mae Silvia Rose yn awdur, yn diwtor ac yn weithiwr llawrydd, wedi ei geni a'i magu ym mynyddoedd Eryri. Mae ei hysgrifennu’n amrywio o ryddiaith i farddoniaeth i ffeithiol greadigol ac mae wedi’i hysbrydoli i raddau helaeth gan ei gwreiddiau Cymreig a Serbaidd, teithio a mytholeg. Astudiodd Silvia Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Dwyrain Anglia cyn teithio am nifer o flynyddoedd a gweithio fel athrawes Saesneg. Ers symud yn ôl adref i Gymru, mae hi wedi hunan-gyhoeddi ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth, ‘Spell into Being’, wedi’i dewis yn un o garfan cwrs Egin Awduron Llenyddiaeth Cymru, ar restr fer Gwobr Stori Fer Rhys Davies, ac wedi’i chyhoeddi mewn amrywiol flodeugerddi, gan gynnwys ‘Lipstick Eyebrows’ (Gwasg Honno). Ochr yn ochr â’i rôl fel Cyd-gyfarwyddwr Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru, mae Silvia yn cynnal gweithdai ysgrifennu i helpu pobl i ddatblygu eu prosiectau creadigol. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar nofela lled-hunangofiannol chwedlonol ‘Mediterranean Gothic’ yn seiliedig ar ei chyfnod yn byw yn Granada, Sbaen – y mae’n bwriadu ei chyhoeddi fel ei darn llawn cyntaf. Mae Silvia wrth ei bodd yn darllen ffuglen gyfoes dywyll, ffilm, archwilio lleoedd newydd a dod â phobl ynghyd. Coffi cryf ar falconi heulog yw ei nefoedd.

"I hope this opportunity will propel me on to the next level of my writing career, giving me contacts in the industry, and crucially, confidence in myself. Using the traction from publishing my first novel, I see myself contributing regularly to a range of Welsh and UK-based outlets, and taking part in international residencies and cultural exchanges, representing Welsh literature abroad and bringing back inspiration from diverse communities."

Cau
Ivy Femke Taylor

Based in the dark depths of rural Radnorshire, Ivy Femke Taylor can usually be found dissolving in a bathtub or aggressively singing along to Cheekface. She attended Aberystwyth University where she received a BA and MA in History, then spent the next ten years bouncing between careers with increasing levels of dissatisfaction. A former political campaigns organiser, journalist, third sector worker, carer, and county council desk jockey, she has finally found purpose as a creative writer and layabout. She volunteers with TransActual as a community submissions editor, and helped organise the first ever Powys Pride in 2022. Her main interests are swimming, navel gazing, and Dungeons & Dragons.

"Wedi’i lleoli yng nghefn gwlad Sir Faesyfed, mae Ivy Femke Taylor fel arfer i’w gweld yn hydoddi mewn bath neu’n canu’n angerddol i Cheekface. Mynychodd Brifysgol Aberystwyth lle derbyniodd BA ac MA mewn Hanes, yna treuliodd y deng mlynedd nesaf yn neidio rhwng gyrfaoedd gyda lefelau cynyddol o anfodlonrwydd. Yn gyn-drefnydd ymgyrchoedd gwleidyddol, yn newyddiadurwr, yn weithiwr trydydd sector, yn ofalwr ac yn weithiwr y cyngor sir, mae hi o'r diwedd wedi canfod pwrpas fel awdur creadigol. Mae'n gwirfoddoli gyda TransActual fel golygydd cyflwyniadau cymunedol, a helpodd i drefnu y Pride Powys cyntaf erioed yn 2022. Ei phrif ddiddordebau yw nofio, bogailsyllu, a Dungeons & Dragons."

Cau
Lowri Hedd Vaughan

Mae Lowri Hedd Vaughan (hi/nhw) yn ymarferydd adfywiol o Fôn ac yn angerddol tros adferiad systemau byw naturiol. Mae ei cherddi ac ysgrifau byrion yn cwmpasu eco-ffeminyddiaeth, perthnasu, gwrthsafiad a throsgynnedd. Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi, ei arddangos a’i berfformio yn lleol a chenedlaethol. Blodeugerdd Y Stamp: Dweud y drefn pan nad oes trefn; Prosiect Triongl:Pontio yn 2021; Cylchgrawn digidol Celf ar y Cyd:Cynfas #11; Cywaith rhyngwladol Gwrthbwynt, Literature Across Frontiers, llwyfan Creiriau a mwy. Bu Lowri yn fardd y mis Radio Cymru ym mis Awst 2024. Rhwng ei gwaith hwyluso cymunedol gyda mudiad newid hinsawdd, GwyrddNi, gofal ei theulu ac
anturiaethau môr a mynydd, mae hi’n gobeithio cyhoeddi pamffled o gerddi a chwblhau ei nofel gyntaf….rhywdro!

"Mae pob cyfle dwi wedi ei gael i fynychu gweithdai a gofodau gydag ysgrifenwyr eraill wedi bod yn drawsnewidiol i mi. Yr her mwyaf sydd gen i ydy cael digon o amser i allu ymgolli yn y gwaith o ysgrifennu. Yn aml iawn mae rhyw noswaith yma neu fore acw ac mae'n anodd cynnal ffrwd y meddwl felly. Bydd mentor, cyfoedion a sesiynau rheolaidd yn cynnig mwy o strwythr, mwy o ysbrydoliaeth a mwy o atebolrwydd wrth i mi ddrafftio penodau o fy nofel a chasglu casgliad o gerddi at ei gilydd."

Cau
Steffan Wilson-Jones

Mae Steffan Wilson-Jones yn sgwennwr a chynhyrchydd theatr o Ddyffryn Clwyd, sydd bellach yn byw yn Nghaerdydd. Mae’n mwynhau pob math o ysgrifennu, gyda brwdfrydedd mawr am strwythur naratif annisgwyl, hunaniaeth Gymreig, comedi tywyll a gwleidyddol. Mae Steff yn gweithio i Theatr Cymru fel Cynhyrchydd Cynorthwyol ar hyn o bryd. Mae hefyd wedi astudio am MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion, lle cafodd ei herio i ysgrifennu am bob math o bynciau ar sawl ffurf. Cafodd ei waith, ‘Smoking Area’ ei ffilmio fel ffilm fer ar y cyd â Ysgol Actio MMU.

Mae Steff hefyd wedi gweithio fel Cynhyrchydd Cynorthwyol ar y ffilm ‘Y Sŵn’ gan Roger Williams, a fel Golygydd Sgript ar Pobol y Cwm. Mae wrth ei fodd yn sgwennu yn y Gymraeg a'r Saesneg, cyfansoddi, chwarae'r piano, rhedeg, a chanu mewn côr. Mae’n gweithio ar nofel a sioe gerdd ar hyn o bryd. Mae gan Steff ddiddordeb mawr mewn sgwennu am berthnasoedd, gwleidyddiaeth Cymru, ysbrydolrwydd, crefydd a dwyieithrwydd, yn ogystal ac ymchwilio pynciau tywyll a thabŵ drwy hiwmor tywyll ac abswrd. Mae’n edrych ymlaen i sgwennu yn fwy ac yn fwy yn dyfodol, a meithrin ei sgiliau wrth iddo ddatblygu fel awdur.

"Credaf bydd y rhaglen hon yn brofiad gwerthfawr er mwyn wneud cysylltiadau hefo awduron eraill, datblygu fy nghrefft, a chael fy nhywys can awduron profiadol ar hyd y daith. Mi fydd y cynllun yn fy ngalluogi i ddatblygu fel awdur, a bydd y dosbarthiadau meistr yn fewnolwg amhrisiadwy mewn i'r diwydiant yng Nghymru a thu hwnt, a'n ffordd gwych o ddatblygu fel awdur a fel person yn yr un modd. Dwi methu aros i ddechrau!"

Cau
Gruffydd Siôn Ywain

Ymarferydd creadigol aml-gyfrwng yw Gruff sy’n gweithio’n bennaf ym maes drama a dylunio.

Magwyd yn Nolgellau cyn symud i Lundain i astudio Dylunio Graffeg a Chyfathrebu yng Ngholeg Chelsea. Treuliodd bymtheg mlynedd yn y ddinas yn gweithio fel dylunydd, Erbyn hyn mae wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ble mae’n gweithio fel Cyfarwyddwr Creadigol yn y BBC, yn gyfrifol am systemau cynhyrchu a chreadigol y gorfforaeth.

Enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022 gyda'i ddrama gyntaf 'Nyth'. Ers hynny mae wedi mynd ymlaen i gydweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Clwyd i ysgrifennu 'Maes o Law' ar gyfer sioe Ha/Ha yn Eisteddfod Genedlaethol
Pontypridd. Mae wedi ysgrifennu sawl pennod o’r gyfres ddrama boblogaidd Pobol y Cwm ac yn rhan o gynllun datblygu awduron newydd Rondo.

Enillodd wobr y gwaith celf gorau am ei waith gweledol ar albwm diweddaraf Sŵnami ac mae wedi bod yn gweithio yn ddiweddar ar ddylunio creadigol i Eden, Gwasg y Bwthyn a Barddas. Bu’n gyfrifol am gyfeiriad gweledol Curiadau, y flodeugerdd gyntaf o’i fath yn y
Gymraeg gan awduron o’r gymuned LHDTC+ a lansiwyd yn 2023. Mae hefyd yn aelod o Is-bwyllgor Datblygu Cyhoeddi Cyngor Llyfrau Cymru.

"Dwi'n gobeithio bydd rhaglen Cynrychioli Cymru yn rhoi hyder i mi ddatblygu fy ngwaith ysgrifennu i gyfrwng newydd, cysylltu gyda chymuned greadigol i rannu gyda nhw a chyfrannu a derbyn syniadau ac adborth, ac elwa o brofiad mentor profiadol i ddatblygu
fy nghrefft."

Cau