Gwybodaeth a Chefndir
Beth yw’r rhaglen?
Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen 12 mis o hyd sy’n darparu cyfleoedd datblygu i awduron sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector llenyddiaeth yng Nghymru ar hyn o bryd. Gwahoddwn unrhyw awduron o gefndiroedd sy’n cael eu tangynrychioli sy’n dymuno datblygu eu sgiliau sgwennu creadigol a’u gyrfaoedd proffesiynol i ymgeisio.
Beth mae’r rhaglen yn ei gynnwys?
Mae Cynrychioli Cymru yn cefnogi carfan o 14 o awduron yn flynyddol drwy gynnig y canlynol:
- Ysgoloriaeth ariannol o £3,000
- Hyd at £300 o nawdd pellach ar gyfer teithio a thocynnau .
- Mentor personol
- Rhaglen hyfforddi ddwys ar grefft ac ar ddatblygiad gyrfa proffesiynol sy’n cynnwys awduron byd-enwog fel tiwtoriaid a siaradwyr gwadd gan gynnwys ystafelloedd ysgrifennu ar-lein a dosbarthiadau meistr, gydag un ohonynt yn benwythnos preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
- Cyfleoedd cyson i rannu gwaith creadigol ac adborth ymysg y garfan
- Cyfleoedd rhwydweithio trwy gydol y flwyddyn, ar-lein a wyneb yn wyneb
- Cefnogaeth bwrpasol gan Llenyddiaeth Cymru gan gynnwys cyngor, cyfeirio a nodi cyfleoedd
- Rhaglen ôl-ofal bwrpasol
Pam fod Llenyddiaeth Cymru yn cynnal y rhaglen hwn?
Mae Llenyddiaeth Cymru am i ddiwylliant llenyddol Cymru gynrychioli amrywiaeth y boblogaeth. Nid yw’r cyfleoedd sydd ar gael yn y byd llenyddol yn gyfartal, ac mae nifer o awduron yn wynebu rhwystrau sylweddol yn y diwydiant llenyddiaeth a chyhoeddi.
Gwyddom fod y sector yn dal i gyflwyno amrywiaeth o rwystrau sy’n atal awduron, darllenwyr a chynulleidfaoedd rhag cyrchu llenyddiaeth. Mae cynrychiolaeth a chydraddoldeb yn flaenoriaethau i Llenyddiaeth Cymru. Nod ein gwaith yw helpu i lunio sector sy’n cefnogi mynediad cyfartal i bawb drwy fynd i’r afael ag anghydraddoldebau hanesyddol a strwythurol a thrwy lwyfannu a datblygu lleisiau amrywiol.
Dysgwch fwy am ein gwaith Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb yn ein Cynllun Strategol Llenyddiaeth Cymru (2022-2027)