Cwestiynau Cyffredin
Os oes gennych gwestiynau am raglen Cynrychioli Cymru, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin isod.
Os na allwch weld yr ateb i’ch cwestiwn, e-bostiwch Llenyddiaeth Cymru ar post@llenyddiaethcymru.org neu ffoniwch ni am sgwrs anffurfiol ar 01766 522 811 (Swyddfa Tŷ Newydd) neu 029 2047 2266 (Swyddfa Caerdydd).
Bydd staff Llenyddiaeth Cymru ar gael i ateb eich cwestiynau yn ystod dwy sesiwn ddigidol anffurfiol, rhwng 6.00 pm – 7.00 pm ar ddydd Iau 16 Hydref a dydd Mercher 5 Tachwedd 2025. Cliciwch ar y dyddiadau a amlygwyd i archebu eich tocyn am ddim drwy’r porth ar-lein, neu gofynnwch am le trwy e-bostio post@llenyddiaethcymru.org, gan ddefnyddio ‘Sesiwn Galw Heibio Cynrychioli Cymru’ fel llinell y testun.
Mae’r ddogfen hon ar gael i’w lawrlwytho mewn fformat print bras a fformat dyslecsia-gyfeillgar. Ewch i waelod y dudalen hon er mwyn lawrlwytho’r fersiynau hyn.