Dewislen
English
Cysylltwch

I wneud cais, a wnewch chi gwblhau’r ffurflen gais trwy’r porth ar-lein. Byddwch yn gallu cadw a golygu eich ymatebion ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod ymgeisio. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes arnoch angen cymorth i ddefnyddio’r porth, cysylltwch â ni. Bydd aelod o’r tîm yn hapus i’ch cynorthwyo. 

Bydd y cais am gais yn gofyn am eich manylion personol, cwestiynau a fydd yn ein helpu i asesu eich cymhwyster a sut y byddai rhaglen Cynrychioli Cymru yn eich cynorthwyo yn eich gyrfa ar hyn o bryd.  Byddwn hefyd yn eich gwahodd i uwchlwytho sampl byr (1,000 o eiriau neu 4-6 o gerddi) o’ch gwaith ysgrifennu creadigol sydd heb ei gyhoeddi. 

Am wybodaeth ychwanegol ynglŷn â chymhwysedd, ac os ydych yn cyflwyno nofel graffeg neu farddoniaeth llafar, cyfeiriwch at y Cwestiynau Cyffredin.  

Mae fersiynau Dyslecsia Gyfeillgar a Phrint Bras o’r ffurflen gais a’r cwestiynau cyffredin ar gael ar y dudalen dogfennau. Os byddai’n well gennych lenwi un o’r ffurflenni hyn yn hytrach na’r ffurflen gais ar-lein, anfonwch eich ffurflen at post@llenyddiaethcymru.org ynghyd ag enghraifft o’ch gwaith creadigol. 

Cefnogaeth i Ymgeiswyr 

Bydd staff Llenyddiaeth Cymru hefyd ar gael i ateb eich cwestiynau yn ystod dwy sesiwn digidol anffurfiol rhwng 6.00 pm – 7.00 pm ar ddydd Iau 16 Hydref a dydd Mercher 5 Tachwedd 2025. Cliciwch ar y dyddiadau a amlygwyd i archebu eich tocyn am ddim drwy’r porth ar-lein, neu gofynnwch am le trwy e-bostio post@llenyddiaethcymru.org gan ddefnyddio ‘Sesiwn Galw Heibio Cynrychioli Cymru’ fel llinell y testun. 

Fel arall, anfonwch e-bost at Llenyddiaeth Cymru post@llenyddiaethcymru.org 

post@llenyddiaethcymru.org neu ffoniwch ni am sgwrs anffurfiol ar 01766 522 811 (Swyddfa Tŷ Newydd) neu 029 2047 2266 (Swyddfa Caerdydd).Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y broses ymgeisio yn hygyrch a chroesawgar. 

Nôl i Cynrychioli Cymru 2026-2027