Dewislen
Eng
Cysylltwch

Cwestiynau Cyffredin

Os oes gennych gwestiynau am raglen Cynrychioli Cymru, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin isod.

Os na allwch weld yr ateb i’ch cwestiwn, e-bostiwch Llenyddiaeth Cymru ar post@llenyddiaethcymru.org neu ffoniwch ni am sgwrs anffurfiol ar 01766 522 811 (Swyddfa Tŷ Newydd) neu 029 2047 2266 (Swyddfa Caerdydd).

Bydd staff Llenyddiaeth Cymru ar gael i ateb eich cwestiynau yn ystod dwy sesiwn ddigidol anffurfiol, rhwng 6.00 pm – 7.00 pm ar Ddydd Mercher 11 Tachwedd a Dydd Iau 19 Tachwedd 2026. Cliciwch ar y dyddiadau a amlygwyd i archebu eich tocyn am ddim drwy’r porth ar-lein, neu gofynnwch am le trwy e-bostio post@llenyddiaethcymru.org, gan ddefnyddio ‘Sesiwn Galw Heibio Cynrychioli Cymru’ fel testun i’r neges.

Mae’r ddogfen hon ar gael i’w lawrlwytho mewn fformat print bras a fformat dyslecsia-gyfeillgar.

Y Broses Ymgeisio

Sut mae gwneud cais?

I wneud cais am le ar raglen Cynrychioli Cymru, bydd angen i chi gyflwyno:

  1. Ffurflen gais wedi’i chwblhau 

Bydd y ffurflen gais yn gofyn am eich manylion personol, gan gynnwys manylion a fydd yn ein helpu i asesu cymhwystra.

Gofynnir i chi ateb tri chwestiwn sy’n canolbwyntio ar:

  • Eich profiad ysgrifennu, yn cynnwys enwau unrhyw gyhoeddiadau a rhaglenni datblygu awduron neu gyrsiau rydych wedi eu mynychu.
  • Eich uchelgeisiau ysgrifennu, a sut rydych yn gobeithio byddai rhaglen Cynrychioli Cymru yn eich cefnogi er mwyn gwireddu eich uchelgeisiau, a sut byddai eich llais yn cyfrannu at y sîn llenyddol yng Nghymru
  • Pam nawr? Sut byddai Cynrychioli Cymru yn eich cynorthwyo ar yr adeg hon yn eich gyrfa? 

Gallwch gyflwyno eich cais ar-lein trwy’r porth ar-lein. Byddwch yn gallu cadw a golygu eich ymatebion ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod ymgeisio. Ar ôl I ni dderbyn eich cais trwy’r porth, bydd copi llawn o’ch cais yn cael ei anfon atoch ar gyfer eich cofnodion.

I’ch helpu i baratoi’ch cais, gallwch lawrlwytho’r ffurflen gais i’w darllen mewn fformatau Dyslecsia Gyfeillgar a Phrint Bras. Os byddai’n well gennych lenwi un o’r ffurflenni hyn yn hytrach na drwy’r porth ar-lein, anfonwch eich ffurflen at post@llenyddiaethcymru.org ynghyd ag enghraifft o’ch gwaith creadigol.

 

  1. Sampl o’ch gwaith creadigol sydd heb ei gyhoeddi.

Bydd y ffurflen gais yn gofyn ichi uwchlwytho un o’r opsiynau canlynol:

  • 4-6 cerdd; NEU

 

  • Sampl o lawysgrif ffeithiol greadigol yr hoffech ei datblygu yn ystod y rhaglen hon (uchafswm o 1,000 o eiriau) NEU

 

  • Sampl o lawysgrif ffuglen yr hoffech ei datblygu yn ystod y rhaglen hon (uchafswm o 1,000 o eiriau) NEU

 

  • A wnewch chi uwchlwytho neu anfon eich gwaith creadigol mewn un ddogfen Word neu PDF. Dylai’r gwaith creadigol fod heb wedi ei gyhoeddi adeg ymgeisio, ac fe ddylai adlewyrchu’r prosiect yr hoffech ei ddatblygu fel rhan o’r rhaglen. Derbynnir gwaith sydd wedi ei hunan-gyhoeddi. Anogir awduron i ystyried yn ofalus pa ddarn o waith sydd yn adlewyrchu eu gwaith ar ei orau.

 

  • O ydych yn cyflwyno barddoniaeth, anfonwch gerddi sydd yn ddigon hir i roi blas o’ch llais creadigol i’r panel, ond heb fod yn rhy hir.

 

  • Ar gyfer gwaith ffeithiol greadigol a ffuglen, mae croeso i chi ychwanegu ychydig frawddegau er mwyn rhoi cyd-destun i’r darn; fodd bynnag caiff hyn ei gyfrif a’i gynnwys o fewn y terfyn 1,000 o eiriau.

 

  • Noder ar gyfer gwaith ffeithiol greadigol a ffuglen a gyflwynir, bydd aseswyr yn darllen ac yn asesu uchafswm o 1,000 o eiriau; ni chaiff unrhyw eiriau tu hwnt i’r 1,000 cyntaf eu darllen na’u hystyried.

 

  • Os yw eich gwaith ar y gweill yn un a berfformir, anfonwch ddogfen Word gyda linc i’r fideo (er enghraifft, fel fideo preifat YouTube, linc WeTransfer, neu mewn ffolder OneDrive). Dylai eich fideo fod ddim mwy na 10 munud o hyd.
Pa gategorïau o ysgrifennu creadigol ydych chi'n eu derbyn y flwyddyn hon?

Ar gyfer rhaglen 2027-2028, rydym yn croesawu gwaith creadigol ar gyfer oedolion.

Mae hyn yn cynnwys y genres canlynol:

  • Barddoniaeth
  • Ffuglen (nofelau, straeon byrion, nofela)
  • Ffeithiol greadigol (yn cynnwys cofiannau, bywgraffiadau, hanes cymdeithasol, ysgrifennu teithio)
  • Perfformiadau llafar a/neu rap

Nodwch fod y canlynol yn anghymwys, ac nid ydynt yn cael eu cefnogi gan raglen Cynrychioli Cymru eleni: Nofelau graffeg, sgriptiau ar gyfer teledu, ffilm a theatr; adrodd straeon llafar; ysgrifennu academaidd; ysgrifennu ar gyfer plant a/neu oedolion ifanc; cyfieithiadau.

Os ydych yn ansicr a yw eich gwaith creadigol yn gymwys ai peidio, cysylltwch â ni ar post@llenyddiaethcymru.org  i sgwrsio gydag aelod o staff.

Rwy'n artist gair llafar - sut mae anfon sampl o fy ngwaith atoch?

Os ydych yn artist llafar / yn berfformiwr a byddai’n well gennych anfon perfformiad fideo o’ch gwaith creadigol gwreiddiol, gofynnwn i chi uwchlwytho dogfen Word yn cynnwys dolen i’r fideo (er enghraifft, fel fideo preifat YouTube, linc WeTransfer, neu mewn ffolder OneDrive). Ni ddylai ceisiadau fideo fod yn hirach na deg munud.

Dylid anfon Ffurflenni Dyslecsia Gyfeillgar a/neu Ffurflenni Print Bras at post@llenyddiaethcymru.org ynghyd â’ch gwaith

Pryd mae'r dyddiad cau? 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer rhaglen Cynrychioli Cymru 2027-28 yw: 5.00 pm, Dydd Iau 26 Tachwedd 2026. 

Cymhwystra

Pwy sy’n gymwys i wneud cais? 

Rydym wedi ymrwymo i helpu i greu diwylliant llenyddol sydd wir yn cynrychioli amrywiaeth ein poblogaeth yng Nghymru.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan awduron sy’n dod o gefndiroedd sydd heb gynrychiolaeth deg. Rydym yn awyddus iawn i gefnogi awduron sy’n uniaethu fel un neu sawl un o’r canlynol:

  • Byddar a/neu drwm eu clyw
  • O gefndir incwm isel*  

*Mae ein meini prawf ar gyfer cefndir incwm isel yn cynnwys unigolion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, neu yr oedd eu rhieni mewn swyddi cyflog isel, yn ddi-waith, neu’n derbyn budd-daliadau (gan gynnwys lwfansau anabledd) pan oedd yr ymgeiswyr yn 14 oed.

  • Perthyn i gymunedau Sipsiwn, Roma a/neu Deithwyr  
  • LHDTC+  
  • Niwroamrywiol*  

*Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: Awtistiaeth, ADHD, Dyslecsia, Dyspracsia, Syndrom Tourette ac OCD. 

  • Pobl o gefndir Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig 
  • Unigolion sy’n byw gydag anableddau neu gyflyrau iechyd hirdymor*  

*h.y. wedi parhau neu y disgwylir i barhau am o leiaf 12 mis ac yn cael effaith andwyol ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.

Rydym yn gwerthfawrogi fod unigolion a chymunedau eraill heb gynrychiolaeth deg yn y sector lenyddol, a bydd hefyd awduron nad ydynt yn uniaethu â’r categorïau uchod, felly bydd cyfle i ymgeiswyr egluro yn eu geiriau eu hunain pam eu bod yn credu eu bod yn gymwys i wneud cais.

Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed a rhaid iddynt fod yn byw yng Nghymru ar adeg gwneud y cais a thrwy gydol y rhaglen 12 mis, heblaw am awduron sydd yn ymgeisio i ddatblygu eu gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg.

Pwy sydd ddim yn gymwys i wneud cais?

Mae’n ddrwg gennym nad yw’r rhaglen ar agor i fyfyrwyr llawn-amser, na gweithwyr Llenyddiaeth Cymru a’i noddwyr, yn cynnwys ymddiriedolwyr cyfredol neu sydd wedi ymddeol yn ddiweddar, nac unigolion sy’n llywodraethu, na’r rhai sydd wedi bod yn rhan o raglen Cynrychioli Cymru yn y gorffennol.

Os ydych yn ansicr a ydych yn gymwys ai peidio, cysylltwch â ni ar post@llenyddiaethcymru.org i sgwrsio gydag aelod o staff.

 

Rwy'n Ffoadur a/neu'n Geisiwr Lloches, a allaf wneud cais?

Cysylltwch â ni ar post@llenyddiaethcymru.org i drafod eich sefyllfa gydag aelod o dîm Llenyddiaeth Cymru. 

Pa lefel o brofiad dylwn i gael i wneud cais? 

Mae’r cyfle hwn yn bennaf ar gyfer egin awduron, awduron gyrfa gynnar neu gyrfa ganolig ac sydd eisiau datblygu gyrfa fel awdur proffesiynol.

Bydd gan bawb ddiffiniad gwahanol o beth yw egin awdur, gyrfa gynnar neu ganolig, a lle maent yn credu eu bod ar eu taith fel awdur. Fel canllaw:

  • Ni ddylai ymgeiswyr fod wedi cyhoeddi casgliad hyd llawn o farddoniaeth neu lawysgrif yn y genre/iaith y maent yn ymgeisio ynddi. Serch hynny, rydym yn croesawu awduron mwy profiadol sy’n mentro gyda genre newydd neu iaith newydd.

Bydd y Panel Asesu yn edrych ar botensial, uchelgais a gwreiddioldeb ymgeiswyr. Os ydych yn ansicr ai dyma’r rhaglen iawn i chi ar y cam hwn o’ch gyrfa ysgrifennu, cysylltwch â ni i drafod gydag aelod o dîm Llenyddiaeth Cymru.

Rwyf wedi hunan-gyhoeddi o'r blaen, a allaf wneud cais?  

Gallwch, cyhyd â bod y gwaith a gyflwynir gyda’ch cais heb ei gyhoeddi ar hyn o bryd.

Ym mha iaith y caiff y rhaglen hon ei chynnal?

Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen ddwyieithog, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan awduron o Gymru sy’n ysgrifennu yn Gymraeg a/neu Saesneg. Mae croeso mawr i awduron sydd â diddordeb mewn dechrau ysgrifennu yn y Gymraeg am y tro cyntaf, yn ogystal ag awduron sy’n mwynhau arbrofi gyda’r ddwy iaith yn eu gwaith creadigol.

Bydd pob digwyddiad yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, yn ddibynnol ar ddewis iaith y garfan.

Os byddwch yn ysgrifennu’n greadigol mewn unrhyw iaith arall, byddwn yn ceisio’ch cynorthwyo drwy eich paru â Mentor addas sydd hefyd yn rhugl yn yr iaith honno.

Sylwch mai dim ond enghreifftiau o ysgrifennu creadigol yn Gymraeg neu Saesneg y gallwn eu hasesu. Os byddwch yn cyflwyno gwaith creadigol gwreiddiol mewn iaith arall, bydd angen i chi hefyd gyflwyno cyfieithiad o’r gwaith i’r Gymraeg neu’r Saesneg.

Rwyf wedi derbyn Ysgoloriaeth gan Llenyddiaeth Cymru neu wedi cymryd rhan mewn cynlluniau Mentora yn y gorffennol, a allaf wneud cais?

Gallwch – rydym am i’r rhaglen fod yn agored i gynifer o awduron cymwys â phosibl. 

Y Broses Asesu

Sut bydd fy nghais yn cael ei asesu? 

Bydd eich cais yn cael ei asesu gan banel annibynnol o arbenigwyr a fydd yn asesu:

  • Potensial creadigol ac ansawdd yr ysgrifennu a gyflwynwyd, yn ogystal â’r gwreiddioldeb a ffresni’r syniadau a’r llais yn eich gwaith.
  • Addasrwydd y rhaglen hon i chi ar y pwynt hwn yn eich gyrfa fel awdur

Sgrinio Proffil

Bydd pob cais yn cael ei wirio gan dîm Llenyddiaeth Cymru i sicrhau bod yr awdur yn gymwys ar gyfer y rhaglen.

Sylwch fod y wybodaeth a ddarperir yn eich cais yn gyfrinachol ac y caiff ei defnyddio er mwyn asesu mewnol yn unig.

Bydd Llenyddiaeth Cymru yn sifftio’r ceisiadau er mwyn creu rhestr fer i’r Panel Asesu annibynnol eu hystyried. Fe all y Panel Asesu wirio ceisiadau aflwyddiannus ar unrhyw adeg yn ystod y broses ddyfarnu.

Bydd y Panel Asesu yn darllen pob cais ar y rhestr fer ar wahân ac yn dyfarnu marc i bob ymgeisydd, yn defnyddio meini prawf gan edrych ar botensial ac ansawdd y darn ysgrifennu creadigol a gyflwynwyd gennych, yn ogystal ag addasrwydd y rhaglen hon ar eich cyfer. Bydd y penderfyniad terfynol yn digwydd yn ystod cyfarfod Panel lle caiff y 10 awdur llwyddiannus eu dewis.

Mae ein statws fel sefydliad dwyieithog, cenedlaethol yn ein hymrwymo i sicrhau bod ystod o awduron yn gallu elwa o’n cyfleoedd. Gall y Panel Asesu hefyd ystyried cydbwysedd ieithyddol a daearyddol, a chynrychiolaeth wrth ddewis ymgeiswyr.

Pwy yw'r Panel Asesu? 

Mae Llenyddiaeth Cymru yn dirprwyo’r gwaith o ddethol y garfan i Banel Asesu, a gaiff ei benodi bob blwyddyn. Mae’r Panel yn cynnwys unigolion sydd ag arbenigedd mewn amrywiaeth o genres creadigol, a’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt.

Caiff manylion am Banel Asesu 2027 eu cyhoeddi mewn ychydig wythnosau.

Faint o lefydd fydd ar gael ar raglen Cynrychioli Cymru 2027-28? 

Mae 10 o lefydd ar gael ar raglen Cynrychioli Cymru 2027-28.

Os byddaf yn aflwyddiannus, a fyddaf yn cael adborth?

Gan ein bod yn disgwyl nifer fawr o geisiadau, efallai na fyddwn yn gallu darparu adborth manwl ar gyfer pob ymgeisydd. Fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo i ddarparu adborth byr, personol i bob ymgeisydd a lle bo’n berthnasol, rhoi cyngor ar gyfleoedd eraill a allai fod ar gael gan Llenyddiaeth Cymru a phartneriaid.

Rydym yn ymwybodol y gall gohebiaeth ynghylch ceisiadau aflwyddiannus gael effaith negyddol ar eich iechyd a’ch llesiant. Rhoddwn ein haddewid i barchu a gwerthfawrogi pob cais unigol, gan roi ystyriaeth a sylw dyledus iddo.

Pryd byddaf yn clywed a yw fy nghais wedi bod yn llwyddiannus? 

Eleni byddwn yn treialu cynllun asesu newydd mewn dau ran. Gallwch ddisgwyl diweddariad ynglŷn â’ch cais ac os ydy wedi cyrraedd ystyriaeth y panel asesu yn ystod wythnosau cyntaf mis Ionawr 2027. Caiff ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eu hysbysu ynglŷn â phenderfyniad y Panel Asesu erbyn diwedd mis Chwefror 2027.

Os byddaf yn aflwyddiannus, beth arall gall Llenyddiaeth Cymru ei gynnig i mi?

Mae croeso i bob ymgeisydd ymuno yn unrhyw rai o’n sesiynau cyhoeddus ar-lein, sy’n rhad ac am ddim, ac yn rhan o raglen ehangach Llenyddiaeth Cymru i ddatblygu awduron.

Mae gan ein Canolfan Tŷ Newydd gyrsiau ysgrifennu creadigol amrywiol gydol y flwyddyn. Mae pob cwrs yn cynnig un lle gydag ysgoloriaeth. Cyhoeddir rhaglen gyrsiau 2027 fis Tachwedd 2026. Ceir opsiynau dulliau talu a manylion am y gefnogaeth ariannol sydd ar gael ar wefan Tŷ Newydd.

Mae gwefan Llenyddiaeth Cymru yn cynnig gwybodaeth a chyngor i awduron.

Mae Rhestr Awduron Cymru yn adnodd ar-lein sy’n cynnwys proffiliau wedi eu creu a’u diweddaru gan awduron a hwyluswyr ysgrifennu creadigol Cymru.

Y Rhaglen

Beth yw Cynrychioli Cymru?

Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen 12 mis o hyd sydd â’r nod o helpu awduron i gyflawni eu huchelgeisiau hirdymor. Bob blwyddyn, rydyn ni’n darparu rhaglen ddatblygu bwrpasol i awduron sydd heb gynrychiolaeth deg yn niwylliant llenyddol Cymru.

Mae rhaglen Cynrychioli Cymru yn cynnwys:

  • Ysgoloriaeth ariannol o £3,000 
  • Cronfa ariannol ar gyfer teithio a thocynnau   
  • Rhaglen hyfforddi ddwys ar grefft ac ar ddatblygiad gyrfa proffesiynol sy’n cynnwys awduron byd-enwog fel tiwtoriaid a siaradwyr gwadd gan gynnwys ystafelloedd ysgrifennu ar-lein a dosbarthiadau meistr ysgrifennu creadigol.
  • Dosbarth meistr preswyl dros benwythnos yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
  • Mentor personol  
  • Cyfleoedd cyson i rannu gwaith creadigol ac adborth ymysg y garfan
  • Cyfleoedd rhwydweithio trwy gydol y flwyddyn, ar-lein a wyneb yn wyneb
  • Cefnogaeth bwrpasol gan Llenyddiaeth Cymru gan gynnwys rhoi cyngor, cyfeirio ac adnabod cyfleoedd perthnasol
  • Rhaglen ôl-ofal bwrpasol 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael y cyfle i gyd-greu elfennau o’r rhaglen gyda thîm Llenyddiaeth Cymru, drwy awgrymu siaradwyr, tiwtoriaid a themâu yn ystod eu cyfarfodydd croeso.

A allaf wneud cais os oes gennyf gyflogaeth a/neu gyfrifoldebau gofalu?

Yn bendant. Bydd pob awdur llwyddiannus yn cael cyfarfod cychwynnol i drafod eu hanghenion unigol. Gwahoddir awduron hefyd i rannu eu gofynion mynediad gyda ni neu gallwn eich cefnogi i greu un. Mae staff Llenyddiaeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gydag awduron i sicrhau y gallwch chi gymryd rhan lawn yn y rhaglen.

Faint o fy amser sydd angen i mi ei ddefnyddio ar gyfer y rhaglen?

Bydd y rhan fwyaf o’r gweithgareddau’n cael eu cynnal yn rhithiol gyda’r nos neu ar benwythnosau. Byddwn yn gweithio ochr yn ochr â’r garfan i benodi amseroedd a dyddiadau cyfleus i bawb. Rydym yn amcangyfrif y byddwn yn trefnu gweithgareddau ac yn gosod tasgau a fydd angen rhwng 10-12 diwrnod cyfan o’ch amser yn ystod y flwyddyn, ond bydd llawer o’r digwyddiadau hyn wedi’u hamserlennu i osgoi ymyrryd ag oriau swyddfa. Chi sydd i benderfynu faint o oriau ychwanegol y byddwch wedyn yn gallu eu neilltuo ar gyfer datblygu eich prosiectau ysgrifennu creadigol eich hun yn ystod y flwyddyn.

Disgwyliwn i bob aelod o’r garfan fynychu pob digwyddiad. Anfonir amserlen at y garfan gyda dyddiadau ar gyfer digwyddiadau i’w helpu i gynllunio. Os bydd rhywbeth brys yn atal awdur rhag mynychu, bydd Llenyddiaeth Cymru yn recordio’r sesiwn er mwyn sicrhau y gallwch wylio’r rhain yn nes ymlaen. Mae tîm Llenyddiaeth Cymru bob amser wrth law i gefnogi’r awduron a helpu i sicrhau bod pob aelod o’r garfan yn elwa o’r rhaglen.

Pryd fydd y rhaglen yn cael ei chynnal? Oes gennych chi fwy o fanylion a dyddiadau ar gyfer y digwyddiadau?

Caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i gyfarfod croeso ar ddechrau Ebrill 2027. Bydd rhaglen y digwyddiadau yn dechrau gyda’r Dosbarth Meistr preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ddiwedd Ebrill 2027. Bydd y rhaglen yn gorffen ddiwedd mis Mawrth 2028. Cynhelir o leiaf un digwyddiad pob mis.

Bydd yr awduron yn trefnu 4 sesiwn un-i-un gyda’u Mentor personol i gwrdd wyneb yn wyneb (os yw’r mentor yn byw gerllaw) neu’n rhithiol, ar amser/dyddiad sydd yn gyfleus iddynt.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i'r rhaglen ddod i ben?

Ar ôl y rhaglen 12 mis, byddwn yn parhau i gynnig cefnogaeth i’r garfan drwy gadw mewn cysylltiad, cynnig cyngor, a gwahodd yr awduron i gyfleoedd rhwydweithio a hyfforddi pellach. Mae’r rhaglen yn fuddsoddiad hirdymor yn natblygiad yr awduron.

A fydd gofyn i mi deithio ar gyfer digwyddiadau? 

Bydd y rhan fwyaf o weithgareddau craidd y rhaglen (e.e., ystafelloedd ysgrifennu) yn cael eu cynnal ar-lein er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu mynychu, waeth beth fo’u lleoliad. Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys o leiaf un penwythnos preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd – ein canolfan ysgrifennu genedlaethol yn Llanystumdwy, Gwynedd.

Bydd gennych fynediad at gyllideb ychwanegol i’w gwario ar eich taith i Dŷ Newydd, ac ar docynnau ar gyfer cyrsiau ychwanegol, digwyddiadau a gwyliau llenyddol o’ch dewis.

Mae gennyf anabledd neu gyflwr iechyd a allai ei gwneud yn anodd i mi gymryd rhan, allwch chi helpu? 

Wrth gwrs. Mae tîm Llenyddiaeth Cymru ar gael i drafod unrhyw bryderon a gofynion cyn a thrwy gydol y rhaglen. Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda. Mae Cronfa Fynediad ar gael i alluogi cyfranogiad llawn mewn digwyddiadau i awduron ag anableddau neu salwch a allai fod â gofynion mynediad ychwanegol.

I gael gwybodaeth am hygyrchedd yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, ewch i wefan Tŷ Newydd.

A fydd gofyn i mi gyflwyno darn o waith gorffenedig ar ddiwedd y 12 mis?  

Byddwn yn gweithio gyda chi i osod nodau ar ddechrau’r rhaglen, ac yn eich helpu i’w cyflawni. Dylai un o’ch nodau fod yn gysylltiedig â datblygu eich gwaith creadigol ar y gweill yn ystod y rhaglen. Bydd yr ystafelloedd ysgrifennu yn rhoi’r cyfle i chi rannu eich gwaith gyda’r garfan ac efallai yr hoffech ddefnyddio’r cyfarfodydd anffurfiol hyn fel nod personol i gynhyrchu gwaith bob mis. Bydd cyfleoedd yn ystod y flwyddyn hefyd i drafod eich cynnydd a dal i fyny gydag aelod o staff Llenyddiaeth Cymru yn ogystal â sesiwn wirio hanner ffordd drwy’r rhaglen.

Ymholiadau Cyffredinol

Nid wyf yn gymwys ar gyfer y cyfle hwn, ond mae gennyf ddiddordeb mewn datblygu fy ngyrfa fel awdur. Sut gallwch chi helpu? 

Mae ein gwefan yn rhoi gwybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael i ni i helpu awduron i ddatblygu eu crefft a’u gyrfaoedd. Fel arall, cysylltwch â ni i drafod eich anghenion unigol. Lle bo modd, byddwn yn cyfeirio awduron at gyfleoedd eraill yn y sector llenyddiaeth.  

Defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial (AI)

Defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial (AI)

Mae Llenyddiaeth Cymru a’i banelwyr allanol yn dewis awduron ar sail potensial, nid perffeithrwydd. Rydym am ddod i’ch adnabod chi a’ch llais, felly er y gallai defnyddio offer golygu DA fod yn ddefnyddiol i gefnogi eich anghenion mynediad wrth ateb cwestiynau’r cais, ni ddylid ei ddefnyddio i greu persona na gorliwio eich profiadau.

Ar gyfer eich cyflwyniad creadigol, ni ddylid defnyddio DA i gynhyrchu gwaith creadigol na gwneud golygiadau sylweddol.

Bydd gofyn i ymgeiswyr gadarnhau bod eu gwaith creadigol wedi’i ysgrifennu gan fod dynol yn y cais.

Mae ein rhaglenni datblygu awduron yn ddwys – bydd gofyn i awduron gyfrannu naill ai’n bersonol neu ar-lein yn ystod sesiynau ac ni fyddwch yn gallu dibynnu ar DA i gynhyrchu gwaith. Meddyliwch yn ofalus ynghylch a yw eich crefft ar y lefel gywir i gymryd rhan yn y cynllun hwn.

Nôl i Cynrychioli Cymru 2027-2028