Dewislen
English
Cysylltwch

Cynrychioli Cymru: Y Panel Asesu

Tanya Byrne
Cadeirydd
Mwy
Connor Allen
Aelod Panel
Mwy
Niall Griffiths
Aelod Panel
Mwy
Emma Smith-Barton
Aelod Panel
Mwy
Iola Ynyr
Aelod Panel
Mwy
Tanya Byrne
Cadeirydd

Mae Tanya Byrne yn awdur a golygydd llawrydd uchel ei chlod. Mae ei llyfrau wedi eu cyhoeddi mewn gwledydd amrywiol ac wedi eu cyfieithu i’r Almaeneg, Sbaeneg, Eidaleg a Phwyleg. Gadawodd y BBC yn 2011 i ysgrifennu ei nofel gyntaf, 'Heart-shaped Bruise'. Cyhoeddwyd y nofel y flwyddyn ganlynol, ac fe’i enwebwyd ar gyfer gwobr New Writer of the Year y National Book Awards. Yn y blynyddoedd sy’n dilyn mae wedi cyhoeddi pum nofel arall ac wedi cyfrannu at gyfrolau straeon byrion amrywiol gan gynnwys 'A Change is Gonna Come', a enillodd y teitl Sunday Times Children's Book of the Week, yn ogystal â Special Achievement Award gan yr YA Book Prize. Cyhoeddwyd ei nofel diweddaraf, 'Afterlove' ym mis Gorffennaf, ac mae wedi cyrraedd rhestrau gwerthwyr gorau Waterstones ac Amazon. Mae hi’n gweithio gydag awduron sydd heb eu cyhoeddi yn aml iawn, ac mae’n teimlo’n angerddol dros annog awduron o gefndiroedd sy’n cael eu tangynrychioli i adrodd eu straeon eu hunain, a sicrhau fod y diwydiant cyhoeddi yn agored i bawb.

Cau
Connor Allen
Aelod Panel

Connor Allen yw’r Children’s Laureate Wales 2021-23. Yn artist aml-gyfrwng, graddiodd o Brifysgol y Drindod Dewi Sant fel actor yn 2013. Mae’n aelod o Theatr Ieuenctid Genedlaethol Ynysoedd Prydain ac fe enillodd MonologueSlam Triforce Caerdydd yn 2015 cyn mynd yn ei flaen i gynrychioli Cymru yn y rowndiau terfynol yn Llundain. Fel awdur, mae wedi bod yn rhan o sawl grŵp datblygu talent yn cynnwys Welsh Voices BBC Cymru Wales, a grwpiau ysgrifennu y Welsh Royal Court a National Theatre Wales. Mae wedi ysgrifennu i BBC Cymru/Wales, BBC Radio 4, Theatr y Sherman, Llenyddiaeth Cymru a Protest Fudr. Yn ddiweddar, enillodd Wobr Rising Stars 2021 a cafodd ei ddewis ar gyfer Cronfa Jerwood Live Work. Mae hefyd yn Artist Cyswllt i Theatr Glan yr Afon yn ei ddinas enedigol, Casnewydd.

Cau
Niall Griffiths
Aelod Panel

Ganwyd Niall Griffiths yn Lerpwl, ond mae wedi byw yng Nghymru ers chwarter canrif. Mae’n awdur ar wyth nofel, dwy ohonynt wedi ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn: 'Stump' (Penguin Random House / Vintage Publishing) yn 2004 a 'Broken Ghost' (Jonathan Cape) yn 2020. Mae hefyd wedi ysgrifennu cofiannau, nofelau byrion, casgliad o farddoniaeth a mwy o straeon, adolygiadau, darnau taith a dramâu radio na all ei gofio. Mae ei waith wedi ei gyfieithu i 20 iaith wahanol, mae wedi rhoi darlleniadau ar bob cyfandir heblaw’r Antartig, ac fe enillodd addasiad ffilm o’i drydedd nofel, 'Kelly + Victor', wobr BAFTA. Mae’n Athro Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Wolverhampton.

Cau
Emma Smith-Barton
Aelod Panel

Ganwyd Emma Smith-Barton yn ne Cymru i rieni o Bacistan. Mae ei gwaith wedi ei ddylanwadu yn drwm gan ei phrofiad o fyw rhwng y ddau ddiwylliant, ac mae ganddi ddiddordeb penodol mewn archwilio themâu o hunaniaeth a pherthyn. Cyn ysgrifennu, bu’n dysgu mewn ysgolion uwchradd am chwe mlynedd, ac mae’n teimlo’n angerddol iawn dros godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ymysg pobl ifanc. Astudiodd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Warwick, ac mae ganddi MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Caerfaddon. Mae ei straeon byrion wedi ymddangos mewn sawl cyhoeddiad yn cynnwys Mslexia a Blodeugerdd Cystadleuaeth Stori Fer Bryste (dan ei ffugenw ar gyfer ei rhyddiaith i oedolion, Amna Khokher). Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf i bobl ifanc, 'The Million Pieces of Neena Gill' (Penguin Random House, 2019), restr fer Gwobr Llyfrau Plant Waterstones 2020, Gwobr Branford Boase 2020 a Nofel Ramantaidd Gyntaf y Romantic Novelists' Association yn 2020.

Cau
Iola Ynyr
Aelod Panel

Mae Iola Ynyr yn artist llawrydd sydd yn arbenigo mewn gwaith theatr a digidol fel cyfarwyddwraig, dyfeiswraig ac dramodwraig. Mae ymchwilio i gynnal a hyrwyddo llesiant trwy'r celfyddydau a chreadigrwydd yn bwysig iawn iddi. Ei huchelgais yw sicrhau mynediad i unigolion a chymunedau bregus o fewn gweithgareddau celfyddydol. Sefydlodd gynllun Ar y Dibyn gyda Theatr Genedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru ar gyfer unigolion sy'n byw gyda dibyniaeth drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Mae'n Asiant Creadigol gyda phrosiect cenedlaethol Ysgolion Creadigol Arweiniol ac yn un o artistiaid Ynys Blastig, prosiect yng Ngwynedd sy’n defnyddio’r celfyddydau i annog llesiant yr unigolyn a’r blaned.

Cau