Dewislen
English
Cysylltwch

Dyddiad: Dydd Mercher, 24 Gorffennaf 2024 

Amser: 6.00-7.00pm 

Pris: Am ddim 

Iaith: Saesneg  

Cofrestrwch yma: https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_RjH-j0qPRcOrJoA3iKZt8g 

Hoffech chi ddysgu am ddiwydiant cyhoeddi Cymru? Ydych chi’n paratoi i anfon eich gwaith at gyhoeddwr?  Ymunwch â Llenyddiaeth Cymru a phedwar siaradwr o’r byd cyhoeddi yng Nghymru am noson o drafod a rhannu gwybodaeth. Bydd pob siaradwr yn rhoi cyflwyniad 10 munud ar eu gwasg ac yn cynnig manylion am y genres y maent yn eu cyhoeddi, dyddiadau allweddol a chyngor ar sut I fachu sylw cyhoeddwr. Nodwch y bydd y sesiwn hon yn cael ei chynnal yn Saesneg yn unig. Os ydych chi’n ysgrifennu yn Gymraeg, efallai y bydd gennych ddiddordeb yn ein sesiwn Cyhoeddwyr yng Nghymru (Cymraeg), ar nos Fercher, 10 Gorffennaf. 

Y siaradwyr 

Caleb yw Cyhoeddwr Calon, argraffnod masnach Gwasg Prifysgol Cymru a lansiwyd yn 2022, sy’n adrodd straeon Cymru i’r byd ehangach. Cafodd ei fagu yng Ngwynedd, gogledd Cymru, ac mae’n gyffrous i weithio gydag awduron i lunio straeon gyda chysylltiad Cymreig i fod mor gymhellol â phosib i gynulleidfaoedd eang. Cyn hynny, roedd Caleb yn Gyfarwyddwr Cyhoeddi Inter-Varsity Press UK, ac mae wedi cael rolau gyda Scripture Union, Hodder & Stoughton a Seren Books. Mae bellach yn byw ym Mhontypridd gyda’i wraig a’i dri o blant. Mae’n mwynhau darllen yn eang, yn enwedig ffuglen wyddonol a ffantasi.  

Mae Dr Richard Lewis Davies yn un o bartneriaid sefydlol Parthian, a sefydlodd gyda Gillian Griffiths a Ravi Pawar ym 1993. Yn wreiddiol, sefydlwyd y wasg i gyhoeddi ei nofel gyntaf, ‘Work, Sex and Rugby’ ond datblygodd yn gyflym i fod yn gyhoeddwr annibynnol blaenllaw yng Nghymru gyda ffocws ar awduron o Gymru sy’n gweithio yn Saesneg tra hefyd yn casglu ystod eang o leisiau o gefndiroedd amrywiol ac yn gweithio mewn ieithoedd gwahanol. Derbyniodd Parthian Wobr Cyhoeddwr Bach y Flwyddyn Bookseller cyntaf Cymru yn 2019. Yn ystod ei gyfnod gyda Parthian, mae e wedi gweithio fel golygydd ar lyfrau arobryn megis Pigeon gan Alys Conran a Hummingbird gan Tristan Hughes tra bod prosiect yn rheoli menter Pentref Dinas Cwm Parthian India. Yn ogystal â chyhoeddi, mae ganddo hefyd yrfa fel awdur creadigol. Mae ei waith wedi derbyn nifer o wobrau, gan gynnwys gwobr stori fer Rhys Davies a gwobr ysgrifennu John Morgan. Mae e hefyd wedi gweithio’n helaeth ym myd theatr Cymru. Mae Davies wedi bod yn ymwneud â’r byd llenyddol yng Nghymru ers 1990 ac ef yw cyfarwyddwr masnachol presennol Parthian a chyfres Llyfrgell Cymru. 

Jannat Ahmed yw cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr Lucent Dreaming. Wedi’i sefydlu fel cylchgrawn creadigol yn 2017, mae Lucent Dreaming bellach yn cyhoeddi casgliadau barddoniaeth, nofelau ac antholegau. Mae Lucent Dreaming yn dyrchafu awduron ac artistiaid sy’n dod i’r amlwg ledled y byd ac mae wedi’i leoli yng Nghaerdydd. 

Sarah Johnson yw Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol a Phennaeth Marchnata a Gwerthu yn Seren Books. Ar ôl ymuno â’r cwmni yn 2019, cafodd ei henwi’n Bookseller Rising Star yn 2022. Hi sefydlodd Podlediad Barddoniaeth Seren ac mae wedi rheoli digwyddiadau fel Seren First Thursday a Gŵyl Farddoniaeth Seren Caerdydd. Mae ganddi radd dosbarth cyntaf mewn Saesneg acYsgrifennu Creadigol o Brifysgol Bangor ac mae newydd orffen ei thrydedd flwyddyn o ddysgu Cymraeg.

Nôl i Sesiynau Cyhoeddus