Dewislen
English
Cysylltwch
Anthony Shapland 

Artist, awdur a churadur o dde Cymru yw Anthony Shapland. Magwyd Anthony ym Margoed ac ef oedd y cyntaf o’i deulu i fynd i’r coleg, lle bu’n astudio Celfyddydd Gain. Fe’i fagiwyd mewn oes oedd ddim ond yn dechrau newid ei hagwedd gymdeithasol, gyfreithiol, a moesol tuag at ddynion hoyw, ac mae’r awydd i ‘beidio â sefyll allan’, hyd yn oed ar ôl ‘dod allan’, wedi cael effaith barhaol ar ei holl waith. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ffuglen mewn ffurf fer a’r nofela, ac yn ysgrifennu’n rheolaidd ar y celfyddydau gweledol mewn adolygiadau, monograffau artistiaid, arddangosfeydd, a chatalogau. Yn ddiweddar, bu ar banel beirniaid Artes Mundi 8, ac mae wedi bod ar bwyllgor Cymru yn Fenis. Mae’n gweithio yn g39, gofod cymunedol dan arweiniad artistiaid a gyd-sefydlodd yng Nghaerdydd, lle mae’n byw.  


Gwyliwch ymateb creadigol Anthony i’w gyfnod ar raglen Cynrychioli Cymru isod.

Nôl i Yr Awduron