Cynhaliodd y bardd gair llafar, Duke Al Durham, breswylfa wyth mis o hyd i annog disgyblion Ysgol Uwchradd Basaleg, Casnewydd, i siarad am eu hiechyd meddwl a defnyddio ysgrifennu creadigol, a barddoniaeth yn benodol, i fynegi eu hunain yn greadigol. Cyflawnwyd tri prosiect penodol, a cafwyd cyfleoedd am sesiynau un-i-un â Duke ar gyfer y bobl ifanc oedd yn dymuno datblygu eu gwaith creadigol ymhellach.
1. A Poet’s Expedition: Fighting the Face of Thought
Saith gweithdy wyneb yn wyneb â Duke a’r artist aml-ddisgybledig Bill Taylor Beales, ar y cyd â Leah Williams a Wahida Khartoum o Newport Mind. Cynhyrchwyd ffilm a casglwyd adborth adlewyrchol gan y bobl ifanc a gymerodd ran, i’w rhannu ymhlith y grwp yn unig.
2. Masking our Fears Away
Roedd ail brosiect Duke yn Ysgol Uwchradd Basaleg yn cynnwys saith gweithdy wyneb yn wyneb gyda Duke a’r darlunydd Amy Moody, ar y cyd â Leah Williams o Newport Mind. Cynhyrchwyd pamffled farddoniaeth, ffilm, a chyfres o glipiau cyfryngau cymdeithasol gan y fideograffydd Ryan Evans.
3. Life is Life
Saith gweithdy wyneb yn wyneb gyda Duke a’r cerddor Maddie Jones, ar y cyd â Leah Williams o Newport Mind. Crëwyd pum cân a gyfansoddwyd ac a berfformiwyd gan y bobl ifanc.
Sesiynau Un i Un
Ar hyd y prosiect, cynhaliodd Duke 24 sesiwn un- i -un gyda’r bobl ifanc a oedd wedi gofyn am ragor o gyfleoedd i ymgysylltu ac i archwilio’r mynegiant creadigol ymhellach.
Prosiect wyneb yn wyneb a gynhaliwyd gan Serena Lewis a Sarah Bawler ble cynhaliwyd pum gweithdy gyda phobl ifanc LHDTQ+ yn Community House.
Prosiect wyneb yn wyneb pedair wythnos o hyd â’r bardd clare e. potter a’r artist Andy O’Rouke a gynhaliwyd yn Community House yn Nghasnewydd gyda teuluoedd a phlant ifanc gan greu ffilm farddoniaeth ddigidol.
Pum gweithdy a gynhaliwyd yn Ysgol Gwent is y Coed gan Bardd Plant Cymru, Casi Wyn a’r animeiddiwr Efa Blosse-Mason, ble crëwyd cerdd fideo wedi ei animeiddio.
Chwe gweithdy wyneb yn wyneb a gynhaliwyd gan Uschi Turoczy a Georgina Harris gyda Grŵp Ieuenctid Canolfan Mileniwm Pil.
Prosiect gwytnwch Ysgol Uwchradd Llanwern a gynhaliwyd gan y bardd Uschi Turoczy a’r darlunydd Amy Moody, ar y cyd â Tony Groves o Newport Mind. Cynhyrchwyd pamffled o ysgrifennu creadigol gan bobl ifanc LHDTQ+.
Prosiect wyneb yn wyneb a gynhaliwyd dros ddeuddydd yng Nghanolfan Mileniwm Pil gyda Bill Taylor Beales, Uschi Turoczy ac Amy Moody a oedd yn canolbwyntio ar greu murlun.
Rhaglen 7-wythnos o weithgareddau I’w cynnal mewn ysgolion uwchradd ar y cyd rhwng artistiaid a staff Newport Mind yn archwilio problemau iechyd meddwl pobl ifanc a ffyrdd creadigol o fynegi eu teimladau.
Tri gweithdy ar gyfer Llysgenhadon Ifanc a gynhaliwyd ar-lein gan Bill Taylor-Beales, gyda Holly Clarke yn cysgodi. Cynhyrchwyd ffilm ddigidol am y drefn newydd a ddaeth yn arferiad o ganlyniad i Covid-19 .
Prosiect gwytnwch Ysgol Rougemont a gynhaliwyd gan Serena Lewis a Sarah Bawler, ar y cyd â Tony Groves, Newport Mind. Cynhyrchwyd Rougemont Writings, pamffled o ysgrifennu creadigol gan y bobl ifanc.