Dewislen
English
Cysylltwch
Ym mis Medi 2021, dechreuodd Eloise Williams, yr awdur llyfrau plant a Children’s Laureate Wales cyntaf erioed, ar antur gyffrous fel awdur preswyl am flwyddyn yn Ysgol Gymunedol Tonyrefail, Rhondda Cynon Taf.  

Yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-2022, mi fu holl ddisgyblion Blwyddyn 8, yn ogystal â rhai grwpiau bregus mewn blynyddoedd eraill yn mwynhau cyfres o weithdai ysgrifennu a darllen creadigol gydag Eloise. Y bwriad oedd eu hysbrydoli i ddarllen, i ddysgu am y grefft o adrodd straeon, ac i roi’r cyfle a’r adnoddau iddynt ysgrifennu eu straeon eu hunain.  

“Roedd y wers yn wych. Rydw i wedi dysgu mai’r peth pwysicaf am ysgrifennu yw credu yn yr hyn rydych chi’n ei ysgrifennu.” 

“Fe wnes i fwynhau. Fe wnaeth i mi deimlo’n well oherwydd mae gorbryder arna i ac mae’n gas gen i siarad amdano.” 

 


Roedd y prosiect hwn yn dilyn
cynllun peilot llwyddiannus a gynhaliwyd yn yr ysgol yn gynt yn 2021 ar gyfer gofalwyr ifanc. 

Ynghyd â gweithdai wythnosol gyda disgyblion Blwyddyn 8, bu Eloise yn rhedeg grwpiau ffocws gyda grwpiau penodol o bobl ifanc, gan gynnwys darllenwyr anfoddog, gofalwyr ifanc a disgyblion mewn gofal, ac unigolion sy’n profi gorbryder a heriau iechyd meddwl. Yn ystod y flwyddyn, cafodd nifer o awduron a darlunwyr eu gwahodd i rannu eu cyngor gyda’r disgyblion. Roedd rhain yn cynnwys gweithdy a pherfformiad gan y rapiwr a’r bardd Duke Al Durham, a hyd yn oed brecwast gyda Michael Sheen!

Mae Ysgol Gymunedol Tonyrefail yn denu disgyblion o ardaloedd â lefelau uchel o amddifadedd economaidd-gymdeithasol, gyda gorllewin Tonyrefail yn safle 185 ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (gydag 1 y mwyaf dwys a 1909 y lleiaf dwys). Mae 26% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. 

Nod ehangach y prosiect, y tu hwnt i ysbrydoli a chefnogi’r bobl ifanc trwy lenyddiaeth, oedd dysgu pa effaith y bydd ymgysylltu ag awdur dros gyfnod estynedig yn ei gael ar y disgyblion a chymuned ehangach yr ysgol. Mae effaith y prosiect yn cael ei rannu gydag ysgolion eraill ledled Cymru i’w hysbrydoli i archwilio sut y gallent elwa o wahodd awduron ac artistiaid preswyl i’w hysgolion eu hunain. 

“Mae Eloise wedi cael effaith fawr ar un ddyn ifanc arbennig iawn, C… Mae’n aml yn teimlo’n anniogel yn yr ysgol sy’n achosi iddo grio, weithiau nid yw’n gallu ymuno â’i wersi chwaith. Mae Eloise wedi meithrin perthynas waith agos gyda C, mae’n dechrau credu ynddo’i hun, mae’n teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi yn yr ysgol, mae’n gweld ei hun fel rhywun sydd â llais y mae’n hyderus i’w ddefnyddio. Waw, mae hi wedi bod yn fodel rôl positif.” 

Am Eloise Williams 

Ganwyd Eloise yng Nghaerdydd, treuliodd ei phlentyndod yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf ac mae bellach yn byw yn Saundersfoot, Sir Benfro. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Coed yr Esgob ac Ysgol Y Pant, cyn mynd i astudio Drama yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Actio yn Guildford School of Acting, ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe. Bu’n gweithio fel actor ac ymarferydd creadigol am dros ddegawd cyn dod yn awdur plant. 

Enillodd ei nofel, Gaslight (Firefly Press, 2017) – a ysgrifennwyd gyda chefnogaeth Ysgoloriaeth Awdur Newydd Llenyddiaeth Cymru – Lyfr Pobl Ifanc y Flwyddyn Wales Arts Review 2017, Gwobrau Llyfrau YBB 2018, a chyrhaeddodd restr fer Gwobrau Tir na nOg 2018. Cyrhaeddodd Seaglass (Firefly Press, 2018) restr fer Gwobrau Tir na nOg 2019 hefyd, a’r North East Book Awards 2019. Cyhoeddodd ei nofel ddiweddaraf i bobl ifanc, Wilde (Firefly Press), yn 2020 a chyrhaeddodd restr fer categori Plant a Phobl Ifanc Llyfr y Flwyddyn 2021.  

Yn siaradwr rheolaidd mewn gwyliau a digwyddiadau, mae hi’n defnyddio ei sgiliau drama i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn llenyddiaeth plant ac erbyn hyn mae hi ar lwyfan llawer yn fwy nag y buodd hi erioed fel actor proffesiynol. Mae hi hefyd yn arweinydd gweithdai poblogaidd a deinamig. Yn ei hamser hamdden, mae’n casglu gwydr môr a straeon arswyd, yn canu’n uchel, yn cerdded ar y traeth gyda’i chi Watson Jones, yn nofio yn y môr ac yn dathlu natur a bywyd gwyllt ym mhob ffordd posib. 

Nôl i Ein Prosiectau