Dewislen
English
Cysylltwch

Mae’r broses ymgeisio yn syml:  

  • Bydd yr alwad ar agor rhwng 11 Rhagfyr 2023 ac 12 Ionawr 2024
  • Bydd Panel o aelodau Kathod gyda chefnogaeth staff Llenyddiaeth Cymru yn dethol hyd at 10 cyfranogwr
  • Bydd Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi enwau y cyfranogwyr erbyn diwedd mis Chwefror 2024
Ymgeisiwch nawr:  Ffurflen gais

Dyma’r cwestiynau y bydd angen eu hateb:

  1. Enw, cyfeiriad ac e-bost
  2. Wyt ti eisoes yn creu barddoniaeth a/neu gerddoriaeth? (dim mwy na 200 gair)

E.e. Wyt ti eisoes yn ysgrifennu barddoniaeth? Wyt ti erioed wedi perfformio dy waith yn fyw? Wyt ti’n gerddor, neu’n ganwr gyda diddordeb mewn trin geiriau?  Bach neu mawr, hoffem wybod!

  1. Pam yr hoffet ti fynychu’r encil? (dim mwy na 200 gair) 

E.e. Pam bod y cyfle hwn yn apelio? Ydy’n o’n cynnig hwb creadigol ar gyfnod amserol? Wyt ti eisoes yn artist aml-gyfrwng neu a’i dyma fuasai’r tro cyntaf i ti gyfuno cerddoriaeth a barddoniaeth o fewn dy waith? 

  1. Byw neu farw, pwy yw eich dylanwadau creadigol fwyaf amlwg? (dim mwy na 100 gair)

E.e. Pa fath o steil, themâu neu eiriau sydd wedi cael y mwyaf o effaith ar dy waith? 

  1. Wyt ti’n chwarae offeryn neu oes gennyt ti ddealltwriaeth o sut i recordio ar gyfrifiadur?

 

Mae’r ffurflen gais ar gael mewn fersiynau print bras a dyslecsia gyfeillgar ar gael ar y dudalen Galwad Agored.

Nôl i Encil Preswyl Kathod