Encil Preswyl Kathod
Mae Llenyddiaeth Cymru yn cyd-weithio gyda phrosiect Kathod er mwyn gwahodd menywod ac unigolion o rywiau ymylol i encil aml-gyfrwng gwbl newydd, yn cyfuno cerddoriaeth a barddoniaeth llafar (spoken word).
Nodwch bod y dyddiad cau ar gyfer yr encil hon bellach wedi pasio.
Nod yr encil yw cynnig y gofod a’r amser i’r cyfranogwyr gyfuno cerddoriaeth a barddoniaeth llafar mewn modd cyffrous, arloesol a chyfoes. Cynhelir yr encil yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd rhwng Dydd Gwener 23 – Dydd Mawrth 27 Chwefror 2024 a chynhigir y cyfle yn rhad ac am ddim i hyd at ddeg unigolyn.