Erin Byrne
MwyHafwen Hibbard
MwySophie James
MwyEnfys Haf Jones
MwyMair Jones
MwyFfion King
MwyMegan Lloyd
MwyAlun Parrington
MwyKayley Roberts
MwySadie West
MwySioned Williams
MwyFflur Arwel
Yn wreiddiol o Gaernarfon ond bellach yn byw yng nghanol Caerdydd, mae Fflur, 32 oed, yn gweithio ym maes cyfathrebu gwleidyddol – gyda’r uchelgais o ddilyn llwybr proffesiynol ym myd y celfyddydau yn y pendraw.
Pan nad yw’n ymgolli yn y byd gwleidyddol, mae hi’n ymgolli mewn dychymyg. Mae’n mwynhau sgwennu, cadw’n heini, garddio a darllen, gyda diddordeb penodol yn y genres ffantasi, ffuglen wyddonol ac arswyd. Fel awdur lled-newydd, mae ganddi uchelgais i ddatblygu a meithrin ei llais llenyddol. Mae’n credu yn nerth straeon a geiriau i ysbrydoli, herio ac adlewyrchu ar y profiad o fod yn ddynol-ryw.
Erin Byrne
Mae Erin (nhw/hi) yn wreiddiol o Sir Benfro ond bellach yn byw yn y Felinheli. Diolch i Llyfrau Lliwgar a GogLais, maen nhw wedi cael y cyfle i ddarllen a gwylio amryw o lyfrau a dramâu cwiar ac wedi dysgu llawer am lenyddiaeth gwiar wrth drafod. Fel un o ddramodwyr GogLais ar y Maes, cawson nhw'r cyfle i ysgrifennu eu drama fer gwiar gyntaf, Soffa (Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025). O hynny, maen nhw wedi cael eu hysgogi i greu llenyddiaeth greadigol ac yn edrych ymlaen yn arw at ddatblygu sgiliau newydd, a chael rheswm i iste lawr a sgwennu.
Hafwen Hibbard
‘Dwi wir yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn yr encil Llyfrau Lliwgar blwyddyn yma. Fydd hi’n gyfle arbennig i mi ddatblygu sgiliau newydd, sgwenni a bod yn greadigol mewn awyrgylch cefnogol a ddiogel. Dw’n credu bydd hi’n brofiad fydd yn sbarduno fi i sgwenni fwy yn defnyddio fy mamiaith. Erbyn diwedd y penwythnos dwi’n gobeithio bydd genau fwy o hyder wrth sgwennu yn Gymraeg a fwy o syniadau am sut i ddatblygu fy ngwaith.’
Sophie James
Yn ddysgwr dros ddegawd, mae Sophie Eleri (hi/ei) yn wreiddiol o Gaerdydd a bellach byw yn Nyffryn Peris. O ddydd i ddydd, mae hi'n treulio ei hamser hi yn hwyluso gwaith pobl andros o greadigol, ac yn cael gweld y broses sgwennu yn ffurfio ar draws ei chamau gwahanol. Mae wastad yn ffeindio ei hun yn stryglo i ffeindio'r geiriau gorau ar lafar, mae hi'n joio slofi lawr tra’n sgwennu, ac yn archwilio iaith fel arf o fynegiant.
Enfys Haf Jones
Mae Enfys-Haf Jones yn fardd, awdur, cerddor, paentiwr, darlunydd, ac artist tecstilau o Gaernarfon. Wedi’i magu rhwng cysgod mynyddoedd Eryri ac awyr y môr, tydi hi byth yn brin o ysbrydoliaeth na chreadigrwydd.
Gyda chorff mawr o waith sy’n canolbwyntio’n aml ar themâu galar, hunan-ddelwedd, ac ysbrydolrwydd, mae Enfys yn ymdrechu i greu pob darn gweledol, clywedol neu ysgrifenedig ochr yn ochr, wedi’u plethu, ac yn ffyngwreiddiol gyda’r byd naturiol.
Mair Jones
Mae Mair Jones (hi/nhw), o Lambed, Ceredigion, yn hanesydd llawrydd sy’n arbenigo yn hanes rhywedd ac LHDTC+ o Gymru, ac hefyd yn ysgrifennu ffuglen a barddoniaeth, yn Gymraeg a Saesneg. Mae'n rhedeg blog ‘Queer Welsh Stories’ (Straeon Cwiar Cymru) a’n gwneud gweithdai hanes ac ysgrifennu hefyd. Yn ddiweddar, mae Mair wedi bod yn olygydd Cymraeg Poetry Wales, yn helpu sefydlu a rhedeg Llyfrau Lliwgar Aberystwyth, ac wedi ymddangos yn O Ffrwyth y Gangen Hon a sawl zine, yn cynnwys QYWIR a Monologau Mas ar y Maes. @QueerWelshStories ar Instagram.
Ffion King
Daeth Ffion King (hi/hithau) i Gymru fel oedolyn er mwyn astudio'r ieithoedd Celtaidd yn y brifysgol lle roedd hi'n darganfod ei hun a'i brwdfrydedd yn yr iaith Gymraeg. Cafodd hi ei magu dramor ac yn Lloegr, ond darganfyddodd ei chalon yn Aberystwyth, lle mae hi’n dal i astudio am radd Meistr ym maes cyfieithu. Pan nad yw hi'n brysur â hynny, mae hi'n ysgrifennu ac yn canu am brofiadau LHDTC+ drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal ag ymchwilio amrywiaeth eang o bynciau, chwarau gêmau gyda ffrindiau, a darllen gormod o lyfrau!
Megan Lloyd
Mae Megan Lloyd (hi/ei) yn sgwennwr, hwylusydd a pherfformiwr o Eryri. Mae hi'n gweithio'n llawrydd ar sawl prosiect amlgyfrwng, gan gynnwys hwyluso gweithdai cymunedol, perfformio barddoniaeth lafar ac ysgrifennu a pherfformio ar gyfer y sioe theatr ddawns, Q-fforia.
Mae ei gwaith yn ymddangos mewn sawl blodeugerdd. Bydd hi'n cyhoeddi ei chasgliad cyntaf o gerddi yn 2026 gyda Cyhoeddiadau'r Stamp.
Yn gynharach eleni, enillodd y gystadleuaeth farddoniaeth lafar yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025. Mae hi'n rhannu ei gwaith ar Instagram o dan yr enw @gwaithpapur.
Alun Parrington
Mae Al Parr (neu Alun Llewelyn Parrington os ’da chi isho iwsio’i enw cyfreithiol) yn ysgrifennwr ac actor sydd yn wreiddiol o ardal Caernarfon, ond bellach yn byw yn Rhuddlan.
Ar ôl graddio o Gaerdydd lle astudiodd Theatr a Drama, bu Al yn gwneud sawl project efo Hansh, cyn mynd ymlaen i ysgrifennu a pherfformio Stand Up ei hun yn 2019.
Mae hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer ffilm a theledu gan ddechrau efo sitcom Cymraeg, Deli Derfel, yn 2020. Yn ddiweddar, mae Al wedi ysgrifennu ac actio mewn ffilm fer, Y Tolldy, sydd yn cael ei ddisgrifio fel Welsh Queer Horror Film.
Kayley Roberts
Mae Kayley Roberts (nhw | they/them) yn ymarferydd creadigol llawrydd ac yn gwnselydd annibynnol, sy’n gweithio yng Nghaernarfon. Cyhoeddwyd barddioniaeth Kayley yn rhifyn 6 o Ffosfforws ac O Ffrwyth y Gangen Hon (Barddas), a chafwodd eu nofel gyntaf, Lladd Arth (Y Lolfa), ei chyhoeddi eleni. Nhw oedd Cyfarwyddwr Cynorthwyol drama Leo Drayton, Dynolwaith (Frân Wen/Theatr y Sherman), sydd wedi ei chyhoeddi fel sgript gan Gyhoeddiadau’r Stamp. Mae Kayley yn mwynhau chwarae’r sacsoffon, ac wedi chwarae ym mand ‘Creiriau’ ar gerrig yr Orsedd yn Eisteddfod Wrecsam, ac maent hefyd yn rhan o banel ‘Clwb Darllen Ffion Dafis’ ar BBC Radio Cymru.
Sadie West
Sioned Williams
Mae Sioned yn hoffi paned a sgwrs. Mae’n yn byw ar lan y môr yng Ngogledd Cymru ac mae megis cychwyn ei siwrne ysgrifennu am hunaniaeth, gwreiddiad a pherthynas fel rhan o fywyd person LHDTCRhA+ sydd â salwch cronig, anabledd, a chyda natur.