Encil Sgwenwyr LHDTC+
Yn 2022, Elgan Rhys, Bethan Marlow a Llŷr Titus oedd yr ysgogwyr creadigol, a Megan Angharad Hunter yn awdur gwadd. Yn dilyn y penwythnos hwnnw, cyflwynodd sawl un a fynychodd yr encil eu gwaith i’w cynnwys yn y flodeugerdd LHDTC+ gyntaf yn y Gymraeg a gyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau Barddas, Curiadau (2023).
Ym mis Tachwedd 2023, cynhaliwyd yr encil am yr eildro gyda Llio Maddocks a Leo Drayton yn ysgogwyr creadigol, a Paul Mendez yn awdur gwadd. Yn sgil y penwythnos hwnnw, daeth cyfle i’r mynychwyr gyfrannu gwaith ar gyfer zine newydd sbon o’r enw rhych newydd. Ariannwyd y cyhoeddiad gan grant cymunedol Cyngor Gwynedd a’i gyhoeddi ym mis Chwefror 2024, i ddathlu Mis Hanes LHDTC+. Ac fel rhan o ddathliadau Mis Balchder 2024 (mis Mehefin 2024), mae’r zine wedi’i gyhoeddi ar wefan Llenyddiaeth Cymru, yn rhad ac am ddim i’w islwytho isod.