Y Clwb
Clwb llyfrau LHDTC+ a sefydlwyd ym Mangor ym mis Medi 2021, ac a ddatblygodd gangen yng Nghaerdydd ym mis Medi 2022, ydy Llyfrau Lliwgar. Mae criw Bangor a chriw Caerdydd yn cyfarfod unwaith bob mis i drafod gwahanol destunau gan awduron LHDTC+ neu sydd yn cynnwys cynrychiolaeth gwiyr (hyd yn oed os ydy’r gynrychiolaeth honno’n wael).
Cymuned
Ynghyd â chyfarfodydd misol, mae’r clwb llyfrau yn cynnal nosweithiau cymdeithasol, o deithiau i’r sinema, i baneidiau mewn caffi, i gwis tafarn i bartïon Dolig. Ac mae’n gyson yn rhan o nifer o ddigwyddiadau Balchder, gan gynnwys Balchder Gogledd Cymru a Pride Cymru.
Digwyddiadau Arbennig
Yn Eisteddfod Tregaron 2022, gwahoddwydd Llyfrau Lliwgar i gynnal sesiwn yn Llwyfan y Llannerch, a chafwyd sgwrs hwyliog gyda Magi Noggi. Erbyn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023, roedd Llyfrau Lliwgar yn y Babell Lên yn trafod cynrychiolaeth LHDTC+ mewn llenyddiaeth Gymraeg ers y mileniwm, gyda Lois Gwenllian, Nia Wyn Jones, Llŷr Titus a Dylan Huw yn cyfrannu. Yn Eisteddfod Pontypridd 2024, bydd sesiwn arbennig yn trafod canmlwyddiant pryddest ddadleuol E. Prosser Rhys, ‘Atgof’, a welodd Prosser yn derbyn y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl. A hynny yng nghwmni Lois Gwenllian, Arwel Gruffydd, Cathryn Charnel-White, Kayley Roberts a Gareth Evans-Jones.
Croeso bob tro
Mae yna wastad groeso i unrhyw un fynychu’r cyfarfodydd misol ym Mangor a Chaerdydd, ac unrhyw ddigwyddiad arall gyda Llyfrau Lliwgar.
Mae hwn yn glwb ac yn fforwm cwbl gynhwysol, diogel a chyfeillgar, ac mae croeso i bawb.
Cysylltu
E-bost: llyfraulliwgar@gmail.com
Instagram: llyfraulliwgar
Facebook: Llyfrau Lliwgar