Yn ei flwyddyn gyntaf ym Mehefin 2012, atynnwyd haid o dalentau Cymraeg (megis Mr Nice ei hun, Howard Marks, a phrif-leisydd y Super Furry Animals, Gruff Rhys) yn ogystal ag enwau mawr o fyd llenyddiaeth a’r celfyddydau. Cynigiwyd rhaglen amrywiol o awduron cenedlaethol a rhyngwladol; beirdd, cerddorion a digrifwyr arobryn, a llawer mwy. Ymhlith yr uchafbwyntiau roedd Bardd Cenedlaethol Cymru (2008-2016) Gillian Clarke, y digrifwr Josie Long, perfformiadau cerddorol gan Ghostpoet, Emmy the Great a The Staves, a digwyddiad gyda Ianthe Brautigan, merch y diweddar fardd bît Americanaidd, Richard Brautigan. Roedd y Castell hynafol, sydd i’w ganfod ar waelod llwybr prydferth drwy’r goedwig, yn llwyfan i berfformiadau a theithiau cerdded wedi’u comisiynu’n arbennig ar gyfer y lleoliad chwedlonol hwn.
Yn dilyn yr ŵyl, meddai’r awdur Horatio Clare: “Roeddwn i’n meddwl mai dyma un o’r awyrglych gorau, mwyaf cyfoethog a difyrraf i mi ddod ar ei draws mewn UNRHYW ŵyl: y plasdy, yr hen erddi a’r castell, y tywydd, yr ysbrydion, y gwartheg gwynikon a’r gorau o ysgrifennu a pherfformio o Gymru – pa mor lwcus oeddem ni! Rwy’n credo fod pawb oedd yno yn rhan o gychwyn distaw rhywbeth anferthol.”
Trefnwyd Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr 2012 gan Llenyddiaeth Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a Phrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant (fel partner arweiniol yn rhaglen Coracle). Ariannwyd yr ŵyl yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy raglen Interreg 4a.
Dyma flas o’r hyn a ddigwyddodd fel rhan o’r ŵyl yn 2012:
Dinefwr Literature Festival from Coracle EU on Vimeo.
Dychwelodd yr ŵyl ym Mehefin 2014, a heidiodd miloedd o ymwelwyr trwy giatiau Dinefwr i fwynhau rhaglen eclectig o ddigwyddiadau a phresenoldeb cryf o dalent gorllewin Cymru. Dychwelodd y gantores wefreiddiol Cate LeBon o Galiffornia i’w milltir sgwâr i berfformio. Roedd hi’n ymuno ag enwau llewyrchus arall megis seren newydd y byd comedi Elis James, yr artist pop Swci Delic a DJ BBC Radio 1 Huw Stephens yn cyfweld â David R Edwards (o Datblygu) a Geraint Jarman.
Roedd Parc a Chastell Dinefwr yn lwyfan ar gyfer amrywiaeth ysbrydoledig o feirdd, nofelwyr, awduron straeon byrion a theledu o ledled Cymru, Prydain a hyd yn oed mor bell â Chanada. Roedd y rhain yn cynnwys dau o enillwyr Llyfr y Flwyddyn, Owen Sheers a Rhian Edwards; sefydlwr y blog Everyday Sexism, Laura Bates; yr awdur arobryn Deborah Kay Davies mewn sgwrs efo enillydd Gwobr Lyfrau Costa 2013, Nathan Filer; a Shaun Usher yn cyflwyno Letters of Note.
Yn 2015, enillodd yr ŵyl Digwyddiad Bychan Gorau Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru. Fe gyhoeddwyd enwau’r enillwyr mewn seremomi wobrwyo yn y Vale Resort, Hensol ar ddydd Mercher 25 Mawrth 2015.
Roedd y gystadleuaeth yn gryf yn y categori Digwyddiad Bychan Gorau, gyda Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr yn ennill y Wobr Aur. Rhoddwyr y Wobr Arian i Ŵyl Airshow & Transport y Trallwng, a’r Wobr Efydd i’r Isle of Fire.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith Ken Skates: “Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru yw Oscars y diwydiant twristiaeth ac maent yn talu teyrnged i’r rhai hynny sy’n ymroddedig ac yn angerddol tuag at eu busnesau, twristiaeth a Chymru. Mae ansawdd yr hyn sydd gennym i’w gynnig yma yng Nghymru yn mynd o nerth i nerth ac mae’r gwobrau hyn yn gyfle i ni ddathlu’r diwydiant ac i arddangos ansawdd rhagorol ein sector dwristiaeth lachar. Hoffwn longyfarch yr enillwyr a dymuno tymor llwyddiannus iawn i chi eleni.”
Trefnwyd Trefnwyd Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr 2014 gan Llenyddiaeth Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cadw a Phrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant ac fe’i cefnogwyd gan Cyngor Celfyddydau Cymru. Ariannwyd yr ŵyl gan gronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru.
Cliciwch yma i weld lluniau o 2012 a 2014: