Dewislen
English
Cysylltwch

Ysgrifennu creadigol a chreu caneuon i bobl ifanc sydd wedi eu heffeithio gan hunanladdiad

Cyfranogwyr: Pobl ifanc yr effeithir arnynt gan hunanladdiad

Awduron: Melanie Perry a Rufus Mufasa

Lleoliad: Sir Gaerfyrddin a Rhondda Cynon Taf

Gwybodaeth bellach: Roedd Keep Talking Tidy yn gyfres o ddeg sesiwn ysgrifennu creadigol a chyfansoddi caneuon gyda phobl ifanc ar yr ymylon sydd wedi eu heffeithio gan hunanladdiad yn Sir Gaerfyrddin a Rhondda Cynon Taf. Roedd y gweithdai yn annog ac yn cefnogi’r cyfranogwyr i fod yn agored, i ofyn am gymorth, ac yn helpu atal y posibilrwydd o hunanladdiad mewn ffordd a oedd yn berthnasol iddynt yn ieithyddol a diwylliannol. Cyfrannodd y gyfres at gynhyrchu albwm o farddoniaeth a cherddoriaeth a guradwyd gan Rufus Mufasa a digwyddiadau perfformio yn Sir Gaerfyrddin, Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd.

Nodau ac amcanion y prosiect oedd:

Nodau

  • Cyflwyno cyfres o ddeg sesiwn ysgrifennu creadigol a chreu caneuon yn canolbwyntio ar helpu gyfranogwyr i fynegi eu hunain trwy farddoniaeth a chân. Pum sesiwn yn Sir Gaerfyrddin a phump yn Rhondda Cynon Taf
  • Hyrwyddo cynhwysiant cymunedol ehangach yn Sir Gaerfyrddin, Rhondda Cynon Taf, Cymru ac yn rhyngwladol
  • Hybu hyder a hunan-ddatblygiad
  • Cyflwyno canlyniadau creadigol ymarferol ac wedi’u dogfennu trwy berfformiad llafar a chanu a chyhoeddi albwm.
  • Cynnig datblygiad cyfranogwyr ag ethos mentora ysgrifenwyr ifanc.

Amcanion – i gyfranogwyr:

  • profi buddion therapiwtig ysgrifennu creadigol a chreu a pherfformio caneuon
  • profi effaith therapiwtig cysylltu’n greadigol â materion sy’n gysylltiedig â hunanladdiad
  • ysgrifennu a rhannu, lle bo’n briodol, waith unigol a gwaith grŵp
  • cyfrannu at ddarnau o ysgrifennu a chân ar y cyd
  • creu gwaith ysgrifenedig sy’n addas ar gyfer cyfansoddi caneuon
  • cyfrannu at ddigwyddiad yn lansio’r albwm o barddoniaeth a cerddoriaeth
  • profi cynnydd hunan-gofnodedig mewn hyder, lles seicolegol, a chynhwysiant.
  • cyfarfod a dysgu oddi wrth amrywiaeth o awduron a pherfformwyr proffesiynol yng Nghymru
  • cysylltu’n rhyngwladol â phartneriaid prosiect ehangach

 

Gweithiodd Mel a Rufus ochr yn ochr â thîm Voices from Care Cymru, https://vfcc.org.uk/ a oedd yn eu cysylltu â’u grwpiau cymorth lleol o bobl ifanc â phrofiad o ofal maeth yn Sir Gaerfyrddin a Rhondda Cynon Taf. Trefnodd yr artistiaid a’r cyfranogwyr i gyfarfod ym mhob canolfan bob pythefnos gyda chynllun i ddod at ei gilydd fel un grŵp tua diwedd y prosiect. Cafodd y prosiect ei herio, ond nid ei rwystro’n llwyr, gan ddau ddigwyddiad allweddol yn 2020. Arweiniodd stormydd Chwefror a dechrau Mawrth at ohirio sesiynau yn RhCT oherwydd llifogydd ym Mhontypridd. Roedd y cloi cenedlaethol i reoli Covid 19 yn golygu bod yr holl waith wyneb yn wyneb yn dod i ben ar 12 Mawrth.

Roedd y gweithgareddau yn ystod y sesiynau yn cynnwys coladu ac ysgrifennu am eich hunan; gwneud cychod hwylio Origami ac ysgrifennu am daith y gallem ei gwneud ynddynt; ysgrifennu wedi’i ysbrydoli gan ddelwedd y prosiect Keep Talking Tidy; ysgrifennu a ysbrydolwyd gan rai o gerddi Joakim Becker o when the barbed wire slipped in; ysgrifennu eu hadroddiad tywydd a’u rhagolygon eu hunain a gwneud enfys llesiant o ysgrifennu wedi’i ysbrydoli gan deimladau a ysgogwyd gan liwiau’r enfys.

Roedd y bobl ifanc a gymerodd ran yn y prosiect wedi mwynhau a gwerthfawrogi’r sesiynau. Yn yr amser byr y cyfarfuont, dywedasant eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys, eu croesawu, eu bod yn cael gwrandawiad, eu derbyn. Am eiliadau byr roedden nhw’n teimlo’n llai ynysig ac yn fwy hunanhyderus. Ar ôl y sesiwn gyntaf ym mis Ionawr roedd y cyfranogwyr yn awyddus i rannu’r gweithgareddau mewn cynhadledd Voices from Care Cymru ym mis Chwefror 2021, a mynegwyd awydd ganddynt i gyfarfod a chymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol yn amlach.

Effaith

Siaradodd llawer o’r cyfranogwyr yn frwdfrydig am effaith ysgrifennu a rhanasant darnau pwerus a theimladwy. Roeddent yn gwerthfawrogi: “Gallaf gael fy ngwir deimladau allan heb siarad” ac “nid yw’n ymwneud â gofal maeth i gyd”.

Daeth un cyfranogwr yn arweinydd cyfoed. Daeth yn ei blaen yn sylweddol, gan siarad yn fwy hyderus am ei phrofiadau mewn gofal maeth a’i hunaniaeth y tu hwnt i hynny.

Roedd heriau COVID 19 a chloeon yn gofyn am sensitifrwydd a hyblygrwydd mawr gan yr artistiaid a’r bobl ifanc. Un o’r prif bwyntiau dysgu oedd nad oedd mynd arlein mor syml ag y mae’n ymddangos i bobl ifanc. Nid oes gan bobl ifanc o reidrwydd fynediad at lwyfannau dibynadwy a diogel i weithio arnynt. Efallai y bydd yn rhaid iddynt rannu dyfais addas fel gliniadur, cyfrifiadur personol, neu tabled. Roedd ffonau’n gyfyngedig o ran eu gallu ar gyfer sesiynau grŵp byw uniongyrchol.

 

Melanie Perry: Bardd, perfformiwr ac ymarferydd ysgrifennu o Sir Gaerfyrddin yw Mel. Mae ei cherddi yn ymddangos mewn ystod o gyhoeddiadau gan gynnwys TwoThirds North o Brifysgol Stockholm. Mae ganddi ddau gasgliad o farddoniaeth, Rum Dark Nights, a gyhoeddwyd gan Three-Throated Press a chyfrol ddwyieithog Sound the Hollow-Det håligas ljud a gyhoeddwyd gan Magnus Grehn Förlag. Fel perfformiwr mae hi’n aelod o The Rockhoppers, triawd o feirdd benywaidd sydd wedi perfformio yng Nghymru, Lloegr ac Iwerddon.

Rufus Mufasa: Mae’r ymgyrchydd llenyddol Rufus Mufasa yn artist cyfranogol arloesol ac yn lladmerydd dros addysg hip hop a datblygu barddoniaeth sy’n hygyrch i bawb. Yn ddiweddar, fe lansiodd Rufus albwm, Fur Coats From The Lion’s Den, a alwyd yn uchafbwynt diwylliannol gan Wales Arts Review.

Mae Rufus yn un o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli, yn cefnogi sawl prosiect pontio’r cenedlaethau, yn gweithio’n rhyngwladol, ac yn ddiweddar bu’n Breswylydd Llenyddol Rhyngwladol Coracle Europe. Hi yw Bardd Preswyl cyfredol Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.

Dyfyniad:

  “Ein gobaith yw y gall pobl ifanc fod yn agored am eu teimladau, gofyn am help i ymdopi â phrofiadau bywyd anodd a bod yn barod i helpu eraill i atal hunanladdiad a hunan-niweidio. Trwy weithdai hip-hop a rap bydd Keep Talking Tidy yn brosiect perthnasol yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol ac yn meithrin talent greadigol trwy ddull newydd o ymgysylltu â chymheiriaid.”

Nôl i Ein Prosiectau