Cyfranogwyr: Staff gofal lliniarol, cleifion a theuluoedd, Ceredigion
Artist: Mererid Hopwood
Partneriaid: Gudrun Jones (therapydd celf), Bwrdd Iechyd Hywel Dda
Lleoliad: Aberystwyth
Gwybodaeth bellach: Bydd Mererid Hopwood yn cyflawni preswyliad llenyddol yn uned gofal lliniarol Ysbyty Bronglais am wythnos, gan gyfarfod â’r staff yno, ynghyd â theuluoedd a chleifion yr uned. Fe fydd yn sgyrsiau hyn yn sbardun ar gyfer cyfres o gerddi ar thema marwolaeth a diwedd bywyd. Byddwn yn cyhoeddi’r cerddi yn Gymraeg a Saesneg mewn pamffledyn ac yn ddigidol yn ystod wythnos Byw Nawr ym mis Mai 2018 a byddant yn adnodd i ddechrau trafod y themâu, yn arbennig mewn sesiynau hyfforddiant i staff y gwasanaeth iechyd. Derbyniwyd nawdd gan gronfa Byw Nawr, Llywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect hwn.
Gwybodaeth am Mererid Hopwood: Mae Mererid Hopwood yn dysgu ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac wrth ei bodd yn ysgrifennu. Mae wedi ennill Cadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol a bu’n Fardd Plant Cymru. Mae wedi cyhoeddi cyfrolau rhyddiaith a barddoniaeth a chynnal llawer o weithdai creadigol.