Dewislen
English
Cysylltwch

Cynllun Nawdd Llên a Lles

Yn ystod gwanwyn 2018 fe gefnogodd Llenyddiaeth Cymru naw prosiect a ddyfeisiwyd gan awduron gyda grŵp targed mewn golwg. Ymysg y grwpiau hyn roedd unigolion sydd wedi profi digartrefedd, ceiswyr lloches, merched sydd wedi dioddef trais yn y cartref, neu unigolion sydd mewn peryg o deimlo datgysylltiad neu gael eu gwthio i gyrion cymdeithas.

Cynhaliwyd galwad llwyddiannus i awduron ac artistiaid i greu ac arwain cyfres o weithdai ysgrifennu creadigol yn y gymuned a gyhoeddwyd ym mis Awst 2017.

Mae profion glinigol wedi dangos bod cymryd rhan mewn ysgrifennu creadigol a darllen yn fuddiol i’n llesiant, yn gorfforol ac yn feddyliol, a gall wella bywydau. Nod y Cynllun Nawdd Llên a Lles oedd rhoi’r cyfle i unigolion a chymunedau ledled Cymru adrodd eu straeon ac ysgrifennu eu dyfodol.

Ceir gwybodaeth bellach am bob prosiect ac am yr awduron ac artistiaid sy’n eu harwain isod: