Dewislen
English
Cysylltwch

Llên mewn Lle

Mae Llên mewn Lle yn brosiect gan Llenyddiaeth Cymru, mewn partneriaeth â WWF Cymru sydd yn archwilio’r argyfwng hinsawdd a natur trwy lenyddiaeth. Mae’r prosiect wedi mynd o nerth i nerth ers 2023 ac yn cynnig nawdd i awduron a hwyluswyr i greu, sefydlu, a chyflawni gweithgaredd yn eu cymuned leol.  

Yn 2026-2027, bydd y prosiect yn canolbwyntio ar fywyd ecolegol a diwylliannol afonydd. Bydd tair preswylfa yn digwydd ar draws tair o afonydd Cymru, sef y Cleddau, y Dyfrdwy a’r Taf. Bydd y preswylfeydd yn rhedeg o fis Mawrth i fis Rhagfyr 2026, a bydd pob un yn archwilio’r cysylltiadau dwfn rhwng tir a dŵr, bodau dynol a bodau pwysicach na ni, rhwng y cof a’r dyfodol. 

Dywedodd , Rhian BrewsterPennaeth Cyfathrebu WWF Cymru: 

“Ry’n ni wrth ein boddau yn WWF Cymru i bartneru gyda Llenyddiaeth Cymru unwaith eto. Canlyniad ein gwaith dros y dair mlynedd diwethaf yw cyswllt gwirioneddol ystyrlon, ysbrydoledig a chreadigol rhwng cymunedau a’r byd naturiol o’u cwmpas. Bydd esblygiad Llen Mewn Lle i raglen artist preswyl dros flwyddyn yn galluogi mwy o bobl i archwilio’r berthynas rhwng natur a chreadigrwydd, gan ganolbwyntio ar rywbeth sy’n effeithio arnom i gyd, ansawdd y dŵr yn ein hafonydd. Mae adrodd straeon yn bwerus, ac ry’n ni’n edrych ymlaen at weld pa straeon ysbrydoledig a ddaw i’r wyneb drwy leisiau afonydd y Cleddau, y Taf a’r Ddyfrdwy.” 

Y tri awdur preswyl fydd Natasha Borton, Hywel Griffiths Nasia Sarwar-Skuse. Yn ystod eu preswylfeydd, bydd yr awduron yn gweithredu fel gohebwyr creadigol, gan ddogfennu realiti llygredd afonydd tra hefyd yn hyrwyddo gwaith grwpiau lleol sy’n gweithio i adfer iechyd yr afon. Bydd pob preswyliad yn arwain at ddarn o waith creadigol gwreiddiol sy’n cyfuno llais cymunedol, mewnwelediad ecolegol, ac arfer creadigol yr awdur ei hun. Yn eu ffordd unigryw eu hunain, bydd pob preswyliad yn cyfleu gweledigaeth gyfunol, ddychmygus ar gyfer dyfodol yr afon a’r ardal, gan dynnu sylw at rôl hanfodol adrodd straeon a chreadigrwydd wrth fynd i’r afael â chwalfa hinsawdd.  

Byddwn yn postio diweddariadau am y preswyliadau drwy gydol y flwyddyn, felly dilynwch y prosiect #LitinPlace #LlênMewnLle ar gyfryngau cymdeithasol (@LlenCymru_LitWales) i gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddigwyddiadau a gweithgareddau a fydd yn digwydd. Dysgwch fwy am y prosiectau unigol sydd ar y gweill isod, yn ogystal â’r prosiectau arbennig sydd wedi digwydd dan faner Llên mewn Lle | Lit in Place hyd yn hyn.