WWF yw un o sefydliadau cadwraeth annibynnol mwyaf y byd, sy’n weithredol mewn bron i 100 o wledydd. Mae eu cefnogwyr – mwy na phum miliwn ohonyn nhw – yn eu helpu i adfer byd natur ac i fynd i’r afael â phrif achosion dirywiad byd natur, yn enwedig y system fwyd a newid hinsawdd. Maent yn ymladd i sicrhau byd gyda chynefinoedd a rhywogaethau ffyniannus, ac i newid calonnau a meddyliau fel ei bod yn annerbyniol gorddefnyddio adnoddau ein planed.
Dysgwch fwy am eu gwaith, ddoe a heddiw, ar wwf.org.uk
Wrth drafod Llên mewn Lle, dywedodd Rhhian Brewster, Cyd-Bennaeth Cyfathrebu, WWF Cymru :
“Does neb yn adnabod y tirweddau lleol yn well na’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yn y cymunedau hynny. Mae pobl, natur a hinsawdd yn gwbl gysylltiedig, maent yn dibynnu ar ei gilydd i oroesi. Dyna pam rydym ni yn WWF Cymru yn falch o fod yn bartner gyda Llenyddiaeth Cymru ar y prosiect hwn sy’n canolbwyntio ar sut mae pobl a chymunedau yn teimlo ac yn ymateb yn greadigol i’r argyfyngau natur a hinsawdd. Gyda thri phrosiect a chymuned wahanol iawn ar draws Cymru rydym yn edrych ymlaen at weld sut mae pob un yn ymateb i’r her.”