WWF yw un o sefydliadau cadwraeth annibynnol mwyaf y byd, sy’n weithredol mewn bron i 100 o wledydd. Mae eu cefnogwyr – mwy na phum miliwn ohonyn nhw – yn eu helpu i adfer byd natur ac i fynd i’r afael â phrif achosion dirywiad byd natur, yn enwedig y system fwyd a newid hinsawdd. Maent yn ymladd i sicrhau byd gyda chynefinoedd a rhywogaethau ffyniannus, ac i newid calonnau a meddyliau fel ei bod yn annerbyniol gorddefnyddio adnoddau ein planed.
Dysgwch fwy am eu gwaith, ddoe a heddiw, ar wwf.org.uk