Dewislen
English
Cysylltwch
Mae’r preswyliad hwn, dan arweiniad y bardd a’r daearyddwr Hywel Griffiths, yn canolbwyntio ar iechyd ecolegol afon Cleddau a’r perthnasoedd y mae pobl yn eu ffurfio â hi, gan gynnwys ei bywyd tu hwnt i’r dynol.

Wedi’i ysbrydoli gan y gair Cymraeg ‘coleddu’ sy’n golygu trysori, meithrin twf a chyfeillgarwch, bydd Hywel yn cynnal sgyrsiau a gweithdai creadigol gyda’r rhai sy’n rheoli, astudio, neu ymgysylltu â’r afon. Bydd mewnwelediadau o’r cyfarfyddiadau hyn yn llywio gweithdai ysgrifennu ysgolion a chymunedol, gan arwain at waith llenyddol hybrid sy’n cyfuno barddoniaeth, rhyddiaith, delwedd, sain a ffilm. Mae Hywel yn bwriadu archwilio sut y gall llenyddiaeth roi llais i bobl ac ecosystem ehangach yr afon.

 

Adnabod yr Awdur
Llun o Hywel Griffiths.
Hywel Griffiths

Mae Hywel Griffiths yn fardd, daearyddwr ac awdur sy’n gweithio fel darlithydd mewn Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae wedi cyhoeddi pedair cyfrol o farddoniaeth, gyda’i gyfrol ddiweddaraf, Y Traeth O Dan y Stryd (Cyhoeddiadau Barddas, 2023), yn cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Barddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024. Mae Hywel wedi ennill sawl gwobr lenyddol gan gynnwys Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2008, y Gadair yn 2015 a Chategori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2018 am ei lyfr Llif Coch Awst (Cyhoeddiadau Barddas, 2017). Mae tirwedd a pherthynas pobl â lle yn themâu canolog yn ei waith. Mae ei ymchwil academaidd yn canolbwyntio ar geomorffoleg afonydd ac arfordiroedd, llifogydd, rheoli amgylcheddol a dulliau amgen o gyfathrebu gwyddoniaeth. Mae Hywel hefyd yn ymddiddori’n arbennig mewn dulliau cydweithredol, gan ymgysylltu gwyddonwyr, awduron ac artistiaid i archwilio heriau amgylcheddol cyfoes.

Nôl i Llên mewn Lle