Dan arweiniad Iola Ynyr, gweithiodd Gwledda gyda rhieni a phlant o gymuned Rhosgadfan, gan ganolbwyntio yn gyntaf ar deuluoedd o gefndiroedd incwm isel cyn agor i gymuned ehangach Ysgol Rhosgadfan. Wedi’i gyflwyno yn y Gymraeg ar gyfer siaradwyr rhugl a siaradwyr newydd, roedd y prosiect yn blaenoriaethu lles, meithrin hyder a chysylltiad cymunedol. Archwiliodd y cyfranogwyr newid hinsawdd a bioamrywiaeth trwy weithgareddau awyr agored gan gynnwys teithiau cerdded natur, adeiladu tai pryfed ac ysgrifennu creadigol a archwiliodd y berthynas rhwng yr iaith Gymraeg a’r tir. Wedi’i gyflwyno mewn partneriaeth â GwyrddNi, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd, cyfunodd y prosiect ddysgu â gweithredu, gan arwain at blannu dros 30 o goed. Mae cerflun pren parhaol o fantell Kate Roberts, sydd bellach wedi’i osod yng Nghae’r Gors, yn nodi etifeddiaeth y prosiect ac wedi ysbrydoli gweithredu cymunedol parhaus.
***
I’r rheiny sydd yn ystyried gweithio â cymunedau ar thema’r Argyfwng Natur a Hinsawdd, mae modd darllen adnodd Iola ar ddatblygu a rhedeg prosiectau cymunedol ar yr argyfwng natur a hinsawdd.
Cafodd y prosiect hwn ei gefnogi’n lleol gan GwyrddNi, Ysgol Rhosgadfan a Ymddiriedolaethau Natur Gogledd Cymru, ac yn genedlaethol gan Llenyddiaeth Cymru a WWF Cymru.
Lluniau: Lindsay Walker Photography


