Bydd Natasha’n cynnal gweithdai a pherfformiadau barddoniaeth yn Llangollen a Wrecsam, gan gysylltu grwpiau presennol i feithrin ymdeimlad cyffredin o Afon Dyfrdwy fel gofod diwylliannol. Yn greadigol, bydd Natasha yn cyfuno barddoniaeth, rhyddiaith, sain, a pherfformiad byw, gan ymgorffori Wenglish a thafodieithoedd lleol, ac yn cymryd ysbrydoliaeth o deithio araf ar hyd yr afon ar droed, trafnidiaeth gyhoeddus, a lle bo modd, ar ddŵr.
Adnabod yr Awdur

Mae Natasha Borton yn awdur a hwylusydd creadigol o Wrecsam. Mae ei gwaith wedi’i wreiddio yn y gymuned, trwy ysgrifennu, perfformio a hwyluso ac mae’n cael ei hysbrydoli gan ein straeon lleol a chysylltiad cymunedol. Enillodd Ail Wobr Poetry Wales (2025), cyd-enillodd y Coracle Europe Fringe Slam (2025), ac mae’n Gyfarwyddwr Artistig Voicebox Wxm. Mae Natasha wedi perfformio mewn gwyliau, lleoliadau a digwyddiadau ledled y DU, gan gynnwys Focus Wales, Get a Word in Edgeways, Everyman Playhouse, Canolfan Mileniwm Cymru, Lush!, The Lowry a Roundhouse London. Mae ei gwaith comisiwn yn cynnwys prosiectau gyda Donmar Warehouse, Dirty Protest Theatre, Chester Pride, Wrexham Poverty Action Group a Tŷ Pawb.