Gan weithio gyda chymunedau ym Mhontypridd a Chaerdydd trwy ysgrifennu creadigol, gweithdai cerdded a siarad, ac adrodd straeon glan yr afon, mae’r prosiect hwn yn annog cyfranogwyr i rannu profiadau o newid a gofal amgylcheddol. Bydd sgyrsiau gydag ecolegwyr, haneswyr ac arbenigwyr llên gwerin yn ehangu cwmpas y prosiect yn ystod y flwyddyn. Uchafbwynt y prosiect fydd casgliad o waith hybrid, aml-lais sy’n cysylltu cynulleidfaoedd â straeon yr afon, gan feithrin perthynas, stiwardiaeth a pherthyn.
Adnabod yr Awdur

Mae Nasia Sarwar-Skuse yn awdur, golygydd ac artist arobryn ac mae ei gwaith yn archwilio lle, diwylliant, cymuned, gwleidyddiaeth a chyfiawnder trwy lens dad-drefedigaethol. Mae ei gwaith wedi’i seilio mewn partneriaethau hirdymor, dan arweiniad perthnasoedd, gyda chymunedau a sefydliadau diwylliannol, yn aml trwy ymarfer cymdeithasol-ymgysylltiedig a chydweithredol. Hi oedd y Prif Artist ar Perspective(s), prosiect dad-drefedigaethu yn Amgueddfa Hanes Genedlaethol Sain Ffagan, gan weithio mewn partneriaeth agos â’r amgueddfa i archwilio cynrychiolaeth, pŵer a naratifau sefydliadol. Mae gan Nasia PhD mewn Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol o Brifysgol Abertawe, a ariannwyd gan Ysgoloriaeth Rhagoriaeth Ymchwil Prifysgol Abertawe. Canolbwyntiodd ei hymchwil doethuriaeth ar drefedigaeth/dad-drefedigaethu, Rhaniad, mudo, a’u croestoriadau ag archifau, rhywedd a chof. Enillodd Wobr Ysgrifennu’r Frenhines Mary (Wasafiri) 2023 ac mae’n Gyd-Olygydd Gathering: Women of Colour on Nature (404 Ink). Mae ei gwaith ysgrifenedig wedi ymddangos mewn nifer o gyhoeddiadau, gan gynnwys Wasafiri, gal-dem, Peaks of Colour, Visual Verse, Just So You Know: Essays of Experience (Parthian Books), In The Kitchen (Dahlia Books), a Lumin Press.