Gwobr Llyfr y Flwyddyn
Mae’r broses ymgeisio ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2025 nawr ar gau.
Mae pedwar categori yn y ddwy iaith – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc, gydag un o’r enillwyr categori hyn yn mynd ymlaen i ennill y Brif Wobr, ac yn hawlio’r teitl Llyfr y Flwyddyn. Mae deuddeg gwobr, gyda chyfanswm o £14,000 ar gael i’r awduron llwyddiannus. Yn Gymraeg ac yn Saesneg mae pedwar enillydd categori, un enillydd Barn y Bobl ac un prif enillydd.
Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn rhan annatod o weithgaredd Llenyddiaeth Cymru, ac yn cyfrannu tuag at ei strategaeth o ddathlu a chynrychioli diwylliant, awduron a threftadaeth lenyddol Cymru. Mae’r wobr yn rhoi llwyfan allweddol i awduron sy’n cyhoeddi cyfrolau am y tro cyntaf, yn ogystal â llwyfan arbennig i gynnig cydnabyddiaeth i rai o awduron amlycaf Cymru.
Ym mis Gorffennaf 2024, cynhaliwyd Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2024 yn y Galeri yng Nghaernarfon gyda Mari George yn cipio’r Brif Wobr ac yn hawlio’r teitl Llyfr y Flwyddyn 2024 gyda’i nofel Sut i Ddofi Corryn a Tom Bullough yn cipio’r Brif Wobr Saesneg gyda’i nofel Sarn Helen. Ewch i bori drwy’r galeri o luniau o’r noson yma.
I bori drwy wobrau ac enillwyr y gorffennol sy’n cynnwys Caryl Lewis, Manon Steffan Ros, Llŷr Titus, Ffion Dafis a llawer mwy, cliciwch yma.
Dilynwch ni ar ein cyfrif Instagram am ddiweddariadau cyffroes Llyfr y Flwyddyn 2025: @llyfr_y_flwyddyn_wboty