Dewislen
English
Cysylltwch

Beirniaid Llyfr y Flwyddyn 2021

Guto Dafydd
Mwy
Anni Llŷn
Mwy
Tomos Owen
Mwy
Esyllt Sears
Mwy
Y Panel Saesneg
Mwy
Guto Dafydd

Enillodd Guto Dafydd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2014 a 2019, a Gwobr Goffa Daniel Owen yn 2016 a 2019. Y mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau, gan gynnwys cyfrol o farddoniaeth, Ni Bia’r Awyr (Barddas, 2014); a thair nofel, Stad (Y Lolfa, 2014), Ymbelydredd (Y Lolfa, 2016) - a enillodd Wobr Barn y Bobl Llyfr y Flwyddyn 2017 - a Carafanio (Y Lolfa, 2019). Ysgrifennodd y geiriau ar gyfer A Oes Heddwch, cyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol 2017, a’r gyfres ddrama radio Carafanio: Coronafeirws. Mae wedi darllen ei waith mewn degau o festri, tafarndai, llyfrgelloedd, ysgolion a neuaddau, a thrafod llenyddiaeth yn aml mewn amryw gyhoeddiadau ac ar y teledu, y radio a’r we. Mae’n gweithio i Gomisiynydd y Gymraeg ac yn byw ym Mhwllheli gyda Lisa, Casi a Nedw.

Cau
Anni Llŷn

Mae Anni Llŷn yn awdur sydd wedi cyhoeddi nofelau a llyfrau ar gyfer plant a phobl ifanc, wedi sgriptio sawl sioe addysgiadol a rhaglenni teledu ar gyfer y gynulleidfa ifanc ar S4C. Hi oedd Bardd Plant Cymru 2015-2017. Mae hi'n gweithio'n gyson gyda phlant a phobl ifanc ar draws Cymru ar brosiectau creadigol a gweithdai ysgrifennu. Mae hi hefyd wedi cyflwyno Eisteddfod yr Urdd ac Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc dros y blynyddoedd. Mae hi'n fam i ddwy fach ac yn byw gyda'i gŵr a'i phlant ym Mhen Llŷn. Mae hi'n caru darllen ond fel mam, tydi hi ddim yn llwyddo i gael cymaint o amser ac yr hoffai i wneud, a phan mae hi'n cael amser i eistedd lawr i ddarllen... mae hi'n disgyn i gysgu yn o handi! Felly braf iawn oedd cael cyfle i orfod cael amser i ddarllen ar gyfer Llyfr y Flwyddyn!

Cau
Tomos Owen

Mae Tomos Owen yn ddarlithydd mewn llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n arbenigo mewn llenyddiaeth fodern a chyfoes, ac ar lenyddiaethau Cymru yn enwedig. Golygodd dwy flodeugerdd o sgwennu newydd – Nu (Parthian, 2009) a Memorable Firsts (Parthian, 2011). Cyhoeddodd ar waith awduron megis Amy Dillwyn, Rhys Davies, Dylan Thomas a Caradoc Evans, ac ar destunau yn cynnwys llenyddiaeth Cymry Llundain, ffuglen ddiwydiannol ac anifeiliaid mewn llenyddiaeth gyfoes.

Cau
Esyllt Sears

Enwyd Esyllt Sears fel ‘Un i’w Gwylio’ gan y Funny Women Awards yn dilyn ei pherfformiad stand-yp cyntaf yn 2017 ac roedd hynny'n ddigon i'w argyhoeddi efallai bod esgeuluso dau blentyn bach i ddilyn gyrfa mewn comedi yn fwy na midlife crisis. Ers hynny, mae hi wedi perfformio setiau ar gyfer BBC Radio 4 Extra, BBC Radio Wales ac S4C.

Mae hi hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer The Now Show a The News Quiz (Radio 4); rhaglen sgetshys Elis James - Nabod y Teip a StandYp Elis James - Haleliw (S4C); Hunllef yng Nghymru Sydd (Radio Cymru); a Welcome Strangers a Peri-Peri Menopausal Chicken (Radio Wales). Yn 2019, fe gefnogodd Elis James, Lloyd Langford a Jen Brister ar eu teithiau ac mae hi hefyd yn banelydd rheolaidd ar y sioe banel Who Said That? a’r podlediad The Comedy Arcade.

Yn frodor o Aberystwyth, astudiodd Cymraeg a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd cyn ennill diploma mewn Cysylltiadau Cyhoeddus a symud i Lundain i weithio gyda chwmnïau megis South African Tourism, The Tata Group, BT Global Financial Services, AIG, Delta Airlines a The Rezidor Hotel Group. Mae hi nawr yn byw ym Mro Morgannwg ac yn ddarlithydd marchnata a busnes achlysurol gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cau
Y Panel Saesneg

Tishani Doshi

Mae Tishani Doshi yn awdur a dawnsiwr arobryn o dras Cymreig-Gwjarati. Yn enedigol o Madras, India, derbyniodd radd meistr mewn ysgrifennu gan Brifysgol Johns Hopkins, a bu’n gweithio yn Llundain ym myd hysbysebu cyn dychwelyd i India yn 2001, ble arweiniodd cyfarfyddiad siawns â’r coreograffydd Chandralekha at yrfa annisgwyl mewn dawns. Mae hi wedi cyhoeddi saith llyfr ffuglen a barddoniaeth, a'r mwyaf diweddar ohonynt yw Girls Are Coming Out of the Woods (Bloodaxe Books, 2018), sydd yn ymddangos ar restr fer Gwobr Farddoniaeth Ted Hughes a Gwobr Firecracker, a’i nofel, Small Days and Nights (Bloomsbury Publishing, 2020), sydd yn ymddangos ar restr fer Gwobr RSL Ondaatje, Gwobr Ffuglen Orau Tata, a New York Times Bestsellers Editor’s Choice. Mae hi wedi cyfweld â dros gant o awduron ynglŷn â chrefft ysgrifennu, ac wedi cyhoeddi traethodau yn The Hindu, Granta, The National, The New York Times, The Guardian, Lithub a Corriere della Sera. Mae hi'n athro gwadd mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Efrog Newydd Abu Dhabi, ac fel arall, mae'n byw ar draeth yn Tamil Nadu, India.

Scott Evans

Athro cynradd yw Scott Evans, ac y mae hefyd yn Arweinydd Darllen, yn ymgynghorydd llyfrau plant ac yn ddylanwadwr o dde Cymru. Mae’n darllen, adolygu ac yn argymell ystod o lenyddiaeth plant ar ei wefan TheReaderTeacher.com, sydd yn ddefnyddiol tu hwnt ar gyfer athrawon, ysgolion, rhieni a phlant. Cyn hyfforddi fel athro, gweithiodd mewn llyfrgelloedd am nifer o flynyddoedd ac mae’n angerddol tu hwnt dros bwysigrwydd llyfrgelloedd ysgol a llyfrgelloedd cyhoeddus. Yn ddiweddar, mae Scott wedi ymddangos ar, ac wedi ysgrifennu ar gyfer, y BBC ynglyn â magu plant fel darllenwyr, wedi creu rhestr fer ar gyfer Gwobrau Llyfrau Blue Peter a Gwobrau Llyfrau Laugh Out Loud, ac y mae hefyd yn gwesteio’r #PrimarySchoolBookClub – clwb llyfrau ar lein misol sydd yn sgwrsio ac am lyfrau o bob math.

Tanni Grey-Thompson

Athletwr Paralympaidd o Gaerdydd yw Tanni Grey-Thompson. Yn ystod ei gyrfa lwyddiannus fe enillodd 11 medal aur yn y Gemau Paralymaidd; Marathon Cadair Olwyn Llundain chwe gwaith; Persnoliaeth Chwaraeon BBC Cymru deirgwaith; yn ogystal â thorri 30 Record Byd. Mae wedi parhau i ddefnyddio ei phrofiad a’i hangerdd er mwyn ysbrydoli eraill, drwy ei rolau amrywiol ar Fwrdd Marathon Llundain, y Sportsaid Foundation, Gwobrau Dug Caeredin a Join In. Yn 2000, derbyniodd OBE ac yn 2010 daeth yn un o Arweinyddion Annibynnol y Croesfeinciau yn Nhŷ’r Arglwyddi, ac fe’i gwnaed yn Farwnes Grey-Thompson o Eaglescliffe, Swydd Durham.

Charlotte Williams

Mae Charlotte Williams OBE yn academydd, awdur ac actifydd. Mae hi'n Athro Anrhydeddus yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor ac mae ganddi benodiadau Anrhydeddus ym Mhrifysgol Glyndwr a Phrifysgol De Cymru. Mae Charlotte wedi ymchwilio a chyhoeddi’n helaeth ar faterion ymfudo, hil, ethnigrwydd, ac amlddiwylliannedd gan ddefnyddio cyfryngau academaidd, llenyddol a phoblogaidd. Mae hi'n gyd-olygydd y testun arloesol A Tolerant Nation? Revisiting Ethnic Diversity in a devolved Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, 2003 a 2015). Mae cyfraniadau Charlotte i astudiaethau ôl-drefedigaethol yn cynnwys ei chofiant, Sugar and Slate (Planet 2002), sydd yn archwilio ei threftadaeth Gymraeg-Guyanese a'i hunaniaeth diasporig, ac a enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2003; hi hefyd yw cyd-olygydd Denis Williams: A Life in Works, New and Collected Essays (Rodopi, 2010), Auntie yn y casgliad Tangled Roots: Stories of Mixed Race Britain, wedi'i olygu gan Katie Massey (Tangled Roots, 2015) a chyfraniadau rheolaidd i gyfnodolion rhyngwladol gan gynnwys Planet, Wales Review Online, a Wasafiri. Yn 2005 hi oedd Cadeirydd panel beirniaid Gwobr Llyfr y Flwyddyn. Dyfarnwyd OBE i Charlotte yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines (2007) am wasanaethau i leiafrifoedd ethnig a chydraddoldeb yng Nghymru.

Cau