Dewislen
English
Cysylltwch

Beirniaid Llyfr y Flwyddyn 2023

Ceri Wyn Jones
Mwy
Megan Angharad Hunter
Mwy
Savanna Jones
Mwy
Sioned Wiliam
Mwy
Beirniaid Saesneg
Mwy
Ceri Wyn Jones

Crwt o Aberteifi yw Ceri Wyn Jones. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, ynghyd â’r Goron, ac ef yw’r Meuryn, sef cyflwynydd a beirniad cyfres Y Talwrn ar BBC Radio Cymru. Bu’n Fardd Plant Cymru ac mae wedi cyhoeddi cyfrolau o gerddi i blant ac oedolion, gan gynnwys Dauwynebog a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2008. Wedi dilyn gyrfa fel athro Saesneg ac wedyn fel golygydd llyfrau, mae bellach yn gweithio ar ei liwt ei hun fel awdur, darlledwr, golygydd a thiwtor ysgrifennu creadigol.

Cau
Megan Angharad Hunter

Mae Megan Angharad Hunter yn awdur, sgriptiwr a cherddor o Ddyffryn Nantlle. Ers derbyn gradd BA mewn Cymraeg ac Athroniaeth yn 2022, mae hi wedi bod yn gweithio fel awdur llawn amser, yn ysgrifennu’n bennaf ar gyfer plant a phobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae hi wedi ysgrifennu dwy nofel ar gyfer oedolion ifanc: cyhoeddwyd tu ôl i’r awyr, ei nofel gyntaf yn 2020 cyn ennill Prif Wobr Llyfr y Flwyddyn, ac fe gyhoeddwyd Cat fel rhan o gyfres arobryn Y Pump. Enillodd hefyd Goron Eisteddfod yr Urdd 2020/21 ac mae ganddi brofiadau yn y diwydiant teledu. Yn fwy diweddar, bu’n cyd-gydlynu cwrs ysgrifennu creadigol ar gyfer awduron a/Anabl efo’r bardd Bethany Handley, ac yn 2023 fe gafodd gyfle gan Literature Across Frontiers i fynychu nifer o wyliau llenyddol yn India gyda chwech awdur Ewropeaidd arall. Wrth ysgrifennu, mae hi’n tueddu i ganolbwyntio ar themâu iechyd meddwl, a/Anabledd a rhywioldeb ac ar hyn o bryd mae hi’n gweithio ar ei nofel gyntaf i blant. Mae hi hefyd yn gwirfoddoli efo Llamau, elusen sy’n darparu llinell gymorth ar gyfer pobl ifanc sy’n wynebu digartrefedd, ac yn ogystal ag ysgrifennu mae hi’n mwynhau chwarae ystod o offerynnau cerddorol, cyfansoddi caneuon a phobi pwdinau sydd yn rhy uchelgeisiol o lawer.  

Cau
Savanna Jones

Daw Savanna o Gaerdydd ac mae’n fam i un plentyn. Mae hi’n gweithio yn y maes addysg uwch gan ganolbwyntio ar ehangu mynediad a chynhwysiant, wedi iddi gwblhau gradd meistr ym mholisi cyhoeddus. Mae’n gwirfoddoli ar fwrdd Mudiad Meithrin ac yn cydweithio gyda mudiadau Cymraeg i hyrwyddo ymarferion gwrth hiliol a hybu arferion sy’n hygyrch i bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.

Cau
Sioned Wiliam

Daw Sioned Wiliam o’r Barri. Hi yw awdur Dal i Fynd, Chwynnu a Cicio’r Bar ac fe gyhoeddir ei phedwaredd nofel, Y Gwyliau, gan Y Lolfa yn ystod yr haf. Dechreuodd ei gyrfa ym myd radio a theledu yn y BBC cyn troi’n gynhyrchydd annibynnol. Ymhlith y rhaglenni a gynhyrchwyd ganddi mae Tonight with Jonathan Ross, Game On, Big Train a Yonderland. Fe gynhyrchodd iDot i Boom/S4C a gweithiodd fel uwch gynhyrchydd ar Rhestr Nadolig Wil. Fe’i henwebwyd am wobr BAFTA dair gwaith ac fe enillodd Wobr Comedi Prydain a Rhosyn Efydd ym Montreux fel cynhyrchydd Big Train. Bu’n Gomisynydd Comedi yn ITV a BBC Radio 4.

Cau
Beirniaid Saesneg

Emily Burnett
Actores ac awdur yw Emily Burnett sydd yn enillydd BAFTA ac yn byw yng Nghaerdydd. Caiff ei hadnabod am ei rolau fel Charlie Morris ar raglen The Dumping Ground CBBC ac Olivia Bradshaw ar ddrama Hollyoaks Channel 4. Roedd Emily yn un o awduron rhaglen Cynrychioli Cymru: Datblygu Awduron o Liw Llenyddiaeth Cymru yn 2021, a cafodd ei mentora gan Abi Morgan. Amrywia ei gwaith o ryddiaith, ysgrifennu ar gyfer teledu neu ffilm, a pherfformiadau byw, ac yn aml fe ganolbwyntia ar welededd straeon a cymunedau sydd wedi eu tangynrychioli, gan edrych ar sut allwn amlygu lleisiau nad sy’n cael eu clywed. Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys: GALWAD (fel rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU), H IS FOR HAIR (drama radio ar gyfer BBC RADIO WALES), a MOTHER’S DAY (ffilm sydd wedi cyrraedd rhestr fer comisiynu Ffilm Cymru a BBC CYMRU).

Emma Smith-Barton

Mae Emma Smith-Barton yn awdur, athrawes, ac yn fentor ysgrifennu creadigol a aned yn Ne Cymru. Magwyd rhwng diwylliannau, ac mae hyn wedi dylanwadu’n fawr ar ei gwaith ysgrifennu, ac mae ganddi ddiddordeb penodol mewn archwilio themâu hunaniaeth a perthyn. Roedd The Million Pieces of Neena Gill, ei nofel gyntaf ar gyfer pobl ifanc, ar restrau byrion Gwobr Branford Boase a Gwobr Nofel Ramantaidd Cymdeithas y Nofelydd Rhamantaidd.

Mae ganddi BA mewn Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Warwick, ac MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Bath Spa. Mae ei straeon byrion wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau amrywiol fel Mslexia ac antholeg Gwobr Stori Fer Bryste, dan ei ffugenw ar gyfer ffuglen i oedolion, Amna Khokher.

Kristian Evans

Mae Kristian Evans yn fardd, golygydd, ac ymgyrchydd amgylcheddol sydd yn byw ym Mhen y Bont. Mae ei gyhoeddiadau diweddar yn cynnwys 100 Poems to Save the Earth (Seren) ac Otherworlds: Essays and Letters on Nature and Magic (Broken Sleep). Yn naturiaethwr amatur, mae ei ddiddordeb mewn ecoleg wedi ei arwain i archwilio syniadau’r byd ‘mwy-na-dynol', animistiaeth, athroniaethau cudd, a ffurfiau eraill o wybodaeth sydd wedi eu anghofio neu eu hesgeuluso. Mae’n olygydd sefydlol cylchgrawn ar-lein Modron ar yr ar argyfwng ecolegol, ac ef yw awdur y golofn A Kenfig Journal ar gyfer yr elusen amgylcheddol Cymru Gynaliadwy.

Mike Parker

Mae Mike Parker wedi ysgrifennu teithlyfrau radio a theledu, a nifer o lyfrau. Derbyniodd ei lyfr diweddaraf, On the Red Hill, sy’n rhoi sylw i fywyd cwiar gwledig, wobr Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn 2020, a daeth yn ail yng ngwobr ysgrifennu natur Wainwright Prize. Yn ogystal â’r nofel hynod lwyddiannus Map Addict, mae ei lyfrau eraill yn cynnwys y dilyniant The Wild Rover, sydd wedi derbyn clod mawr, Neighbours From Hell?, a The Greasy Poll, dyddiadur gwleidyddol o’r adeg pan ddaeth yn agos at fod yn Aelod Seneddol. Bydd ei lyfr newydd All the Wide Border yn cael ei gyhoeddi y gwanwyn hwn, sydd yn archwiliad o ffin Cymru a Lloegr ar y map, yn hanes, ac yn ein pennau.

Cau