Dewislen
English
Cysylltwch

Enillwyr Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2022

 

Enillydd Prif Wobr Llyfr y Flwyddyn 2022 yn y Saesneg yw Nadifa Mohamed gyda’i nofel The Fortune Men

Enillodd Nadifa yn gyntaf Wobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies, yna Gwobr People’s Choice Wales Arts Review cyn mynd ymlaen i ennill y Brif Wobr a bachu tlws arbennig Llyfr y Flwyddyn a gwobr ariannol o £4,000. Darllenwch ragor am y cyhoeddiad yma.

Mae Mahmood Mattan yn gymeriad cyfarwydd ym Mae Teigr yng Nghaerdydd yn 1952. Mae’n dad, yn fentrwr, ac yn fân droseddwr. Mae’n nifer o bethau, ond nid yw’n llofrudd.  Pan caiff siopwr ei ladd yn greulon, nid yw Mahmood yn poeni gormod. Dim ond yn y cyfnod cyn yr achos llys, wrth i’w obaith bylu, y mae’n gwawrio ar Mahmood fod angen iddo frwydro am ei fywyd – yn erbyn cynllwyn, rhagfarn a chreulondeb – ac efallai nad yw’r gwir yn ddigon i’w achub.

***

Ganed Nadifa Mohamed yn Hargeisa, Somaliland, ym 1981 a symudodd i Brydain yn bedair oed. Enillodd ei nofel gyntaf, Black Mamba Boy, y Betty Trask Award; ac ymddangosodd ar restr fer y Guardian First Book Award, y John Llewellyn Rhys Prize, y Dylan Thomas Prize a’r PEN Open Book Award. Enillodd ei hail nofel, Orchard of Lost Souls, y Somerset Maugham Award a’r Prix Albert Bernard. Cafodd Nadifa Mohamed ei dewis ar gyfer y Granta Best of Young British Novelists yn 2013, ac mae’n Gymrawd i’r Royal Society of Literature. Cyrhaeddodd The Fortune Men y rhestr fer ar gyfer y Booker Prize 2021. Mae Nadifa Mohamed yn byw yn Llundain.

 

Enillwyr Categori

Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies

The Fortune Men - Nadifa Mohamed (Viking, Penguin Random House)

Mae Mahmood Mattan yn gymeriad cyfarwydd ym Mae Teigr yng Nghaerdydd yn 1952. Mae’n dad, yn fentrwr, ac yn fân droseddwr. Mae’n nifer o bethau, ond nid yw’n llofrudd.  Pan caiff siopwr ei ladd yn greulon, nid yw Mahmood yn poeni gormod. Dim ond yn y cyfnod cyn yr achos llys, wrth i’w obaith bylu, y mae’n gwawrio ar Mahmood fod angen iddo frwydro am ei fywyd – yn erbyn cynllwyn, rhagfarn a chreulondeb – ac efallai nad yw’r gwir yn ddigon i’w achub. 

***

Ganed Nadifa Mohamed yn Hargeisa, Somaliland, ym 1981 a symudodd i Brydain yn bedair oed. Enillodd ei nofel gyntaf, Black Mamba Boy, y Betty Trask Award; ac ymddangosodd ar restr fer y Guardian First Book Award, y John Llewellyn Rhys Prize, y Dylan Thomas Prize a’r PEN Open Book Award. Enillodd ei hail nofel, Orchard of Lost Souls, y Somerset Maugham Award a’r Prix Albert Bernard. Cafodd Nadifa Mohamed ei dewis ar gyfer y Granta Best of Young British Novelists yn 2013, ac mae’n Gymrawd i’r Royal Society of Literature. Cyrhaeddodd The Fortune Men y rhestr fer ar gyfer y Booker Prize 2021. Mae Nadifa Mohamed yn byw yn Llundain. 

Gwobr Farddoniaeth Saesneg@Prifysgol Bangor

A Voice Coming From Then - Jeremy Dixon (Arachne Press)

Mae ail gasgliad barddoniaeth Jeremy Dixon A Voice Coming From Then yn cychwyn o’i ymgais i gyflawni hunanladdiad yn ei arddegau ac yn ehangu i gwmpasu themâu fel bwlio, queerphobia, derbyniad, a chefnogaeth. Mae’n cynnwys teipograffeg, collage, hiwmor, hud, a disgo annisgwyl ac ymddangosiadau cyson gan y cythraul Fictoraidd, Spring-heeled Jack. 

***

Ganwyd Jeremy Dixon yn Essex ac mae bellach yn byw yng nghefn gwlad de Cymru ble mae’n creu llyfrau artist sy’n cyfuno barddoniaeth a ffotograffiaeth. Cyhoeddwyd ei bamffled, In Retail, gan Arachne Press yn 2019 ac mae cerddi eraill wedi ymddangos arlein ac mewn print yn Butcher’s Dog, Roundyhouse Magazine, Riptide Journal, Lighthouse Journal, Durable Goods a Really System, ymhlith eraill.  

Gwobr Ffeithiol Greadigol

The Journey is Home: Notes from a Life on the Edge - John Sam Jones (Parthian)

Hunangofiant clir a gafaelgar John Sam Jones am fyw bywyd ar y ffin, rhwng gwirionedd a chelwydd, rhwng gwrthodiad a derbyniad. O’i blentyndod ar arfordir Cymru i gyfnod cythryblus yn fyfyriwr is-raddedig ym mhrifysgol Aberystwyth, aeth ymlaen i ennill ysgoloriaeth yng Ngholeg Berkley yn San Francisco wrth i haint AIDS ddechrau gafael yn y gymdeithas. 

***

Ar ôl gweithio ym myd y caplaniaeth, addysg ac iechyd y cyhoedd am fwy na deng mlynedd ar hugain, mae John Sam Jones yn byw mewn hanner-ymddeoliad gyda’i ŵr a dau Collie Cymreig mewn pentref bychan yn yr Almaen, dafliad carreg o’r ffin â’r Iseldiroedd. Sylweddolodd John ei fod yn hoyw yn ei arddegau ar ddechrau’r 1970au a daeth i ddeall yn gyflym y byddai ei fywyd yn cael ei fyw bob amser ar y dibyn – rhwng gwirionedd a chelwydd, gwrthodiad a gwawd, hunan-amheuaeth a chwilio am dderbyniad. Yn y diwedd dewisodd greu a dilyn llwybr, trwy gymdeithas oedd yn aml yn homoffobig, gan sylwi nad oedd gonestrwydd yn cael ei werthfawrogi bob amser. Yn 2001 daeth yn gyd-gadeirydd cyntaf LGB Forum Cymru (a ailenwyd yn ddiweddarach yn Stonewall Cymru) a sefydlwyd i gynghori Llywodraeth Cymru ar faterion LGB. Astudiodd ysgrifennu creadigol yng Nghaer. Enillodd ei gasgliad o straeon byrion – Welsh Boys Too – wobr Honour Book yng Ngwobrau Llyfrau Stonewall yr American Library Association. Cyrhaeddodd ei ail gasgliad, Fishboys of Vernazza, restr fer Llyfr y Flwyddyn a ddilynwyd gan y nofelau, With Angels and Furies ac Crawling Through Thorns.  

Gwobr Plant & Phobl Ifanc

The Shark Caller - Zillah Bethell (Usborne)

Plymiwch dan donnau’r antur hudolus hon o gyfeillgarwch, maddeuant a dewrder, wedi’i gosod ar lannau Papua Gini Newydd, sy’n berffaith ar gyfer dilynwyr Katherine Rundell ac Eva Ibbotson. 

Mae Blue Wing yn ysu am ddod yn alwr siarc, ond yn lle hynny mae’n rhaid iddi fod yn gyfaill i’r newydd-ddyfodiad cynddeiriog Maple, sy’n cyrraedd ynys Blue Wing yn annisgwyl. Ar y dechrau, mae’r merched yn rhy ddig i rannu eu cyfrinachau a dod yn ffrindiau, ond pan fydd y llanw’n rhoi addewid o drysor, rhaid iddyn nhw deithio gyda’i gilydd i waelod y cefnfor i herio’r siarc mwyaf bygythiol ohonynt i gyd… 

***

Ganed Zillah Bethell yng nghysgod llosgfynydd Mount Lamington yn Papua Gini Newydd. Fe’i magwyd heb esgidiau, teganau na thechnoleg. O ganlyniad, treuliodd lawer o amser yn y môr yn nofio ac mewn canŵod. Dychwelodd teulu Zillah i’r Brydain pan oedd hi’n ddeg oed, ac mae hi bellach yn byw yn ne Cymru gyda’i theulu. Mae hi wrth ei bodd yn dychwelyd i lannau Papua Gini Newydd gyda The Shark Caller. 

Nôl i Gwobr Llyfr y Flwyddyn