Dewislen
English
Cysylltwch

Enillydd: Y Brif Wobr a Gwobr Ffuglen

Pridd, Llŷr Titus (Gwasg y Bwthyn) 

 

Yn y nofel fer Pridd ceir darlun cignoeth ond cyfareddol o fywyd Hen Ŵr yng nghefn gwlad Llŷn.
Drwy bedwar tymor y flwyddyn mae ddoe a heddiw, tristwch a llawenydd a holl flerwch byw yn llifo i’w gilydd.
Draw yn y caeau mae’r hen gerrig mawr yn llefaru eu doethineb.
Ac mae’r Llwynog yn llercian.  

***

Un o Fryn Mawr gerllaw Sarn ym Mhenrhyn Llŷn yw Llŷr Titus, sydd erbyn hyn yn byw yng Nghaernarfon. Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011, a’r Fedal Ddrama y flwyddyn olynol. Enillodd ei gyfrol gyntaf, nofel ffuglen wyddonol ar gyfer pobl ifainc, Gwalia, Wobr Tir na n-Og yn 2016. Mae Llŷr hefyd yn ddramodydd; llwyfannwyd ei ddrama Drych gan Frân Wen yn 2015 ac mae’n un o sylfaenwyr cwmni drama’r Tebot. Sefydlodd ar y cyd yn ogystal gylchgrawn Y Stamp a’r wasg Cyhoeddiadau’r Stamp. 

 

 

Enillydd: Y Wobr Farddoniaeth

Anwyddoldeb, Elinor Wyn Reynolds (Cyhoeddiadau Barddas)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfrol gyntaf o farddoniaeth Elinor Wyn Reynolds yw Anwyddoldeb (gair gwneud gan y bardd!). Yn y gyfrol hon, amlygir yn bennaf ei dawn i ddarlunio emosiwn mewn geiriau yn ei hysgrifennu creadigol, a hwnnw’n ysgrifennu cynnil ac awgrymog. Ond yn ogystal ag ysgrifennu dwys, mae ganddi’r ddawn unigryw hefyd i gyflwyno cerddi byrlymus, llawn egni a hiwmor. O’r herwydd, mae’r gyfrol hon yn gasgliad amlwg o’r ddau – y dwys a’r digrif. Mae nifer o’i cherddi’n seiliedig ar brofiadau personol, cymeriadau a chymdeithas a heriau’r byd mawr o’n cwmpas.  

Cerddi rhydd yw’r casgliad – rhai ohonynt yn gerddi byr ac eraill yn gerddi hirach, neu’n gadwyn o gerddi.  

 

***

Barddgolygydd ac awdur yw Elinor Wyn Reynolds. Wedi ei geni yn Y Rhondda, cafodd ei magu yng Nghaerfyrddin ac mae hi bellach wedi dychwelyd i fyw i Sir Gâr. Mae hi wedi rhoi sawl casgliad o gerddi a straeon at ei gilyddmegis Llyfr Bach Priodas (Gomer) a Llyfr Bach Nadolig (Barddas) ac yn 2019, cyhoeddodd ei nofel gyntafGwirionedd (Gwasg y Bwthyn).

 

 

Enillydd: Gwobr Ffuglen Greadigol

Cylchu Cymru, Gareth Evans-Jones (Y Lolfa)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dyma gyfrol sy’n mapio Cymru drwy lên a llun. 

Ceir yma straeon telynegol a thrawiadol ac a ysbrydolwyd gan olygfeydd penodol yn ystod taith yr awdur o amgylch Cymru – ar hyd ei harfordir a Chlawdd Offa. Mae yma geinder a dwyster yn ogystal â sylwgarwch nodedig. Mae hon yn gyfrol agos-atoch a fydd yn cydio’n dyner ynoch ac yn eich ysgogi i gymryd cam i’r mannau hynod sy’n sail i’r straeon a’r lluniau.

***

Daw Gareth Evans-Jones o Draeth Bychan ger Marian-glas, Ynys Môn. Cyhoeddodd ei nofel gyntafEira Llwyd,yn 2018, ac enillodd y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith (2019 a 2021). Mae’n ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor. Dyma’i gyfrol gyntaf o straeon meicro.

 

Enillydd: Gwobr Plant a Phobl Ifanc

Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor, Luned Aaron a Huw Aaron (Atebol)

 

“Dwi eisiau bod yn ddeinosor
Ond dwi fymryn yn rhy fach.
Dwi eisiau bod yn sombi hyll
Ond mae gen i groen reit iach.” 

Cyfrol chwareus, llawn dychymyg am dderbyn pwy wyt ti go iawn – rhywun rhyfeddol!

***

Mae Luned Aaron yn awdur ac artist gweledolDros y blynyddoedd diwethaf, mae wedi creu nifer o lyfrau i blant, gan gynnwys Mae’r Cyfan i TiMira a’r Dant a’i chyfres Byd Natur. Yn 2017, enillodd wobr Tir na n-Og am ei chyfrol gyntaf, ABC Byd Natur. Mae’n cyd-redeg gwasg Llyfrau Broga gyda’i gŵr, Huw Aaron.

Mae Huw Aaron yn gartwnydd ac yn awdur nifer o lyfrau poblogaidd i blant (yn cynnwys A am Anghenfil, Seren a Sbarc, Ble Mae BocGwil Garw a’r Carchar Crisial). Fo sefydlodd y comicMellten, ac mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i deulu.

 

 

Enillydd: Gwobr Barn y Bobl Golwg360

Sgen i’m Syniad – Snogs, Secs, Sens, Gwenllian Ellis (Y Lolfa)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Does gan Gwenllian Ellis ddim syniad am lot o bethau: sut i newid ffiws, sut i wneud meringue sy’n galed ar y tu allan ac yn fflyffi ar y tu fewn, sut mae’n teimlo i fynd ar wyliau efo cariad am y tro cyntaf. Weithiau does ganddi ddim syniad pam ei bod hi’n gwneud y pethau mae hi’n eu gwneud.  

Dyma lyfr sy’n archwilio ffrindiau, teulu, teimlo fel dy fod di’n cael dy adael ar ôl, snogio, secs, Spar Pwllheli, bwyd, hogia, nosweithiau meddw, bod yn ormod ond ddim yn ddigon ar yr un pryd, y gwersi ti’n eu dysgu ar y ffordd a’r bobl sy’n dy gario pan dwyt ti ddim hyd yn oed yn gwybod bo chdi angen cael dy gario.  

Gan dynnu ar brofiadau personol a dweud gwirioneddau am y gymdeithas rydan ni’n byw ynddi, dyma lyfr gonest am ffeindio sens pan sgen ti’m syniad.  

***

Yn wreiddiol o Bwllheli, mae Gwenllian Ellis bellach yn byw ac yn gweithio yn Llundain.   

***

Roedd Sgen i‘m Syniad – Snogs, Secs, Sens ar restr fer Gwobr Ffeithiol Greadigol. 

Nôl i Gwobr Llyfr y Flwyddyn