Enillydd: Y Brif Wobr a Gwobr Ffeithiol Greadigol
Sarn Helen, Tom Bullough (Granta Publications)
Cyfrol yn dilyn taith ffeithiol, swynol trwy Gymru ar hyd Sarn Helen, sef yr hen ffordd Rufeinig a redai o dde i ogledd Cymru. Wrth i Bullough droedio’r llwybr, mae’n archwilio hanes gwleidyddol, diwylliannol a chwedlonol y wlad fach hon sydd wedi’i rhannu gan iaith a daearyddiaeth. Wedi’u plethu i’r daith hon mae sgyrsiau gyda gwyddonwyr hinsawdd a hanes ymwneud Tom â mater brys yr argyfwng hinsawdd, gan ddangos i ni ei effaith debygol ar Gymru, sydd – ar raddfa llai – yn weledigaeth o’r hyn sydd o’n blaenau ni i gyd.
Dyma bortread myfyriol a swynol o Gymru gan un o lenorion ifanc gorau’r wlad, ynghyd ag arlunwaith gan Jackie Morris.
***
Magwyd Tom Bullough ar fferm fynydd yn Sir Faesyfed, Cymru, ac mae’n byw ym Bannau Brycheiniog gyda’i blant. Mae’n awdur pedair nofel – A (Sort Of Books), The Claude Glass (Sort Of Books), Konstantin (Penguin Books Ltd), ac Addlands (Granta). Sarn Helen yw ei waith ffeithiol greadigol cyntaf. Mae Tom yn actifydd hinsawdd ac yn diwtor llawrydd mewn ysgrifennu creadigol, ac mae’n cynnal cyrsiau rheolaidd ar hinsawdd ac ysgrifennu ar gyfer Coleg y Mynyddoedd Duon, Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, a Sefydliad Arvon.
Enillydd: Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies
The Unbroken Beauty of Rosalind Bone, Alex McCarthy (Doubleday)
Yn nythu’n glyd mewn cwm Cymreig ac wedi’i amgylchynu gan goed bedw arian a phîn, ymddengys pentref Cwmcysgod yn fan tawel a chysglyd. Ond yno mae tensiynau’n berwi, mae calonnau’n brifo ac mae gwirioneddau poenus yn bygwth dod i’r wyneb.
Yn y nofela dyner, slei, gywrain hon, mae cast unigryw o gymeriadau yn rhoi llais i’w fersiynau nhw o’r gwirionedd. Ond stori Rosalind Bone, am ei chryfder a’r cyfan y mae wedi’i ddioddef, sy’n codi uwchlaw’r gweddill, yn symudliw â gobaith a phosibilrwydd…
***
Ganed Alex McCarthy yng Nghaerdydd a chafodd ei magu yn ne Cymru. Yn gyn-fyfyriwr o London Contemporary Dance School, bu’n gweithio fel dawnsiwr a choreograffydd am nifer o flynyddoedd ar lwyfan, teledu a ffilm. Yn 2017, yn dilyn newid gyrfa a sawl blwyddyn o ysgrifennu, dechreuodd Alex ysgrifennu’r nofel hon. Mae ganddi ferch a llysferch, ac mae’n byw yng Nghymru.
Enillydd: Y Wobr Farddoniaeth
Cowboy, Kandace Siobhan Walker (Cheerio Publishing)
Casgliad o farddoniaeth sy’n symud rhwng y Gymru wledig, Llundain a de’r Unol Daleithiau, rhwng gofodau ar y rhyngrwyd, rhwng diniweidrwydd plentyndod a glasoed a’r trawsffurfiad anesboniadwy i anesmwythder oedolyn.
***
Mae Kandace Siobhan Walker yn awdur ac artist o dras Jamaican-Canada, Saltwater Geechee a Chymreig. Hi hefyd yw awdur Kaleido (Bad Betty Press). Yn 2021, derbyniodd Wobr Eric Gregory ac enillodd Gwobr Bardd y White Review. Yn 2019, enillodd Gwobr Stori Fer 4th Estate BAME y Guardian.
Enillydd: Gwobr Bute Energy Plant a Phobl Ifanc
Skrimsli, Nicola Davies (Firefly Press)
]
Skrimsli gan Nicola Davies yw’r ail antur ffantasi wedi’i gosod mewn byd lle gall yr hil ddynol ac anifeiliaid rannu eu meddyliau ar adegau. Mae’r stori yn olrhain bywyd cynnar Skrimsli, y môr deigr o gapten sydd, ynghyd â’i ffrindiau, Owl a Kal, yn gorfod dianc rhag crafangau perchennog syrcas gormesol, rhoi terfyn ar ryfel ac achub coedwig hynafol…
***
Mae Nicola Davies yn ysgrifennu llyfrau ffeithiol greadigol a ffuglen i blant am y byd naturiol a’n perthynas ag ef. Hefyd yn swolegydd, roedd Nicola yn un o gyflwynwyr gwreiddiol y rhaglen bywyd gwyllt i blant The Really Wild Show ar y BBC. Mae hi wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Llyfrau Branford Boase a Blue Peter. Mae Nicola yn byw yng ngorllewin Cymru.
Darlunnir Skrimsli gan Jackie Morris.
Enillydd: Gwobr People’s Choice Nation Cymru
In Orbit, Glyn Edwards (Seren)
Stori am golled a hiraeth mewn casgliad o gerddi a geir yn In Orbit. Wedi iddo dderbyn newyddion am farwolaeth athro hoff, mae’r prif gymeriad yn ymgodymu â cholli’r berthynas â’i athro, a feithrinwyd gan edmygedd dwfn a chariad.
***
Mae Glyn Edwards yn ymchwilydd PhD mewn ecofarddoniaeth ym Mhrifysgol Bangor. Cyhoeddwyd ei gasgliad barddoniaeth cyntaf, Vertebrae, gan Lonely Press. Mae’n golygu Modron, cyfnodolyn ar gyfer ysgrifennu amgylcheddol, a’r erthygl nodwedd Wild Words ar gyfer Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Mae’n gyn-enillydd ac yn ymddiriedolwr Gwobr Terry Hetherington ar gyfer llenorion ifanc Cymreig, ac mae’n gweithio fel athro yng Ngogledd Cymru.
Roedd In Orbit wedi cyrraedd Rhestr Fer y categori Barddoniaeth.