Dewislen
English
Cysylltwch

Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2025

Y Wobr Farddoniaeth

'Rhuo ei distawrwydd hi' - Meleri Davies (Cyhoeddiadau'r Stamp)

Tair cenhedlaeth o fenywod yr un teulu yw asgwrn cefn Rhuo ei distawrwydd hi, y gyfrol gyntaf o farddoniaeth gan Meleri Davies. Mae galar a gorfoledd bod yn fenyw, yn ferch ac yn fam yn cordeddu drwy’r cerddi, sydd weithiau’n gynnil-ymatalgar a thro arall yn ffrwydrol.  

***

Mae Meleri Davies yn hanu o Gwm Prysor ond bellach yn byw yn Llanllechid gyda’i gŵr a thri o blant. Mae’n ymgynghorydd datblygu cymunedol llawrydd sy’n angerddol am gymunedau a chynaladwyedd. 

'Pethau sy'n Digwydd' - Siôn Tomos Owen (Cyhoeddiadau Barddas)

Pethau sy’n Digwydd yw cyfrol gyntaf o farddoniaeth Siôn Tomos Owen yn y Gymraeg. Mae’r gyfrol hon yn ddathliad o Gymreictod ac yn wledd i’r llygaid. Mae Siôn yn defnyddio ei gerddi a’i gelf i bwytho elfennau o’i fywyd ynghyd fel tad yng Nghwm Rhondda, gwladgarwr angerddol ac fel rhywun sy’n dianc i’r coed pan fydd iechyd meddwl yn curo ar ddrws pryder.  

Mae Siôn yn ymgorffori dwyieithrwydd ac yn perchnogi ei statws fel bardd “Wenglish” ac fel rhiant sy’n magu ei blant mewn cartref dwyieithog. Mae’r gyfrol hon llawn cerddi teuluol a gwleidyddol ac wedi eu gwreiddio yng Nghymru – o Gapel Noddfa, Treorci i’r Gwaith Dur ym Mhort Talbot. Heb os, dyma fardd sy’n cyffroi, sy’n herio ac sy’n rhoi llais i’r werin bobl.   

***

Mae Siôn Tomos Owen yn gweithio fel person Llawrydd Creadigol. Mae wedi ysgrifennu llyfrau i blant, llyfrau i ddysgwyr a barddoniaeth. Mae’n gyflwynydd dwyieithog, yn artist trosleisio, murlunydd ac mae’n cynnal gweithdai creadigol trwy ei gwmni, CreaSion. Cyhoeddwyd ei gasgliad farddoniaeth Gymraeg cyntaf, Pethau sy’n Digwydd, gan Gyhoeddiadau Barddas yn 2024. Mae’n byw yn Nhreorci, Rhondda Fawr gyda’i wraig a’i dwy ferch. 

'O'r Rhuddin' - Sioned Erin Hughes (Y Lolfa)

Dyma gyfrol am garu, am uniaethu, ac am wella.

365 darn creadigol yn y flwyddyn 2023 – dyna’r nod a osododd Erin iddi hi ei hun am dri o’r gloch y bore, fore Calan y llynedd. I lynu wrth y nod, penderfynodd gyhoeddi’r darnau ar gyfrif Instagram, myfyrdod365, gyda’r gobaith y byddai’r cyhoeddusrwydd yn ei gyrru ymlaen.

Ond ychydig a wyddai bryd hynny y byddai’r darnau llenyddol yn cyrraedd cymaint o bobl – rhai nad oedd yn darllen rhyw lawer fel rheol, ac eraill a oedd gynt wedi teimlo’n rhy ddihyder i roi cynnig ar ysgrifennu’n greadigol, ond a gafodd eu hysbrydoli gan ddarnau Erin i roi cynnig arni. Ffurfiwyd cymuned oedd yn rhoi lle i ffaeleddau ac amherffeithrwydd, ac yn fwy na hynny, cymuned oedd yn dathlu hynny. Mae’r gyfrol hon yn cael ei chyflwyno i’r gymuned honno. 

***

Graddiodd Sioned Erin Hughes mewn Cymdeithaseg a Chymraeg o Brifysgol Bangor, cyn bwrw ati â chwrs Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol dan arweiniad Yr Athro Gerwyn Wiliams.
Dechreuodd Erin ysgrifennu’n greadigol o ddifrif wedi iddi ennill y Goron yn Eisteddfod yr Urdd, 2018. Aeth ymlaen i guradu a golygu’r gyfrol Byw yn fy Nghroen (Y Lolfa), a enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2020. Yn 2020 hefyd y cyhoeddodd ei llyfr cyntaf i blant, Y Goeden Hud (Gwasg Carreg Gwalch). Yn 2022, enillodd y Fedal Ryddiaith yng Ngheredigion am ei chyfrol gyntaf i oedolion, Rhyngom (Gwasg y Lolfa). Ei chyfrol ddiweddaraf yw O’r Rhuddin (Gwasg y Lolfa), sy’n cynnwys 365 darn creadigol, un ai’n gerddi neu’n llen meicro. Mae Erin bellach yn gydlynydd rhan amser i Barddas, ac yn treulio gweddill ei hamser yn gweithio’n llawrydd drwy ysgrifennu a golygu llyfrau, a chynnal gweithdai creadigol i blant a phobl o bob oed. 

Gwobr Ffeithiol Greadigol

'Oedolyn (ish!)' - Melanie Owen (Y Lolfa)

Mae Melanie Owen ar fin troi’n dri deg, ac wrth edrych yn ôl ar ei hugeiniau, mae hi wedi sylweddoli cymaint o gamgymeriadau wnaeth hi. O ddifri, mae ‘na lwyth ohonyn nhw. A dweud y gwir, mae’n eithaf trawiadol sut mae un unigolyn yn gallu gwneud cymaint o lanast. 

Ond fel mae sawl person doeth wedi’i ddweud (Socrates, Buddha, Huw Ffash), mae camgymeriadau yn gyfleoedd i ddysgu, felly dyma Melanie yn trawsnewid ei methiannau i wersi bywyd. 

O osgoi PDA amhriodol o flaen murlun Cofiwch Dryweryn, i beidio â dwyn brecwast Hugh Jackman reit o flaen ei wyneb, mae Oedolyn (ish!) yn gasgliad o wersi mae Melanie wedi eu dysgu fel nad oes rhaid i chi wneud.  

***

Mae Melanie Owen yn gomedïwr, cyflwynydd ac ysgrifennwr yn wreiddiol o Aberystwyth ond sydd nawr yn byw yng Nghaerdydd. Mae’n gobeithio bydd y llyfr yma’n gwerthu digon o gopïau i dalu am ei dibyniaeth ar groissants almwn a yoga pants Lulu Lemon. 

'Camu' - Iola Ynyr (Y Lolfa)

Cyfres o ysgrifau hunangofiannol sydd yn gwibio trwy atgofion ond yn rhoi lle i’r dychymyg blethu lliw hefyd. Mae yr ysgrifau yn cynnwys straeon o blentyndod Iola hyd at y presennol gan ddychmygu yr hyn sydd eto i ddod. Mae y gyfrol yn wynebu tristwch a heriau yn onest, ond hefo argyhoeddiad bod yna gariad yn llechu yn y tywyllwch. 

Perchnogi’r presennol drwy gofio’r gorffennol.  Dyma ymgais Iola Ynyr i berchnogi ei bywyd, i ollwng gafael ar ofn ac ymddiried ei bod hi’n saff. 

***

Mae Iola Ynyr yn awdures, dramodwraig, cyfarwyddwraig a hwylusydd gweithdai cyfranogol. Mae’n angerddol dros hyrwyddo llesiant unigolion a chymunedau trwy greadigrwydd wrth gysylltu gyda’r byd naturiol. Mae ei phrosiectau cyfranogol yn cynnwys Ar y Dibyn, prosiect gan Theatr Cymru ar gyfer unigolion sydd yn byw gyda dibyniaeth, Gwledda i Lenyddiaeth Cymru yn hyrwyddo llesaint wrth wynebu newid hinsawdd ynghyd â MWY, prosiect creadigol i ferched a’r rhai sydd yn uniaethu yn fenywaidd . Sefydlodd Ynys Blastig gyda grwp o artistiaid sy’n gweithredu trwy ‘nudges’ celfyddydol a Cylchdro gyda Sioned Medi, i leisio profiadau benywaidd o’r byd. Llwyfanwyd ‘Ffenast Siop’ gan Theatr Bara Caws yn ddiweddar, drama y cyd-ysgrifennodd Iola gyda Carys Gwilym. 

'Casglu Llwch' - Georgia Ruth (Y Lolfa)

Casgliad o fyfyrdodau a thraethodau personol. Yn sbardun i bob pennod mae byd natur. Ond nid llyfr natur mohono. Wrth iddi ystyried blodau, cerrig, esgyrn, adar, cawn ein tywys ar drywydd annisgwyl i grombil ei phen. Cawn gipolwg ar ei bywyd wrth iddi rannu atgofion a chanfyddiadau, a cheisio gwneud synnwyr o’r byd a’i bethau. 

***

Wedi ei geni yn Llanilltud Fawr fe symudodd gyda’i theulu i Aberystwyth.  Mae’n gerddor ac yn awdur.  Mae Georgia Ruth yn briod a chanddi dri o blant. 

Gwobr Ffuglen (Noddir gan HSJ Accountants)

'Nelan a Bo' - Angharad Price (Y Lolfa)

Gan agor yn 1799, dyma nofel sydd wedi’i gosod mewn cyfnod o newid cymdeithasol mawr. Mae’r tir yn cael ei gau. Mae’r chwyldro diwydiannol ar droed. Mae anghydffurfiaeth yn ennill ei lle. Pa ffawd sy’n aros gwerin cefn-gwlad? Ond mae hon hefyd yn stori gariad, a hwnnw’n mynd o’r crud i’r bedd, a’i liwiau cyfnewidiol yn creu patrymau blêr o ystyr ac o deimlad ar gynfas lom y rhostir. 

***

Mae Angharad Price yn byw yng Nghaernarfon ac yn darlithio yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Enillodd ei nofel ‘O! Tyn y Gorchudd’ y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002 a gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2003. 

'Madws' - Sioned Wyn Roberts (Gwasg y Bwthyn)

Nofel ffantasi hanesyddol wedi’i gosod yn 1752 adeg y newid o’r calendar Iwlaidd i’r calendr Gregoraidd. Mae’n adrodd hanes Martha, merch y potecari, a gludir i Annwn gan Madws (y cymeriad sy’n rheoli amser), a’i hanturiaethau rhyfeddol yno. Mae hon yn nofel glyfar, amlhaenog, egnïol a gwahanol, gyda digon o hiwmor ac o fynd ynddi. 

***

Merch o Bwllheli yw Sioned Wyn Roberts sydd wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Bu’n gynhyrchydd ac uwch-gynhyrchydd yn y BBC am flynyddoedd gan arbenigo mewn rhaglenni plant ac addysg. Gweithiodd yn S4C am ddegawd fel Comisiynydd Cynnwys Plant a Phobol Ifanc, yn gyfrifol am holl gynnwys Cyw a Stwnsh. Cyn ymuno â’r cyfryngau roedd Sioned yn athrawes hanes. Dechreuodd ysgrifennu yn 2019 ar ôl mynychu cwrs yn Nhŷ Newydd. Enillodd ei nofel hanes i bobol ifanc, Gwag y Nos, Wobr Tir na n-Og ac enwebiad Llyfr y Flwyddyn yn 2022. Cafodd Wyneb yn Wyneb, yr ail nofel yn y gyfres, enwebiad Tir na n-Og 2024 ac mae ei llyfr stori-a-llun Ni a Nhw ar restr fer Tir na n-Og 2025. Madws yw ei nofel gyntaf i oedolion.  

'V + Fo' - Gwenno Gwilym (Gwasg y Bwthyn)

Stori ramant unigryw sydd yn delio gyda’r cymhlethdodau sydd yn datblygu wrth i gwpl ifanc wahanu a thrio magu plant. Dyma ffuglen sydd yn torri tir newydd gan gynnig darlun realistig o fywyd teulu mewn cartref yn llawn rhyfeddodau ieithyddol. Nofel gan awdur newydd sydd yn cynnig cipolwg ar Gymru gyfoes heb ffilter! Anaddas i blant. 

***

Daw Gwenno Gwilym yn wreiddiol o Ddyffryn Conwy ond mae hi bellach wedi ymgartrefu yn Nyffryn Ogwen. Mae hi’n mwynhau ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg, ac yn aml mewn cyfuniad o’r ddwy iaith. Enillodd radd MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Bangor yn ddiweddar. Mae ei barddoniaeth wedi ei gyhoeddi yn Poetry Wales, Cyhoeddiadau’r Stamp a Culture Matters. V + Fo yw ei nofel gyntaf. 

Gwobr Plant a Phobl Ifanc (Cefnogir gan Cronfa Elw Park-Jones)

'Cymry. Balch. Ifanc.' - Golygwyd gan Llŷr Titus a Megan Angharad Hunter (Cyhoeddiadau Rily)

Blodeugerdd bersonol a gonest o straeon 13 o gyfranwyr LHDTCRA+  gyda gwybodaeth ffeithiol am Pride Cymru. Golygwyd gan yr awduron arobryn Llŷr Titus a Megan Angharad Hunter. Mae’r gyfrol yn anelu at hybu dealltwriaeth ac empathi tuag at y gymuned LHDTCRA+ drwy rannu profiadau personol. Arlunwaith trawiadol gan Mari Philips. 

***

Mae Llŷr Titus yn awdur o Lŷn. Enillodd ‘Pridd’, ei nofel gyntaf i oedolion Wobr Llyfr y Flwyddyn 2023, ac roedd ‘Anfadwaith’ ar restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024.  

Mae Megan Angharad Hunter yn awdur o Ddyffryn Nantlle. Enillodd ei nofel gyntaf, ‘tu ôl i’r awyr’, Wobr Llyfr yn Flwyddyn 2021, ac enillodd ei llyfr diweddaraf, ‘Astronot yn yr Atig’, wobr Tir na n-Og 2024.  

'Arwana Swtan a'r Sgodyn Od' - Angie Roberts a Dyfan Roberts (Gwasg y Bwthyn)

Dyma nofel fer a doniol dros ben gan awdur sy’n gwybod sut i ddiddori a phlesio plant. Mae pethau’n ddiflas iawn yng Nghaernarfon pan mae Arwana Swtan yn cyrraedd yno yng nghanol storm fawr i aros efo’i thaid, Taidi. Ond diolch i’r fôr-forwyn hynod honno, Swigi Dwgong, daw tro ar fyd i’r dre a’i phobol. Stori gyflym, glyfar a llawn hiwmor. 

***

Dechreuodd Angie Roberts ysgrifennu nofelau i blant pan oedd hi’n chwech oed. Yn ogystal â bod yn awdur mae Dyfan Roberts hefyd yn actor adnabyddus. Darluniwyd Arwana Swtan a’r Sgodyn Od gan ferch y ddau, Efa Dyfan. 

'Rhedyn' - Myrddin ap Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch)

Nofel am byllau glo ardal yr Wyddgrug yng nghyfnod Terfysg 1869, gan ddilyn merlyn a gaiff ei yrru o fynydd Hiraethog i weithio dan ddaear. 

Mae’r stori hon yn dechrau mewn storm eira ar Fynydd Hiraethog, rhwng dyffrynnoedd Conwy a Chlwyd. 

Dyma gynefin y merlod gwyllt ac mae perthynas yn tyfu rhwng llanc sy’n byw ar dyddyn ar y mynydd ac un o’r merlod hyn. 

Cyfnod ehangu’r pyllau glo yn sir y Fflint ydy hi, a chyn hir mae’r ddau yn canfod eu hunain dan ddaear… 

***

Mae Myrddin ap Dafydd yn fardd a chyhoeddwr o Lanrwst yn wreiddiol ac yn byw yn Llwyndyrys, Llŷn ers 25 mlynedd. Enillodd gadeiriau cenedlaethol ac ef oedd Bardd Plant cyntaf Cymru yn 2000. Sefydlodd Wasg Carreg Gwalch yn Llanrwst yn 1980 gan gyfrannu nifer o gyfrolau amrywiol i’w rhaglen. 

Nôl i Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2025