Dewislen
English
Cysylltwch

Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021

Ffuglen

Y Wal - Mari Emlyn (Y Lolfa)

Wrth i Siân geisio ysgrifennu, daw toriad i’r trydan. Yn y tywyllwch, mae’n hel meddyliau am Simon Kaltenbach, ei chymydog, sydd wedi adeiladu wal fawr hyll rhwng y ddau dŷ. Mae hyn yn ei harwain i gofio ei magwrfa a’r waliau fu’n gymaint rhwystr yn ei phlentyndod. Beth ddigwyddodd i’w brawd, Gareth? Pam nad oedd Siân yn hoffi Anti Rita?

Nofel amlhaenog gyda themâu cyfoes yn rhedeg drwyddi. Mae’r nofel yn dilyn fformat llyfr sydd yn helpu plant dysgu darllen. Wrth i’r nofel fynd rhagddi, mae ffont y geiriau yn mynd yn llai, sef arwydd o ddatblygiad llythrennedd plentyn. Yn Wal mae’n arwydd o’r prif gymeriad, Siân, yn dysgu mwy amdani hi ei hun a theflir goleuni ar y tywyllwch a chodir pontydd yn lle waliau. Mae Wal hefyd yn lyfr clawr caled a gwelir geiriau allweddol yn britho gwaelod y ddalen.

 

***

 

Ganwyd a magwyd Mari Emlyn yng Nghaerdydd. Yn dilyn cwblhau ei haddysg yn ysgolion Bryntaf a Llanhari aeth i Lundain a graddio yn y Celfyddydau Perfformio yng ngholeg Rose Bruford College of Speech and Drama. Ers hynny mae Mari wedi dilyn gyrfa fel actores, sgriptwraig, golygydd llyfrau ac awdur llyfrau yn ogystal â threulio pum mlynedd fel Cyfarwyddwr Artistig Galeri, Caernarfon. Mae Mari’n byw yn Y Felinheli ac mae hi’n fam i dri o feibion.

tu ôl i'r awyr - Megan Angharad Hunter (Y Lolfa)

Mae Anest a Deian yn y Chweched Dosbarth a phan maen nhw’n cwrdd, mae byd y ddau yn newid am byth.

Nofel ddoniol a thorcalonnus sy’n cynnig cipolwg ysgytwol ar fywyd oedolion ifanc na welwyd ei debyg mewn print yn y Gymraeg o’r blaen.

 

***

 

Mae Megan Angharad Hunter yn dod o Ddyffryn Nantlle ac mae’n astudio Cymraeg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn Y Stamp ac O’r Pedwar Gwynt, ac yn 2020 enillodd Ysgoloriaeth Awdur Newydd Llenyddiaeth Cymru. Tu ôl i’r awyr yw ei nofel gyntaf.

Twll Bach yn y Niwl - Llio Elain Maddocks (Y Lolfa)

“Dwi’n gwbod bod hi ‘di bod yn anodd i chdi yn styc adra tra dwi ‘di bod yn crwydro’r byd. Ond fedra i ddim jyst dod adra a byw mewn tŷ bach efo chdi yn Nolgarwyn, Lowri. Fedra i’m dy achub di o’r bywyd boring ‘ma.”

Mae Lowri mewn twll. Mae hi’n methu dod o hyd i waith, yn gorfod ymdopi â salwch ei mam, yn treulio pob noson yn yr un dafarn efo’r un ffrindiau, ac yn cael ei dympio. Buan y mae hi’n dysgu na ddaw neb i’w hachub o’r twll sy’n tyfu’n fwy bob dydd.

Mae’n rhaid iddi ei hachub ei hun.

 

***

 

Daw Llio Maddocks o Lan Ffestiniog ac mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae’n awdur, yn fardd, ac yn rêl milenial, sy’n ysgrifennu am y profiad o fod yn ferch yng Nghymru heddiw, ac yn cyhoeddi ei cherddi ar ei chyfrif Instagram @llioelain.

Barddoniaeth

Dal i Fod - Elin ap Hywel (Cyhoeddiadau Barddas)

‘Myfyrdodus, dwys, gwbl unigryw ei chrefft’ yw geiriau Bryan Martin Davies am y bardd Elin ap Hywel. Mae Elin yn fardd rhyngwladol ac mae ei cherddi wedi eu cyfieithu i sawl iaith ar hyd y blynyddoedd. Mae bron i ddeugain mlynedd ers iddi gyhoeddi ei chasgliad byr cyntaf o farddoniaeth yn y Gymraeg, Pethau Brau, yn 1982 (Y Lolfa) yn y gyfres Beirdd Answyddogol. Ers hynny, mae Elin wedi ymrwymo i farddoni ar bynciau amrywiol – y difrifol a’r gobeithiol, yr heulwen a’r tywyllwch. Dengys cynnyrch y gyfrol hon bod ei gallu i drin geiriau ac i gyfansoddi barddoniaeth rymus yn un arbennig iawn, a hynny er gwaethaf i’r cyflwr dementia ei heffeithio yn y blynyddoedd diwethaf. Y mesur rhydd yw cyfrwng cerddi’r gyfrol ac mae’r arddull yn gignoeth a’r geiriau’n bwerus ond hefyd yn delynegol: mae gonestrwydd yn ei llais a’r llais hwnnw’n sefyll ar ei ben ei hun fel bardd cyfoethog a didwyll iawn.

 

***

 

Mae Elin ap Hywel yn fardd, yn awdur ac yn gyfieithydd sy’n byw yn Llanilar ger Aberystwyth. Yn wreiddiol o Fae Colwyn, treuliodd ei phlentyndod yn Llundain cyn symud i Wrecsam a chael ei haddysgu yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth. Cyhoeddwyd cyfrol o gerddi ganddi rai blynyddoedd yn nôl, Pethau Brau, gan Y Lolfa (1982) ynghyd â chyfrol o gerddi dwyieithog ar y cyd â Grahame Davies, sef Ffiniau/Borders (Gomer, 2002) ac mae rhai o’i cherddi hefyd wedi ymddangos mewn cylchgronau a blodeugerddi dros y blynyddoedd. Mae hi hefyd wedi golygu dau gasgliad o straeon byrion yn Saesneg, sef Luminous and Forlorn (Honno, 1994), a Power (Honno, 1998). Yn ddiweddar, mae Elin wedi siarad yn agored iawn am ei phrofiad o fyw gyda dementia.

rhwng dwy lein drên - Llŷr Gwyn Lewis (Hunan gyhoeddedig)

Yn y man cyfarfod rhwng dwy linell drên, daw dau fywyd ynghyd yn yr ail gasgliad hwn o gerddi gan Llŷr Gwyn Lewis. Wedi’u cyhoeddi yn ystod cyfnod y clo, mae’r cerddi tawel rymus hyn yn myfyrio ar y cyflwr dynol wrth i’r awdur archwilio’r berthynas rhwng dyn ifanc a’i bartner wrth iddi esblygu a dyfnhau, ac wrth iddynt brofi genedigaeth eu mab a’r newidiadau dramatig a ddaw yn sgil hynny.

Wrth blethu cyfres o drosiadau estynedig ynghyd, mae’r bardd yn myfyrio ar feicrocosm y teulu ac ar ei etifeddiaeth deuluol a diwylliannol ef ei hun – yn ogystal â’r hyn a draddodir i’w fab. Mae crefft ei gyndeidiau yn y chwareli wrth drin y llechen â llaw ac offer syml bellach wedi’i disodli gan fyd yr allweddell a’r cyfrifiadur wrth drin geiriau.

Daw tadolaeth i’w ran yn yr un cyfnod â phrofedigaeth yn y teulu, a’r bardd drwy hynny’n ystyried dyfodol pan fydd raid i’w fab ddilyn ei lwybr ei hun ac wynebu byd heriol newydd heb ei rieni.

Wedi’u priodi’n berffaith â dyluniadau monocrom trawiadol Dafydd Owain, mae’r cerddi myfyrgar hyn, sy’n llawn cariad, doethineb, a gonestrwydd yn fwy na dim, yn cipio’ch anadl ar y darlleniad cyntaf ond yn datgelu’u dyfnder wrth ailymweld â hwy. Dyma gadarnhau statws y bardd fel un o awduron ifanc mwyaf nodedig Cymru.

(Disgrifiad gan Gyfnewidfa Lên Cymru)

 

***

 

Cyfrol ryddiaith ddiweddaraf Llŷr Gwyn Lewis yw ei gasgliad o straeon, Fabula (Y Lolfa, 2017), ac enillodd y Stôl Ryddiaith yng Ngŵyl Amgen yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2020. Mae hefyd yn fardd sy’n aelod o dîm Talwrn y Ffoaduriaid a chriw Bragdy’r Beirdd, a chyhoeddodd bamffled o gerddi, rhwng dwy lein drên, ym Mehefin 2020. Mae’n byw yng Nghaerdydd gyda Lowri a’u mab Math.

Mynd - Marged Tudur (Gwasg Carreg Gwalch)

Cyfrol i Dafydd Tudur, brawd Marged, yw Mynd. Mae yma golled a galar, ond cariad, yn fwy na dim byd arall, sy’n llinyn arian drwy’r cerddi hyn.

 

***

 

Daw Marged Tudur yn wreiddiol o Forfa Nefyn ond bellach mae’n byw yng Nghaernarfon. Wedi graddio mewn Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, astudiodd MA Ysgrifennu Creadigol a derbyniodd PhD ar ddarllen geiriau caneuon Cymraeg poblogaidd yr hanner can mlynedd diwethaf fel llenyddiaeth. Mae’n gweithio fel golygydd.

Plant a Phobl Ifanc

Ble Mae Boc: Ar Goll yn y Chwedlau - Huw Aaron (Y Lolfa)

Mae Boc, y ddraig fach ddiniwed, wedi mynd ar goll unwaith eto – y tro yma mewn bydoedd dychmygol Cymru. Ewch ati i chwilio amdani ym Myd y Mabinogi, Cantre’r Gwaelod, Teyrnas y Tylwyth Teg, Sw Angenfilod… a llawer mwy!

 

***

 

Mae Huw Aaron yn byw yng Nghaerdydd gyda’i deulu, ac yn gweithio fel dylunydd a chartwnydd. Mae Huw wedi darlunio nifer o lyfrau i blant a stribedi comig, gan gynnwys y cylchgrawn poblogaidd i blant Mellten. Mae Huw hefyd yn cyfrannu’n rheolaidd at Private Eye, The Oldie a The Spectator.

#Helynt - Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch)

Mae colli’r bws i’r ysgol yn gallu newid dy fywyd di …

Penderfyna Rachel fynd ar antur yn nhre’r Rhyl yn hytrach na mynd adref (wedi’r cyfan, mae’r beili wedi mynd â char ei thad), gan ganfod ei hun mewn clwb nos ar lan y môr. Yno, mae hi’n cyfarfod â Shane, dyn golygus, llawn dirgelwch sy’n gwybod rhywbeth am ei gorffennol … cyfrinach allai chwalu ei theulu. Ond mae Rachel yn awchu i gael y gwirionedd ganddo …

 

***

 

Magwyd Rebecca Roberts ger y môr ym Mhrestatyn, ac yna mae hi’n byw o hyd gyda’i gŵr Andy a’i phlant, Elizabeth a Thomas. Mae hi wedi gweithio fel athrawes, swyddog datblygu, cyfieithydd a gweinydd digrefydd. Hi oedd enillydd Ysgoloriaeth Emyr Feddyg 2017 yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mudferwi (Gwasg Carreg Gwalch) oedd ei nofel gyntaf, ac mae ei hail nofel, #Helynt yn rhan o gyfres i bobl ifanc. Mae ysgrifennu yn cymryd dipyn go lew o’i hamser, ond mae hi hefyd yn mwynhau gwrando ar gerddoriaeth roc, darllen a mynd i gerdded.

Y Castell Siwgr - Angharad Tomos (Gwasg Carreg Gwalch)

Dwy ferch ar ddau gyfandir

Un lord ag awch am elw

Stori ddirdynnol am gaethferch, am forwyn, am long a chastell ac am ddioddefaint y tu hwnt i ddychymyg.

Mae’r nofel yn ceisio mynd i’r afael â’r cysylltiad sydd gan Gymru â chaethwasiaeth.

 

***

 

Mae Angharad Tomos yn awdur llawrydd ers bron i 40 mlynedd, wedi ysgrifennu ac arlunio llyfrau i blant, pobl ifanc ac oedolion. Hi sy’n gyfrifol am y gyfres i blant, Cyfres Rwdlan a addaswyd i’r llwyfan a’r teledu.

Enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol efo Si Hei Lwli (1991) a Wele’n Gwawrio (1997), ac mae wedi ennill Gwobr Tir Na n-Og efo’i llyfrau plant a Gwobr Mary Vaughan Jones. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ysgrifennodd nofelau i bobl ifanc efo thema hanesyddol iddynt.

Mae yn awdur sawl drama, a llwyfannwyd Dyled Eileen efo’r Theatr Genedlaethol chwe mlynedd yn ôl. Roedd Cwmni Bara Caws ar fin mynd ar daith efo cyfieithiad ganddi o ‘Blackthorn / Draenen Ddu’ ond rhoddodd Covid-19 stop ar hynny. Mae yn ysgrifennu colofn i’r Herald Cymraeg ers 1993. Bu’n Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith rhwng 1982-84. Mae’n byw yn Nyffryn Nantlle efo’i gŵr Ben a’i mab, Hedydd.

Ffeithiol Greadigol

Ymbapuroli - Angharad Price (Gwasg Carreg Gwalch)

“Beth sy’n gyffredin rhwng Jan Morris ac Ann Griffiths, Fienna a Chaergybi, Ngũgĩ wa Thiong’o a Chapel Bethel, y Lôn Glai a phapur tŷ bach? Dim, efallai – dim ond fy mod wedi digwydd ysgrifennu amdanyn nhw.”

Dyma ddeuddeg o ysgrifau, oll wedi eu hysgrifennu’n gelfydd, sy’n mynd â ni i bob math o gyfeiriadau ‒ a chreu cysylltiadau annisgwyl yr un pryd.

 

***

 

Nofelydd ac academydd yw Angharad Price sy’n Athro yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Enillodd ei nofel O! Tyn y Gorchudd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002 a chyrhaeddodd Caersaint restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2011. Mae hefyd yn awdur astudiaethau academaidd, gan gynnwys Ffarwél i Freiburg, hanes gyrfa gynnar y bardd, T. H. Parry-Williams a enillodd Wobr Ellis Griffith Prifysgol Cymru. Ymbapuroli yw ei hail gyfrol o ysgrifau.

Darllen y Dychymyg: Creu Ystyron Newydd i Blant a Phlentyndod yn Llenyddiaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg - Siwan M. Rosser (Gwasg Prifysgol Cymru)

Erbyn hyn, mae llyfrau i blant ymhlith gwerthwyr gorau’r diwydiant cyhoeddi ac yn rhan ganolog o addysg pob plentyn yng Nghymru. Ond prin yw’r sylw beirniadol a gafodd hanes a datblygiad llenyddiaeth plant yn y Gymraeg. Mae’r gyfrol hon yn mynd i’r afael â’r tawelwch hwnnw ynghylch llenyddiaeth plant yn ein hanes cenedlaethol, gan ddadlau dros ei harwyddocâd cymdeithasol a diwylliannol. Trwy fanylu ar ddechreuadau llyfrau a chylchgronau i blant yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dengys y gyfrol hon fod llenyddiaeth plant yn hanfodol bwysig er mwyn deall sut mae syniadau ac agweddau yn cael eu trosglwyddo a’u trawsffurfio. Ymdrinnir yn bennaf ag agweddau tuag at blant a phlentyndod, gan olrhain y modd yr esblygodd y cysyniadau hynny o dan bwysau trawsnewidiadau economaidd a diwylliannol yr oes. Yng ngoleuni cysyniadau beirniadol Pierre Bourdieu a Michel de Certeau, archwilir y ffactorau fu’n cyflyru awduron i ysgrifennu ar gyfer plant ac yn ffurfio eu hagweddau tuag at ddarllenwyr ifainc, a thrwy hynny gosodir sylfaen ar gyfer astudio llenyddiaeth plant yn y Gymraeg.

 

***

 

Mae Siwan M. Rosser yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Ei phrif faes ymchwil yw Llenyddiaeth Gymraeg i blant a phobl ifainc.

O.M.: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards - Hazel Walford Davies (Gwasg Gomer)

Dyma’r cofiant llawn cyntaf i ŵr a ddaeth, yn ystod ei oes ei hun, yn eilun ei genedl. Ynddo ceir portread tra gwahanol o O.M. i’r fytholeg gyfarwydd a grëwyd wedi ei farwolaeth, a gwelir ef yma yn ieuenctid ei ddydd ac yn anterth ei nerth. Rhoddir sylw dyledus i’w yrfa ac i’w fenter fawr i drawsnewid diwylliant, llenyddiaeth ac addysg Cymru. Cyflwynir yn ogystal y dyn preifat a gaethiwyd gan rym ei obsesiynau a chymhlethdodau ei gymeriad, ac a brofodd ergydion chwerw fel priod a thad. Clywir llais O.M. drwy’r gyfrol, yn ogystal â lleisiau ei wraig, ei deulu a’i ffrindiau.

Mae’r cofiant pwysig hwn yn ffrwyth ymchwil drwyadl, a cheir ynddo wybodaeth gwbl newydd a darganfyddiadau annisgwyl. Fe’i cyhoeddwyd ar ganmlwyddiant marwolaeth Syr O.M. Edwards yn 1920.

 

***

 

Magwyd Hazel Walford Davies yng Nghwm Gwendraeth ac addysgwyd hi ym Mhrifysgolion Caerdydd a Rhydychen.  Bu’n Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn Athro ym Mhrifysgol De Cymru, a threuliodd gyfnodau fel Athro Ymweliadol mewn nifer o brifysgolion yn yr Unol Daleithiau.  Bu’n aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru, yn gadeirydd Pwyllgor Llenyddiaeth y Cyngor, ac yn gadeirydd Bwrdd Canolfan Datblygu Addysg Cyfrwng Cymraeg y Sector Addysg Uwch yng Nghymru sydd bellach wedi ei ymgorffori yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  Hi oedd cadeirydd cyntaf Bwrdd Ymgynghorol y DU o Gymdeithas Gogledd America ar gyfer Astudiaethau Diwylliant a Hanes Cymru.  Bu’n aelod o Fwrdd yr Academi Gymreig, o Gyngor a Bwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a Bwrdd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru.  Etholwyd hi yn Gymrawd yr Academi Gymreig, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a Chymdeithas Ddysgedig Cymru.

Rhestr Fer Saesneg

Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies

The Memory – Judith Barrow (Honno)

Mae heddiw wedi bod yn hir yn cyrraedd, wrth i Irene eistedd gyda’i mam yn aros am y foment pan fydd yn gwybod a yw hi’n gwneud y peth cywir o safbwynt Rose: y trysor o chwaer fach a anwyd â diffyg cromosomaidd, ac a fu farw 30 mlynedd yn ôl, yn wyth oed. Dros gyfnod o 24 awr, datgelir stori deuluol o gywilydd, cyfrinachedd a chariad.

 

***

 

Magwyd Judith Barrow mewn pentref ar gyrion y Penwynion yn Swydd Efrog, ond mae hi wedi byw yn Sir Benfro ers pedwar deg o flynyddoedd. Mae hi wedi ysgrifennu pum nofel, ac wedi cyhoeddi barddoniaeth a ffuglen fer. Mae ganddi raddau mewn llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol, ac yn ymddangos yn rheolaidd mewn gwyliau llenyddol. Mae hi’n diwtor ysgrifennu creadigol ar gyfer Cyngor Sir Benfro, ac yn cynnal gweithdai un-i-un preifat ar amrywiaeth o genres.

 

Salt – Catrin Kean (Gomer)

Lle brwnt a diflas yw Caerdydd yn 1878 i Ellen sy’n breuddwydio am ddianc o’i bywyd yn gwasanaethu. Mae’n syrthio mewn cariad gyda Samuel ac yn llwyddo i wireddu ei breuddwyd trwy redeg i ffwrdd gydag ef. Ond mae bywyd ar y môr yn beryglus a chreulon, a phan mae’n dychwelyd adref mae’n darganfod bod caledi bywyd y dosbarth gweithiol a hiliaeth yn dechrau gwenwyno eu bywydau.

 

***

 

Dyfarnwyd lle i Catrin Kean ar gynllun Awduron Wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli ar gyfer egin awduron yn 2016-2018. Mae ei straeon byrion wedi eu cyhoeddi yn y Riptide Journal, Antholegau  Bridge House a The Ghastling. Derbyniodd Ysgoloriaeth i Awduron Llenyddiaeth Cymru yn 2020 ar gyfer datblygu ei chyfrol o straeon byrion, Fogtime. Salt yw ei nofel gyntaf. Mae hi’n byw yng Nghaerdydd gyda’i phartner a dau o gŵn cefngrwm.

 

Wild Spinning Girls – Carol Lovekin (Honno)

Pan fo Ida yn colli ei rhieni a’i gwaith o fewn wythnosau i’w gilydd, mae’n penderfynu ymweld â’r tŷ a adawodd ei thad iddi. Ond mae Heather, y bu’r tŷ yn gartref iddi drwy’r amser, yn ei gadw yn greirfa i’w mam. Mae’r ddwy ferch yn brwydro yn erbyn amheuaeth ac ofn cyn sylweddoli na fydd eu calonnau briw yn gwella hyd nes eu bod yn taflu ymaith hualau’r cartref a’i hanes.

 

***

 

Mae gan Carol Lovekin galon Gymreig a gwaed Gwyddelig. Mae hi’n awdur ac yn ffeminist, sydd yn credu bod ffuglen yn fodd delfrydol i adrodd straeon menywod. Mae hi’n credu yn y posibilrwydd o ysbrydion. Dyma ei thrydedd nofel, a cyhoeddwyd Ghostbird a Snow Sisters hefyd gan wasg Honno.

Gwobr Farddoniaeth

Tiger Girl – Pascale Pettit (Bloodaxe Books)

Mae Tiger Girl gan Pascale Petit yn nodi symudiad o oedwigoedd glaw’r Amason a welir yn ei gwaith blaenorol at archwilio etifeddiaeth Indiaidd ei Mam-gu, a ffawna a fflora coedwigoedd yr is gyfandiroedd. Tiger Girl yw’r Fam-gu, gyda’i straeon am deigrod gwyllt, ond hi hefyd yw’r ysglyfaethwr mewn perygl a ddaeth Pascale ar eu traws yng Nghanolbarth India. Yn ei eco-gerddi afieithus a thyner, dathlir uchafbwynt yr hyn oedd fel arall yn fagwraeth lom trwy ddelweddau hudol o natur, ochr yn ochr â lluniau hunllefus o ddifodiant rhywogaethau a herwhela.

 

***

 

Dyma wythfed casgliad Pascale Petit, a’r ail gan Bloodaxe, ar ôl Mama Amazonica, enillydd Gwobr Ondaatje 2018 y Royal Society of Literature – y tro cyntaf i gyfrol barddoniaeth ennill y wobr am ffuglen, ffeithiol greadigol, neu farddoniaeth sydd yn ennyn enaid lle. Mae pedwar o’r casgliadau blaenorol wedi eu nodi ar restr fer Gwobr T.S. Eliot.

 

Come Down – Fiona Sampson (Corsair Poetry)

Cwestiynau am ddynoliaeth ac am safbwyntiau sydd yn ganolbwynt i gyfrol newydd Fiona Sampson, Come Down.

Trwy gydol y gyfrol, symuda’r cerddi rhwng safbwynt dynol a’r hyn sydd y tu hwnt. Dawnsia’r iaith dros ddeunydd y corff dynol a’r tirwedd. Er gwaethaf y newid radical mewn safbwyntiau, cadwa’r bardd lygad cyson ar y profiad dynol: y weithred o greu; a’r ffordd mae atgof plentyn a chwedlau teulu yn gwrthdaro â’r gorffennol.

Mae’r gyfrol yn cloi â cherdd hir, eponymaidd, sydd yn llifo’n grefftus trwy wahanol ffurfiau o atgofion.

 

***

 

Mae Fiona Sampson wedi cyhoeddi dau ddeg naw o lyfrau. Y diweddaraf oedd In Search of Mary Shelley (2018), ac mae hi wedi derbyn sawl gwobr genedlaethol a rhyngwladol am ei barddoniaeth. Mae hi’n Gymrawd y Royal Society of Literature, wedi derbyn MBE am ei gwasanaeth i lenyddiaeth, ac wedi cyhoeddi mewn tri deg saith o ieithoedd. Mae hi nawr yn byw mewn hen ffarm yn un o gymoedd y gororau.

 

Road Trip – Marvin Thompson (Peepal Tree Press)

Dyma gyfrol gan fardd â straeon diddanol a goleuedig, a chrefft fedrus mewn cyfrwng sydd yn draddodiadol ac yn gyfoes. Llwydda i gydlynu’r holl brofiadau o lefydd ac amser mewn ffyrdd ffres a dadlennol. Archwilia wendidau hil ac ymerodraeth drwy ddadorchuddio a dychmygu straeon am gyfnod ei Dad â Byddin Prydain. Yn ei gerddi, myfyria Marvin Thompson ar dirwedd ôl-ddiwydiannol Cymru, a cwestiyna os mai dyma’r lle i fagu ei blant. Ond, ni ddylid cymryd yn ganiataol fod y cerddi hyn yn ffeithiol gywir. Defnyddia soned, filanél wedi ei addasu, a dilyniannau sestina, er mwyn adrodd straeon hynod gyfoes. Mae ganddo lygad adfywiol, chwilfrydig a gonest sydd yn troi’r arferol yn arbennig ac unigryw, â gweledigaeth argyhoeddiadol o bosibilrwydd a dyrchafol.

 

***

 

Ganed Marvin Thompson yn Llundain i rieni Jamaicaidd, ac mae erbyn hyn yn byw ac yn gweithio yn ne Cymru. Ef yw enillydd cystadleuaeth National Poetry Competition y Poetry Society yn 2020, ac ef oedd y bardd o liw cyntaf i ennill y wobr ers 1981. Mae ei gyfrol farddoniaeth gyntaf, Road Trip (Peepal Tree Press, 2020) yn cael ei hargymell gan y Poetry Book Society, ac fe ddewisiwyd y gyfrol fel llyfr y flwyddyn 2020 gan bapur newydd The Telegraph.

Gwobr Plant a Phobl Ifanc

The Infinite  – Patience Agbabi (Canongate Books)

Mae’r Neidwyr, y plant hynny sydd wedi eu geni ar y 29ain o Chwefror, yn brin.

Yn fwy prin fyth, mae’r Neidwyr sydd â’r Anrheg – y gallu i gamu trwy amser.

Mae gan Elle Bíbi-Imbelé Ifíè Yr Anrheg, ond nid yw hi wedi ei ddefnyddio. Tan nawr.

Ar ei phen-blwydd yn ddeuddeg, teithia Elle a’i ffrind Big Ben i’r Time Squad Centre yn 2048 a derbynia Elle arwydd rhyfedd o’r dyfodol.

Mae’r Neidwyr eraill yn diflannu mewn amser – ni allai ymddiried ym mhawb.

Yn fuan, datblyga antur Elle yn fwy na ras trwy amser. Mae’n ras yn erbyn amser.

Mae’n rhaid iddi gwffio i achub y byd fel mae’n ei adnabod – cyn iddo beidio â bodoli…

 

***

 

Ganed Patience Agbabi yn Llundain yn 1965 i rieni o Nigeria. Treuliodd ei harddegau yn byw yng Ngogledd Cymru, ac mae hi erbyn hyn yn byw yng Nghaint gyda’i gŵr a’i phlant. Mae hi wedi bod yn cyfansoddi barddoniaeth ers ugain mlynedd, a The Infinite yw ei nofel gyntaf. Fel y prif gymeriad yn y llyfr, mae hi wrth ei bodd â gwibio, rhifau, a chawl pupur, ond, yn anffodus, nid yw ei neidio cystal.

 

Blood Moon – Lucy Cuthew (Walker Books)

Mae Blood Moon yn stori ergydiol, byw, a doniol am gariad cyntaf, rhywioldeb, a chyfeillgarwch benywaidd dwys – tra hefyd yn ymdrin â’r ecsbloetio parhaus sydd yn digwydd ar-lein, ac erchylltra mynd yn feirol. Mae’r gyfrol, sydd yn dychryn tra hefyd yn codi calon, yn trafod bywyd pobl ifanc yn eu harddegau heddiw yn uniongyrchol, ac yn pwysleisio pŵer cyfeillgarwch wrth geisio dod o hyd i’r goleuni, yn y tywyllwch.

 

***

 

Blood Moon yw nofel gyntaf Lucy Cuthew. Mae wedi cyhoeddi dros dri deg o lyfrau i blant, gan gynnwys llyfrau lluniau, llyfrau addysgiadol, a ffeithiol. Mae’n aml yn ymddangos ar y BBC i drafod llyfrau plant. Roedd yn olygydd llyfrau plant am dros ddeng mlynedd, yn gweithio’n llawrydd ac i gyhoeddwyr a graddiodd â Gradd Meistr mewn Ysgrifennu ar gyfer Pobl Ifanc yn 2019 o Brifysgol Bath Spa, â gradd nodedig o uchel. Mae’n mwynhau gwylio rhaglenni teledu sydd wedi eu creu gan fenywod doniol, gwrando ar bodlediadau gwyddoniaeth, mynyddoedd, a croissants. Mae hi’n byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr a’u hefeilliaid ifanc, ac ar hyn o bryd yn gweithio ar nofel mydr ac odl newydd ar effaith pornograffi ar-lein ar bobl ifanc.

 

Wilde – Eloise Williams (Firefly Press)

Mae Wilde yn ysu i ffitio mewn yn ei hysgol newydd. Ond mewn tywydd poeth ffyrnig, yn ymarferion drama’r ysgol sy’n adrodd chwedl leol am wrach o’r enw Gaeaf, mae’r ‘wrach’ yn dechrau gadael llythyrau melltith brawychus i’r disgyblion. A all Wilde ddarganfod pwy sy’n gwneud hyn cyn i bawb ei beio hi?

 

***

 

Magwyd Eloise Williams yn Llantrisant ac mae hi’n byw yng ngorllewin Cymru, yn agos iawn i’r môr. Wedi iddi astudio drama, aeth yn ei blaen i weithio fel actor am dros ddeg mlynedd cyn astudio Gradd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe. Fe’i gwnaed yn Children’s Laureate Wales, y cyntaf erioed, ym Medi 2019. Wilde yw ei phedwerydd llyfr a gyhoeddir gan Firefly Press.

Gwobr Ffeithiol Greadigol

The Amazingly Astonishing Story – Lucy Gannon (Seren Books)

Mae cyfrol o atgofion Lucy Gannon yn gofnod clasurol o ddwy flynedd ar bymtheg gyntaf merch o ddosbarth gweithiol sy’n gorchfygu sawl rhwystr wrth ganfod ei hun – marwolaeth ei mam, magwraeth gaeth o fewn y ffydd Gatholig, teulu milwrol, camdriniaeth a llysfam greulon. Daw achubiaeth drwy addysg a blynyddoedd y 1960au, yn cynnwys cyfarfyddiad byr â’r Beatles.

 

***

 

Wedi iddi adael y fyddin, daeth Lucy Gannon yn weithiwr cymdeithasol ac yna yn nyrs, cyn troi at ysgrifennu. Mae hi’n awdur 8 drama a 18 drama neu gyfres teledu, gan gynnwys The Best of Men, Soldier Soldier, Peak Practice, Bramwell, a Dad. Enillodd Wobr Richard Burton ar gyfer Dramodydd Newydd ac mae wedi bod yn awdur preswyl ar gyfer y Royal Shakespeare Company. Ar hyn o bryd mae hi’n datblygu sgriptiau ac yn mentora awduron ar gyfer BBC Cymru, ac yn ystyried cyflawni dwy gyfrol gofiannol arall. Mae hi’n byw ar yr arfordir ym mhen pellaf gorllewin Ceredigion.

 

Slatehead: The Ascent of Britain’s Slate Climbing Scene – Peter Goulding (New Welsh Review Ltd)

Cyfrol sy’n rhannol ffeithiol greadigol, yn rhannol gofiannol a dogfennol ym myd y campau, wedi’i osod yn ardal chwareli llechi Dinorwig yn ystod oes Thatcheriaeth a’r cyfnod presennol.

 

***

 

Mae Peter Goulding yn ddringwr o ogledd Lloegr. Mae wedi treulio’r mwyafrif o’i yrfa yn gweithio mewn tafarndai, ceginau a safleoedd adeiladu. Fe astudiodd ym Mhrifysgol East Anglia ac ar hyn o bryd, mae’n gweithio fel hyfforddwr yn Center Parcs.

 

Lady Charlotte Guest: The Exceptional Life of a Female Industrialist – Victoria Owens (Pen & Sword Books Ltd)

Pan briododd y Fonesig Charlotte Bertie y meistr haearn cyfoethog John Guest o Ddowlais yn 1833, roedd ei pherthnasau wedi’u brawychu. Serch hynny, er y gwahaniaeth mawr yn eu cefndir a’u hoedrannau, mwynhaodd y gŵr a’r wraig dros bedair mlynedd ar bymtheg hapus o briodas ynghyd â sawl anturiaeth.

 

***

 

Victoria Owens oedd enillydd cyntaf Gwobr Straeon Byrion Jane Austen yn 2009, ac mae hi’n awdur cyhoeddedig ffuglen a gwaith ffeithiol. . Cyhoeddwyd ei nofel Drawn to Perfection gan Hookline yn 2013; cyhoeddwyd ei astudiaeth James Brindley and the Duke of Bridgewater – Canal Visionaries gan Amberley Publishing yn 2015; ac Aqueducts and Viaducts of Britain ym mis Mawrth 2019.

Daeth Victoria Owens ar draws Lady Charlotte yn ei rôl fel Meistr Haearn Dowlais wrth astudio treftadaeth ddiwydiannol De Cymru gan fod ganddi ddiddordeb yn hanes peirianyddiaeth, ac roedd yn benderfynol o ysgrifennu amdani.

Nôl i Gwobr Llyfr y Flwyddyn