Dewislen
English
Cysylltwch

Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2023
Y Rhestr Fer Gymraeg

Y Wobr Farddoniaeth

Tosturi, Menna Elfyn (Cyhoeddiadau Barddas)

Aeth bron i 10 mlynedd heibio ers i Menna Elfyn gyhoeddi cyfrol o farddoniaeth Gymraeg yn unig. Dyma gyfle felly, i ehangu ar y math o farddoniaeth y mae Menna wedi ei chysylltu â hi yn y gorffennol: yn gerddi rhydd a phenrhydd gydag ambell gerdd gynganeddol. Yn gyfrol hefyd sy’n croesi’r ffiniau rhwng rhyddiaith a barddoniaeth, mae yma ymsonau, ac ambell wedd ddeialogaidd ei naws. 

Thema fawr sy’n clymu’r gwaith ynghyd yw menywod. Boed yn ferched sy’n flaenllaw heddiw neu’n ffigyrau hanesyddol, byddant oll yn cael eu clymu ynghyd yn y gyfrol hon, megis Catrin Glyndŵr, y Dywysoges Gwenllïan, Ann Griffiths, Elaine Morgan yn ogystal ag aelodau o’i theulu ei hun, sef cerddi galar am golli chwaer, ac ambell atgof am ei mam a’i mam-gu.  

Mae’r gyfrol hefyd yn cynnwys cerddi am fyd natur, am effaith y clo yn 2020 mewn cerddi telynegol eu naws yn aml gydag elfen o hiwmor ynghlwm wrthynt.  Ceir darluniau trawiadol gan yr artist o Landysul, Meinir Mathias sydd hefyd wedi darlunio’r clawr.  

 

***

 

Mae Menna Elfyn yn fardd, yn awdur ac yn ddramodydd Cymraeg sydd wedi cyhoeddi 14 o gyfrolau o farddoniaeth eisoes yn Gymraeg ac yn ddwyieithog. Ei chyfrol ddiweddaraf yw Bondo (2017) o wasg Bloodaxe ac enillodd ei chyfrol dwyieithog flaenorol Murmur (Bloodaxe, 2012) glod gyda chymeradwyaeth y Gymdeithas Lyfrau Barddoniaeth, a’r gyfrol gyntaf erioed i gael ei dewis yn Gymraeg/Saesneg. Cyfieithiwyd ei gwaith i 20 o ieithoedd gan gynnwys Tsienieg, Sbaeneg, Eidaleg, Lithiwaneg a Chatalaneg. Teithiodd i bedwar ban byd gyda’i barddoniaeth: i wyliau Rhyngwladol Barddoniaeth a chynnal preswylfeydd. Enillodd nifer o wobrau megis Llyfr y Flwyddyn 1990, a gwobr nodedig Ryngwladol Anima Instraza yn Sardinia am ei chyfraniad i farddoniaeth Ewrop. Fe’i gwnaed yn Fardd Plant Cymru yn 2002. Mae hi wedi cyhoeddi gyda Barddas o’r blaen yn 2018 pan gyhoeddwyd ei llên gofiant, Cennad. 

Y Lôn Hir Iawn, Osian Wyn Owen (Cyhoeddiadau Barddas)

Hwn yw’r nawfed casgliad o gerddi gan feirdd newydd yn y gyfres gyffrous, ‘Cyfres Tonfedd Heddiw. Dyma gasgliad ffres ac egnïol iawn gan fardd sydd wedi ennill ei blwyf fel bardd aeddfed, talentog, ac yn y casgliad arbennig hwn, mae’n mynd ati i gyfuno’r dwys a’r digrif gan ddefnyddio amrywiaeth o fesurau. Mae yma gerddi caeth, cerddi rhydd a cherddi ar fydr ac odl ar bynciau megis gwleidyddiaeth, yr amgylchedd, diddordebau a chynefin y bardd a chanu cymdeithasol cyffredinol a fydd sicr o apelio at bawb.  

 

***

 

Mae Osian Wyn Owen yn fardd cydnabyddedig sy’n prysur wneud enw iddo ef ei hun. Yn 2018, ef oedd Prifardd Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed, ac mae hefyd wedi cipio’r dwbl – y Gadair a’r Goron – yn Eisteddfod Ryng-golegol Llanbedr Pont Steffan yn 2018. Enillodd hefyd brif wobr farddoniaeth Eisteddfod-T yn 2020. Mae’n fardd caeth ac yn 2019 derbyniodd nawdd gan Barddas i fynychu cwrs ar y gynghanedd yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Ers hynny, bu’n perffeithio’r grefft wrth fynychu gwersi cynganeddol yng Nghaernarfon o dan arweiniad y Prifardd Rhys Iorwerth, ac erbyn hyn, mae’n athro barddol ei hun. Mae’n fardd cynhyrchiol iawn yn sgil cystadlu ar raglen Y Talwrn gyda thîm y Chwe Mil, ac yn cyfrannu cerddi yn gyson i wahanol gylchgronau. Yn wreiddiol o’r Felinheli, aeth Osian i’r Brifysgol ym Mangor i astudio’r Gymraeg ac mae bellach yn byw yng Nghaernarfon ac yn rhedeg ei gwmni Cysylltiadau Cyhoeddus ei hun o’r enw Ar Goedd. 

Anwyddoldeb, Elinor Wyn Reynolds (Cyhoeddiadau Barddas)

Cyfrol gyntaf o farddoniaeth Elinor Wyn Reynolds yw Anwyddoldeb (gair gwneud gan y bardd!). Yn y gyfrol hon, amlygir yn bennaf ei dawn i ddarlunio emosiwn mewn geiriau yn ei hysgrifennu creadigol, a hwnnw’n ysgrifennu cynnil ac awgrymog. Ond yn ogystal ag ysgrifennu dwys, mae ganddi’r ddawn unigryw hefyd i gyflwyno cerddi byrlymus, llawn egni a hiwmor. O’r herwydd, mae’r gyfrol hon yn gasgliad amlwg o’r ddau – y dwys a’r digri. Mae nifer o’i cherddi’n seiliedig ar brofiadau personol, cymeriadau a chymdeithas a heriau’r byd mawr o’n cwmpas.  

Cerddi rhydd yw’r casgliad – rhai ohonynt yn gerddi byr ac eraill yn gerddi hirach, neu’n gadwyn o gerddi.  

 

***

 

Bardd, golygydd ac awdur yw Elinor Wyn Reynolds. Wedi ei geni yn y Rhondda, cafodd ei magu yng Nghaerfyrddin ac mae hi bellach wedi dychwelyd i fyw i Sir Gâr. Mae hi wedi rhoi sawl casgliad o gerddi a straeon at ei gilydd, megis Llyfr Bach Priodas (Gomer) a Llyfr Bach Nadolig (Barddas) ac yn 2019, cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Gwirionedd (Gwasg y Bwthyn). 

Gwobr Ffeithiol Greadigol

Sgen I'm Syniad – Snogs, Secs, Sens, Gwenllian Ellis (Y Lolfa)

Does gan Gwenllian Ellis ddim syniad am lot o bethau: sut i newid ffiws, sut i wneud meringue sy’n galed ar y tu allan ac yn fflyffi ar y tu fewn, sut mae’n teimlo i fynd ar wyliau efo cariad am y tro cyntaf. Weithiau does ganddi ddim syniad pam ei bod hi’n gwneud y pethau mae hi’n eu gwneud.  

Dyma lyfr sy’n archwilio ffrindiau, teulu, teimlo fel dy fod di’n cael dy adael ar ôl, snogio, secs, Spar Pwllheli, bwyd, hogia, nosweithiau meddw, bod yn ormod ond ddim yn ddigon ar yr un pryd, y gwersi ti’n eu dysgu ar y ffordd a’r bobl sy’n dy gario pan dwyt ti ddim hyd yn oed yn gwybod bo chdi angen cael dy gario.  

Gan dynnu ar brofiadau personol a dweud gwirioneddau am y gymdeithas rydan ni’n byw ynddi, dyma lyfr gonest am ffeindio sens pan sgen ti’m syniad.  

 

***

 

Yn wreiddiol o Bwllheli, mae Gwenllian Ellis bellach yn byw ac yn gweithio yn Llundain.   

Cylchu Cymru, Gareth Evans-Jones (Y Lolfa)

Dyma gyfrol sy’n mapio Cymru drwy lên a llun.  

Ceir yma straeon telynegol a thrawiadol ac a ysbrydolwyd gan olygfeydd penodol yn ystod taith yr awdur o amgylch Cymru – ar hyd ei harfordir a Chlawdd Offa. Mae yma geinder a dwyster yn ogystal â sylwgarwch nodedig. Mae hon yn gyfrol agos-atoch a fydd yn cydio’n dyner ynoch ac yn eich ysgogi i gymryd cam i’r mannau hynod sy’n sail i’r straeon a’r lluniau. 

 

***

 

Daw Gareth Evans-Jones o Draeth Bychan ger Marian-glas, Ynys Môn. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Eira Llwyd, yn 2018, ac enillodd y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith (2019 a 2021). Mae’n ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor. Dyma’i gyfrol gyntaf o straeon meicro. 

Cerdded y Caeau, Rhian Parry (Y Lolfa)

Rhian Parry sy’n mynd â ni am dro drwy’r caeau i ddatgelu’r hanes sydd yn celu yn eu henwau.  

“Mae enw’n fwy na label. Yn wir gallwn gyffwrdd â ‘hen bethau anghofiedig dynol ryw’ mewn enw.” 

Mae’r gyfrol hardd hon yn llawn lluniau lliw a mapiau sy’n rhan o ymchwil doethuriaeth yr awdur. Dadansoddir enwau ffermydd a chaeau hen gwmwd Ardudwy gan ddangos beth maent yn ei ddadlennu am dirwedd a chymunedau hynafol. Ychwanegwyd rai enghreifftiau y tu hwnt i Ardudwy, sydd hefyd yn rhan o’n hetifeddiaeth genedlaethol.   

Mae enwau o bob math yn gwegian dan fygythiad newidiadau cymdeithasol, heb ddeddf i’w gwarchod. Mae’r llyfr hwn yn cynnig patrwm i ardaloedd eraill trwy ddangos ffordd newydd o edrych ar fân enwau, un sy’n gallu mynd â ni’n ôl i’r hen oesoedd. Cyfrol drawiadol i’w mwynhau gan bawb sydd â diddordeb mewn cymeriad a hunaniaeth bro. 

 

***

 

Magwyd Rhian Parry yng Nghaer ac yna ym Mhenmon. Yn dilyn gyrfa mewn addysg a’r gwasanaeth sifil hŷn, cychwynnodd ar ymchwil dan gyfarwyddyd yr Athro Gwyn Thomas ym Mangor. Ar ôl ennill ei doethuriaeth, defnyddiodd ei hymchwil i rannu ei gwybodaeth â’r cyhoedd. Lluniodd a hwylusodd brosiectau a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, yn gyntaf i Gymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd ac yna i Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru. Bu’n gyfrifol am yr ymchwil i ddwy gyfres o Caeau Cymru ar S4C ac yn gyd-gyflwynydd. Dychwelodd i Fôn yn ddiweddar. 

Gwobr Ffuglen

Pumed Gainc y Mabinogi, Peredur Glyn (Y Lolfa)

Yn y Llyfr Glas y cei di’r gwirionedd am Rhiannon, am Llŷr, am Efnisien – os wyt ti’n meiddio ei agor… 

Mae hen rymoedd sydd tu hwnt i ddealltwriaeth yn ymestyn eu crafangau atat o’r cysgodion. 

Fydd dy Gymru fach di fyth yr un fath eto. 

Dwyt ti erioed wedi darllen dim byd fel hwn o’r blaen. 

 

***

 

Daw Peredur Glyn o Ynys Môn. Datblygodd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth ganoloesol wrth astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt, ac mae bellach yn ddarlithydd mewn Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor. Dyma ei gyfrol ffuglen gyntaf. 

Rhyngom, Sioned Erin Hughes (Y Lolfa)

Mae rhyw ysfa anifeilaidd tu mewn i bob un ohonom, a’r ysfa honno’n peri i ni fod eisiau dianc rhag rhywbeth o hyd. Ond mae rhai clymau’n rhy dynn i geisio eu datod – perthynas rhwng mam a merch, rhwng dyn a’i famwlad, dynes a’i salwch – ac yn amlach na pheidio, mae’n amhosib torri’n rhydd. Dyma wyth stori sy’n dangos inni werth rhyddid, ac mai braint, nid hawl, yw profi bywyd heb ffiniau.   

 

***

 

Mae Sioned Erin Hughes yn 24 mlwydd oed ac yn byw ym Moduan, ger Pwllheli. Graddiodd mewn Cymdeithaseg a Chymraeg ym Mhrifysgol Bangor, cyn dilyn cwrs Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol. Daeth yn fuddugol am y Goron yn Eisteddfod yr Urdd 2018, ac yn ail am y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd 2022. Hi oedd golygydd a churadur y gyfrol Byw yn fy Nghroen, a enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2020. Ysgrifennodd lyfr i blant, Y Goeden Hud, ar ddechrau’r clo mawr cyntaf yn 2020. Dyma ei llyfr cyntaf i oedolion – llyfr a enillodd iddi’r Fedal Ryddiaith yng Ngheredigion eleni.   

Pridd, Llŷr Titus (Gwasg y Bwthyn)

Yn y nofel fer Pridd ceir darlun cignoeth ond cyfareddol o fywyd Hen Ŵr yng nghefn gwlad Llŷn. 

Drwy bedwar tymor y flwyddyn mae ddoe a heddiw, tristwch a llawenydd a holl flerwch byw yn llifo i’w gilydd. 

Draw yn y caeau mae’r hen gerrig mawr yn llefaru eu doethineb. 

Ac mae’r Llwynog yn llercian. 

 

***

 

Un o Fryn Mawr gerllaw Sarn ym Mhenrhyn Llŷn yw Llŷr Titus, sydd erbyn hyn yn byw yng Nghaernarfon. Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011, a’r Fedal Ddrama y flwyddyn olynol. Enillodd ei gyfrol gyntaf, nofel ffuglen wyddonol ar gyfer pobl ifainc, Gwalia, wobr Tir na n-Og yn 2016. Mae Llŷr hefyd yn ddramodydd; llwyfannwyd ei ddrama Drych gan gwmni’r Frân Wen yn 2015 ac mae’n un o sylfaenwyr Cwmni drama’r Tebot. Sefydlodd ar y cyd yn ogystal gylchgrawn Y Stamp a’r wasg Cyhoeddiadau’r Stamp. 

Gwobr Plant a Phobl Ifanc 

Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor, Luned Aaron a Huw Aaron (Atebol) 

“Dwi eisiau bod yn ddeinosor
Ond dwi fymryn yn rhy fach.
Dwi eisiau bod yn sombi hyll
Ond mae gen i groen reit iach.” 

Cyfrol chwareus, llawn dychymyg am dderbyn pwy wyt ti go iawn – rhywun rhyfeddol! 

 

***

 

Mae Luned Aaron yn awdur ac artist gweledol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae wedi creu nifer o lyfrau i blant, gan gynnwys Mae’r Cyfan i Ti, Mira a’r Dant a’i chyfres Byd Natur. Yn 2017, enillodd wobr Tir na n-Og am ei chyfrol gyntaf, ABC Byd Natur. Mae’n cyd-redeg gwasg Llyfrau Broga gyda’i gŵr, Huw Aaron.

Mae Huw Aaron yn gartwnydd ac yn awdur nifer o lyfrau poblogaidd i blant (yn cynnwys A am Anghenfil, Seren a Sbarc, Ble Mae Boc? a Gwil Garw a’r Carchar Crisial). Fo sefydlodd y comic Mellten, ac mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i deulu. 

Byd Bach Dy Hun, Sioned Medi Evans (Y Lolfa)

Beth sy’n arbennig am dy fyd bach di? Pa fath o greaduriaid a rhyfeddodau sydd yno? Tyrd i weld byd gyda blodau, coed a môr ac anifeiliaid o bob math a phobol sydd yn barod i estyn llaw a chydweithio i gynnal a chadw ein byd bach ni. Tyrd i weld beth sy’n debyg ac yn wahanol ym myd bach pawb! 

Llyfr llun a stori gan awdur/darlunydd sy’n feistr ar ei gwaith ac yn codi cwestiynau pwysig ym myd plant. 

 

***

 

Yn wreiddiol o Ben Llŷn mae Sioned Medi Evans bellach yn byw ac yn gweithio fel dylunydd llawrydd yng Nghaerdydd. Mae’n teimlo’n angerddol am ddarlunio, adrodd stori a phortreadu bywyd bob dydd yn ei gwaith, gan geisio ychwanegu ychydig o liw a phositifrwydd i’r byd. 

Powell, Manon Steffan Ros (Y Lolfa)

Mae bod yn Powell yn fraint yn Nhrefair, ac mae Elis Powell, 15 oed, yn falch o’i gyndaid a adeiladodd gymaint o’r dref. Ond pan aiff Elis a’i daid ar drip i’r Unol Daleithiau i hel achau, maen nhw’n dod i wybod llawer mwy am hanes eu teulu, ac mae bod yn Powell yn sydyn yn teimlo fel baich… 

Nofel am deulu, cyfeillgarwch a phwysigrwydd cydnabod y ffeithiau i gyd.  

 

***

 

Mae Manon Steffan Ros yn awdur ac yn ddramodydd sydd wedi ennill nifer o wobrau am ei llyfrau i blant a phobl ifanc. Llyfr Glas Nebo oedd Llyfr y Flwyddyn 2019 ac enillodd bum Gwobr Tir na n-Og, am Trwy’r Tonnau, Prism, Pluen, Fi a Joe Allen a Pobol Drws Nesaf. Mae’n dod o Riwlas, Dyffryn Ogwen yn wreiddiol, ond mae bellach yn byw yn Nhywyn.  

Y Rhestr Fer Saesneg

Y Wobr Farddoniaeth 

As If To Sing – Paul Henry (Seren, Poetry Wales Press Ltd) 

Mae pŵer cân i gynnal yr ysbryd dynol yn atseinio trwy As If To Sing. Mae ogof gaeth yn cropian yn ôl trwy ganeuon i’r môr a bydd milwyr Cymreig yn canu eu calonnau ar drothwy brwydr. 

Gan gymylu ddoe a heddiw, mae ‘cân ffagl’ o gerddoriaeth a golau yn dwysau yn ‘The Boys in the Branches’, dilyniant teimladwy i feibion y bardd lle mae tri bachgen yn dringo coeden i fod yn ddyn. Mae diweddeb gloi’r casgliad yn cynnwys y gerdd hir ‘The Key to Penllain’. Wedi’i gosod yn haf 1969, mae ei freuddwyd apocalyptaidd yn arwain at chwilio am allwedd a allai achub y blaned. Yn gyfoethog yn y delyneg gerddorol a edmygir gan ddarllenwyr a chyd-feirdd, mae As If To Sing yn ychwanegiad hanfodol at gorff cymhellol y bardd hwn. 

 

***

 

Ganed Paul Henry yn Aberystwyth a daeth at farddoniaeth trwy gyfansoddi caneuon. Ers derbyn Gwobr E. C. Gregory mae wedi cyhoeddi wyth casgliad gyda Seren, gan gynnwys Boy Running a The Brittle Sea: New & Selected Poems. Mae ei waith wedi ymddangos mewn sawl blodeugerdd a’i gyfieithu’n eang. Mae Paul wedi perfformio ei gerddi a’i ganeuon mewn gwyliau yn Ewrop, Asia ac UDA. Ef yw golygydd gwadd Poetry Wales a chyflwynodd raglenni ar gyfer BBC Radio Wales, Radio 3 a Radio 4. 

 

The language of bees – Rae Howells (Parthian Books)

Sut gallwn ni gael gobaith mewn byd sy’n marw? Gyda llygad fforensig, mae Howells yn mynd â ni ar daith trwy fywydau dynol cyffredin a’r byd naturiol rhyfeddol rydyn ni mewn perygl o’i golli. Mae’r gardwenynen yn cario stori nythfa, rhywogaeth, ac, yn y pen draw, tynged pob bywyd ar y ddaear. Mae’r fôr-forwyn yn gweu stori brydferth bron am gamesgoriad trasig. Mae’r bioden yn ysgrifennu llythyrau hiraethus at ei chariad coll. Mae glas y dorlan wych yn gwibio trwy feddwl menyw â dementia. Trwy bob portread manwl, rydyn ni’n dechrau deall rhywbeth arbennig, iaith gwenyn, a darganfod drosom ein hunain pa mor agos ydyn ni i gyd a’r hyn y mae byd natur yn ceisio’i ddweud wrthym. 

 

***

 

Bardd, newyddiadurwr, academydd a ffermwr lafant o Abertawe yw Rae Howells. Mae hi wedi ennill cystadlaethau barddoniaeth Rhyngwladol Cymru a Rialto Nature and Place. Mae ei gwaith wedi ymddangos mewn ystod eang o gyfnodolion gan gynnwys Magma, The Rialto, Poetry Wales, New Welsh Review, Acumen, Envoi, Poetry Ireland, Black Bough, Marble a The Cardiff Review, yn ogystal ag yn y blodeugerdd Poetry Business, The Result is What You See Today a Blodeugerdd Arachne Press A470. Cyhoeddwyd ei phamffled Bloom and Bones, a gyd-sgwennwyd gyda Jean James, gan Hedgehog Poetry Press yn 2021. The language of beesyw ei chasgliad llawn cyntaf. 

 

A Marginal Sea – Zoë Skoulding (Carcanet Press) 

Mae A Marginal Sea wedi ei ysgrifennu o olygfa Ynys Môn, sydd ar gyrion Cymru ac mewn môr ymylol o Gefnfor yr Iwerydd – dychmygir yr ynys yma fel safle o gysylltiad archeolegol â lleoedd a hanesion eraill, lle mae gofodau breuddwyd a thechnoleg ddigidol wedi’u cydblethu â’r bob dydd. Mae A Marginal Sea yn ddyfeisgar, yn gyffrous yn ei seinweddau ac yn tynnu’n sylw at arallrwydd, mewn iaith, ac yn y byd anifeiliaid a natur. 

 

***

 

Mae Zoë Skoulding yn Athro Barddoniaeth ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor. Mae ei chasgliadau o farddoniaeth (oll gan Seren Books) yn cynnwys The Mirror Trade (2004); Remains of a Future City (2008), ar restr fer Llyfr y Flwyddyn; The Museum of Disappearing Sounds (2013), ar restr fer Gwobr Ted Hughes am Waith Newydd mewn Barddoniaeth; a Footnotes to Water (2019), a oedd yn Argymhelliad gan Gymdeithas Llyfrau Barddoniaeth ac a enillodd Wobr Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2020. Yn 2020 cyhoeddodd hefyd The Celestial Set-Up (Oystercatcher) ac A Revolutionary Calendar (Shearsman). Mae ei gwaith beirniadol yn cynnwys dau fonograff, Contemporary Women’s Poetry and Urban Space: Experimental Cities (Palgrave Macmillan, 2013), a Poetry & Listening: The Noise of Lyric (Gwasg Prifysgol Lerpwl, 2020). Derbyniodd Wobr Cholmondeley gan Gymdeithas yr Awduron yn 2018 am ei chorff o waith barddoniaeth ac mae’n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Gwobr Ffeithiol Greadigol 

And… a memoir of my mother  – Isabel Adonis (Black Bee Books) 

Ganed Isabel Adonis yn Llundain ym 1951, i’r Gymraes Catherine Alice Hughes a’r artist enwog o Guyana, Denis Williams, y mae ei gwaith wedi’i arddangos yn Oriel y Tate. 

Wedi’i magu yn Llundain, Swdan a Chymru, gyda thad pell a mam ynysig, mae Adonis yn archwilio natur hunaniaeth, diwylliant ac awydd fel y’i lluniwyd gan argraffiadau ei phlentyndod o’i rhieni. 

Ar yr un pryd yn bersonol a chyffredinol, ac yn cael ei hadrodd yn rhythmau stori lafar, mae’r llyfr hynod gerddorol ac aml-haenog hwn yn archwilio natur ymrannol lliw, dieithrwch, effaith gwladychiaeth ar ddiwylliant cymdeithasol a’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn ‘gymysg’. 

Darlleniad hanfodol sy’n portreadu agwedd bwysig ar wead cymdeithasol diwylliannol amrywiol Cymru a’r byd ehangach. 

 

***

 

Mae Isabel Adonis yn fam, yn awdur ac yn artist. Cafodd ei geni a’i magu yn Llundain nes ei bod yn chwech oed, pan ddechreuodd ei thad weithio yn Khartoum yn Swdan. Bu’n byw ac yn mynd i’r ysgol yno nes ei bod yn naw oed pan brynodd ei rhieni dŷ yng Nghymru. Am y naw mlynedd nesaf bu Isabel yn byw ac yn mynd i’r ysgol yng Nghymru ac yn teithio i Affrica yn ystod y gwyliau. 

Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi yn y New Wales Review, Urban Welsh, Just So You Know a’r Journal of Caribbean Literature. Hi oedd enillydd y cylchgrawn Best Article 2002 yn y cylchgrawn Impact ac mae ganddi bedwar o blant sydd wedi tyfu i fyny. 

 

The Sound of Being Human: How Music Shapes Our Lives  – Jude Rogers (White Rabbit) 

Mae llyfr cyntaf Jude Rogers yn mynd â’r darllenydd o’i phlentyndod o gwmpas Aber Llwchwr i fod yn fam yng nghanol ei hoes yn Sir Fynwy. 

Llyfr am sut mae cerddoriaeth yn siapio pob cam emosiynol o’n bywydau gan un o’r awduron pop benywaidd mwyaf amlwg yn y DU heddiw. 

 

***

 

Dechreuodd y newyddiadurwr a’r awdur celfyddydol a aned yn Abertawe, Jude Rogers, ei gyrfa newyddiaduraeth yn y Llanelli Star yn ei harddegau. Mae wedi ysgrifennu am y celfyddydau a diwylliant ar gyfer The Guardian, Observer, Sunday Times, New Statesman a llawer o gylchgronau merched ers canol ei 20au, a gwneud llawer o raglenni dogfen clodwiw ar gyfer BBC Radio 4, gan gynnwys cyfres 2021 ‘A Life in Music’. Mae hi bellach yn byw ger y Fenni. 

 

Original Sins – Matt Rowland-Hill (Chatto & Windus)

Magwyd Matt Rowland Hill yn fab i weinidog mewn eglwys Gristnogol efengylaidd yn ne Cymru ac yna de-ddwyrain Lloegr. Roedd yn blentyndod llawn gwrthdaro teuluol chwerw ac ofn damnedigaeth.

Ar ôl colli ffydd ddinistriol yn ei arddegau hwyr, dechreuodd Matt chwilio am iachawdwriaeth mewn mannau eraill, gan droi at lyfrau cyn datblygu perthynas gynyddol ag alcohol a chyffuriau. Daeth yn gaeth i gyffuriau yn ei ugeiniau cynnar, gan ddioddef cyfnod tywyll iawn am dros ddeg mlynedd.

Yn ddi-hid o onest, ac mor ddoniol ag y mae’n ddifrifol, mae Original Sins yn gofiant rhyfeddol o ffydd, teulu, cywilydd a chaethiwed. Ond yn y pen draw mae’n ymwneud â chwilio am atebion i gwestiynau mawr bywyd yn yr holl leoedd anghywir, sut y gall gobaith gyrraedd y ffurfiau mwyaf annisgwyl, a sut y gallai’r straeon a adroddwn ein helpu i oroesi.

 

***

 

Ganed Matt Rowland Hill ym 1984 ym Mhontypridd, a chafodd ei fagu yng Nghymru a Lloegr. Mae bellach yn byw yn Llundain, ac Original Sins yw ei lyfr cyntaf. 

Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies

This Is Not Who We Are – Sophie Buchaillard (Seren, Poetry Wales Press Ltd) 

1994, ac mae Iris a Victoria yn ben-ffrindiau. Mae Iris yn ysgrifennu am ei bywyd gyda’i theulu ym Mharis. Mae Victoria mewn gwersyll ffoaduriaid yn Goma ar ôl ffoi rhag yr hil-laddiad yn Rwanda. Un diwrnod daw llythyrau Victoria i ben, a dywedir wrth Iris ei bod wedi cael ei symud.

Ugain mlynedd yn ddiweddarach mae Iris, mam newydd, yn newyddiadurwr yn Llundain adaw pethau i’r amlwg sy’n peri iddi gwestiynu ei gorffennol ei hun.

Wrth i bwysau cyfrinachau teuluol hirsefydlog gynyddu, a fydd y ddwy fenyw hyn byth yn dod o hyd i’w gilydd?

 

***

 

Ganed Sophie Buchaillard yn Paris, ac mae hi wedi teithio Ewrop, Asia, yr Unol Daleithiau a’r Affrig, cyn setlo yn Ne Cymru dau ddegawd yn ôl.

Mae hi’n sgwennu ffuglen gyfoes sydd wedi ei ysbrydoli gan ei theithio a’i symudiadau. Cyfrannodd at An Open Door: New Travel Writing for A Precarious Century (Parthian, 2022), casgliad o ysgrifennu teithio a olygwyd gan Steven Lovatt. Mae ei straeon byrion a’i thraethodau wedi ymddangos mewn cylchgronau llenyddol amrywiol a phapurau Newydd. Dyma ei nofel gyntaf.

 

Fannie – Rebecca F. John (Honno Ltd.)

Ail-ddychmygiad ffeministaidd o stori Fantine yn Les Miserables. 

Montreuil-sur-Mer, 1815. Mae bywyd yn galed i Fannie yn gweithio yn y ffatri, gydag atgofion melys yn unig am ei ‘boneddig’ a’i merch i’w chynnal. Ond pan ddatgelir ei bod yn fam ddi-briod a’i diswyddo, mae’n cael ei gorfodi i fentro mwy a mwy i ennill arian i’w phlentyn. Beth all hi ei werthu? Pwy all hi ymddiried ynddo? A oes ganddi unrhyw ddihangfa? Stori am anobaith, ond hefyd am gariad a nerth cynyddol gobaith. 

 

***

 

Ganed Rebecca F. John yn Llanelli. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf, The Haunting of Henry Twist (Serpent’s Tail, 2017) restr fer Gwobr Nofel Gyntaf Costa. Cyrhaeddodd ei stori ‘The Glove Maker’s Numbers’ restr fer Gwobr Stori Fer EFG 2015 y Sunday Times. Enillodd Wobr Lleisiau Newydd PEN Rhyngwladol 2015 a bu’n gyfranogwr Prydeinig ym mhrosiect Scritture Giovani 2016. Yn 2017, roedd hi ar restr ‘The Hay 30’ Gŵyl y Gelli. Mae ei straeon wedi cael eu darlledu ar BBC Radio 4 a’u cyhoeddi yn Clown Shoes (Parthian, 2015). Cyhoeddwyd ei nofel ffantasi i blant The Shadow Order gan Firefly Press yn 2022. Mae hi’n byw yn Abertawe. 

 

Drift – Caryl Lewis (Doubleday, argraffnod o Transworld, Penguin Random House) 

Mae Nefyn wedi bod yn enigma erioed, hyd yn oed i’w brawd Joseph y mae’n byw gydag ef mewn bwthyn bach uwchben cildraeth blodeuog. Gwneuthurwr mapiau o Syria yw Hamza, sydd wedi’i garcharu mewn canolfan filwrol ychydig filltiroedd i fyny’r arfordir. Bydd storm ffyrnig yn dod â’r ddau enaid coll hyn at ei gilydd – ond cyn bo hir bydd lluoedd eraill yn ceisio eu rhwygo’n ddarnau…
Wrth symud rhwng arfordir gwyllt Cymru a Syria sydd wedi’i rhwygo gan ryfel, mae Drift yn stori garu wahanol, yn stori hypnotig am hunaniaeth goll, chwilio am gartref a gwytnwch rhyfeddol yr ysbryd dynol. 

 

***

 

Mae Caryl Lewis yn ddramodydd a sgriptiwr Cymraeg sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae ei nofel arloesol Martha, Jac a Sianco (2004) yn cael ei hystyried yn glasur modern o lenyddiaeth Gymraeg, ac mae’n eistedd ar y cwricwlwm Cymreig. Aeth yr addasiad ffilm – gyda sgript gan Caryl Lewis ei hun – ymlaen i ennill chwe gwobr BAFTA Cymraeg a Gwobr Ysbryd yr Ŵyl yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2010. Mae ei gwaith sgriptio sgrin hefyd yn cynnwys y ffilmiau cyffro BBC/S4C Hinterland a Hidden. Mae mae’n ddarlithydd gwadd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn byw gyda’i theulu ar fferm ger Aberystwyth. Drift yw ei nofel gyntaf yn yr iaith Saesneg.

Gwobr Plant a Phobl Ifanc 

The Mab – Amrywiaeth o Awduron (Unbound) 

Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi clywed yr holl straeon tylwyth teg  sydd yn bodoli, meddyliwch eto. Yn y llyfr hwn fe welwch 11 fersiwn newydd sbon o straeon gwirioneddol hen o’r Mabinogi – efallai’r straeon hynaf yn hanes Prydain.

Ond yn ogystal â bod yn wirioneddol, wirioneddol hen, mae’r straeon yn The Mab yn rhyfedd a doniol a gwefreiddiol. Yn llawn â dirgelwch a hud a lledrith, maent yn sôn am amser pan oedd y gatiau rhwng y Byd Go Iawn a’r Byd Arall yn cael eu gadael ar agor o bryd i’w gilydd. Ac weithiau, dim ond weithiau, roedd yn bosibl camu drwodd.

Mae’r straeon yn y rhifyn darluniadol hwn wedi’u hail-ddychmygu gan dîm eithriadol o awduron, ac mae pob un yn ymddangos ochr yn ochr â chyfieithiad Cymraeg.

 

 

***

 

Ganed Sophie Anderson yn Abertawe ac mae wastad wedi cael ei hysbrydoli gan straeon ei chyndeidiau Cymreig a Slafaidd. Ar draws ei nofelau poblogaidd The House with Chicken Legs, The Girl Who Speaks Bear, The Castle of Tangled Magic, a The Thief Who Sang Storms, mae Sophie wedi ennill llawer o wobrau, gan gynnwys Gwobr Llyfr y Flwyddyn Siop Lyfrau’r Independent a Gwobr Llyfr y Flwyddyn, ac wedi cyrraedd rhestr fer Medal Carnegie ddwywaith. 

Ganed PG Bell yn ne Cymru, lle cafodd ei fagu ar ddiet o fytholeg Groegaidd, straeon ysbryd a Doctor Who. Mae wedi cael pob math o swyddi dros y blynyddoedd, o achubwr bywyd i weithredwr rollercoaster, ond y cyfan yr oedd wir eisiau ei wneud yw ysgrifennu straeon fel bywoliaeth. Ac yn awr mae wedi cyrraedd ei nod! Enwebwyd ei nofel boblogaidd i blant, The Train to Impossible Places, ar gyfer Gwobr Llyfr Plant Waterstones a Gwobr Branford Boaze, a chafodd ei dewis ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf 2019. Mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i wraig Anna a dau o blant.

Ganed Zillah Bethell yn Papua Gini Newydd ac mae’n byw ar hyn o bryd yn ne Cymru.  

Mae Matt Brown yn ddarlledwr sydd wedi cyflwyno rhai o raglenni teledu mwyaf poblogaidd y DU, yn ogystal â sioeau radio ar Capital, Heart a Magic. Mae hefyd yn awdur arobryn dwy gyfres o lyfrau plant: Compton Valance a Dreary Inkling School. 

Ganed Darren Chetty yn Abertawe ac mae’n byw yn Llundain ar hyn o bryd. Mae’n ddarlithydd yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Bu’n dysgu mewn ysgolion cynradd am 20 mlynedd. Yn 2022, cyd-olygodd Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales (Repeater) a rhifyn arbennig o Wasafiri dan y teitl ‘Reimaging Education’. Mae’n gyfrannwr i’r llyfr poblogaidd, The Good Immigrant (Unbound). Mae Darren yn gyd-awdur What Is Masculinity? Why Does It Matter? And Other Big Questions (Wayland) a How To Disagree: Negotiating Difference in a Divided World (Quarto) a chyd-olygydd Critical Philosophy of Race and Education (Routledge). Mae Darren yn ysgrifennu, gyda Karen Sands O’Connor, golofn reolaidd i Books for Keeps sy’n archwilio cymeriadau o leiafrifoedd hiliol mewn llenyddiaeth plant, o’r enw Beyond the Secret Garden.

Mae Nicola Davies yn awdur dros 80 o lyfrau i blant a phobl ifanc, gan gynnwys barddoniaeth, llyfrau ffeithiol, llyfrau lluniau a nofelau. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi mewn mwy na 10 iaith ac wedi ennill gwobrau yn y DU, UDA, Ewrop ac Asia. Yn ogystal â llawer o lyfrau am fyd natur, mae Nicola wedi ysgrifennu am anabledd, galar, mudo dynol a hawliau plant. Mae ei llyfrau lluniau The King of the Sky (gyda Laura Carlin) a The Day War Came (gyda Rebecca Cobb) wedi’u cymeradwyo gan Amnest UK; ysgogodd yr olaf ymgyrch ar-lein, ‘3000 o gadeiriau’, i gefnogi plant sy’n ffoaduriaid ar eu pen eu hunain. Mae ei nofel oelodion ifanc diweddar The Song that Sings Us wedi’i henwebu ar gyfer Gwobr Yoto Carnegie ac mae ei chasgliad barddoniaeth Choose Love (gyda Petr Horáček) yn helpu i godi arian i’r elusen ffoaduriaid o’r un enw ac wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Farddoniaeth CliPPA 2023. 

Mae Claire Fayers yn awdur arobryn i blant ac yn hyrwyddwr straeon Cymreig. Cyrhaeddodd ei chyfrol ei hun o straeon tylwyth teg, mythau a chwedlau Cymru restr fer Gwobr Tir na n-Og a’i henwebu am fedal Carnegie. Bydd ei llyfr nesaf, Tapper Watson and the Quest for the Nemo Machine, yn cael ei lansio gan Firefly Press ddiwedd 2023.  

Bardd, gwneuthurwr ffilmiau ac artist Cymreig-Iracaidd yw Hanan Issa. Ymhlith ei chyhoeddiadau mae ei chasgliad barddoniaeth My Body Can House Two Hearts a Welsh Plural: Essays on the Future of Wales. Perfformiwyd ei monolog buddugol With Her Back Straight yn Theatr y Bush fel rhan o’r Hijabi Monologues. Hi yw Bardd Cenedlaethol presennol Cymru a Chymrawd Rhyngwladol y Gelli 2022-23. 

Ganed Rhian Tracey yn Abertawe a chafodd ei magu ar y gororau. Cafodd ei chytundeb cyhoeddi cyntaf yn 26 oed. Mae Rhian yn dysgu sawl diwrnod yr wythnos mewn adran AAA, gan weithio gyda myfyrwyr sydd â dyslecsia, dyspracsia, awtistiaeth, ADD ac anghenion dysgu ychwanegol eraill. Mae hi hefyd yn gwirfoddoli gyda Medical Detection Dogs, gan helpu i hyfforddi cŵn bach a fydd yn mynd ymlaen i fod yn gŵn cymorth. Cyhoeddwyd llyfr cyntaf Rhian i blant hŷn, I, Spy: a Bletchley Park mystery, ym mis Mawrth 2023. 

Mae Alex Wharton yn awdur a pherfformiwr barddoniaeth arobryn i oedolion a phlant. Cyrhaeddodd ei lyfr cyntaf o farddoniaeth i blant, Daydreams and Jellybeans, restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022, The North Somerset Teacher’s Book Awards, The Laugh Out Loud Book Awards a chafodd ei enwi’n Lyfr wedi’i Argymhell Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth. Yn 2021 comisiynwyd Alex gan Ŵyl y Gelli i greu cerdd gyda myfyrwyr cynradd i’w darllen i’w Huchelder Brenhinol, Cydweddog y Frenhines mewn seremoni a gynhaliwyd yn y Gelli Gandryll. Bydd ail a thrydydd casgliad Alex o farddoniaeth, Poems for Brilliant Brains a Red Sky at Night: A Poet’s Delight yn cael eu cyhoeddi gyda Firefly Press yn 2023 a 2024, yn y drefn honno.

Eloise Williams oedd y Children’s Laureate Wales cyntaf 2019–2021. Mae hi wedi cyhoeddi pedwar llyfr i bobl ifanc: Elen’s Island, Gaslight, Seaglass a Wilde. Yn 2019, cyrhaeddodd Seaglass restr fer gwobrau fawreddog Tir na n-Og.

 

The Last Firefox – Lee Newbery (Penguin Random House Children’s)

Rhwng bwlis yn yr ysgol a newidiadau yn y cartref, mae bywyd Charlie Challinor yn cael braw braidd. Daw’n warcheidwad i genau llwynog blewog o’r enw Cadno, ac aiff mae pethau’n llawer mwy brawychus. Nid dim ond llwynog yw Cadno: mae o’n firefox – yr unig un o’i fath – ac mae heliwr sinistr o fyd arall ar ei drywydd.

Wedi’i ysgubo i mewn i antur annisgwyl i amddiffyn ei ffrind fflamadwy, bydd angen i Charlie ddod o hyd i’r dewrder nad oedd erioed wedi meddwl oedd ganddo, os yw’n mynd i achub y firefox olaf…

 

***

 

Mae Lee Newbery yn byw gyda’i ŵr, mab a dau gi mewn tref glan môr yng ngorllewin Cymru. Yn ystod y dydd, mae’n helpu pobl agored i niwed i chwilio am swyddi ac ennill sgiliau newydd, a gyda’r nos, mae’n eistedd i lawr wrth ei liniadur i ysgrifennu. 

 

When The War Came Home – Lesley Parr (Bloomsbury Children’s Books) 

Mae’r Rhyfel Byd Cyntaf wedi dod i ben, ond nid yw wedi diflannu.
Pan mae Natty yn gorfod symud i bentref newydd, mae hi’n cwrdd â dau filwr ifanc sy’n dal i frwydro yn erbyn effeithiau’r rhyfel. Ni all Huw anghofio’r pethau ofnadwy y mae wedi’u gweld, ond nid yw Johnny hyd yn oed yn cofio pwy ydyw.
Wrth i Natty geisio cadw cyfrinach a datrys dirgelwch, mae’n dod o hyd i’w ffordd ei hun o frwydro dros yr hyn y mae’n credu ynddo – ac yn dysgu na ddylid byth anghofio rhai pethau… 

 

***

 

Magwyd Lesley Parr yn ne Cymru ac mae bellach yn byw yn Lloegr gyda’i gŵr. Mae’n rhannu ei hamser rhwng ysgrifennu straeon, addysgu mewn ysgol gynradd a thiwtora oedolion. Mae ganddi MA mewn Ysgrifennu i Bobl Ifanc o Brifysgol Bath Spa.

Nôl i Gwobr Llyfr y Flwyddyn