Gwobr Farddoniaeth Saesneg@PrifysgolBangor
A Voice Coming From Then - Jeremy Dixon (Arachne Press)
Mae ail gasgliad barddoniaeth Jeremy Dixon A Voice Coming From Then yn cychwyn o’i ymgais i gyflawni hunanladdiad yn ei arddegau ac yn ehangu i gwmpasu themâu fel bwlio, queerphobia, derbyniad, a chefnogaeth. Mae’n cynnwys teipograffeg, collage, hiwmor, hud, a disgo annisgwyl ac ymddangosiadau cyson gan y cythraul Fictoraidd, Spring-heeled Jack.
***
Ganwyd Jeremy Dixon yn Essex ac mae bellach yn byw yng nghefn gwlad de Cymru ble mae’n creu llyfrau artist sy’n cyfuno barddoniaeth a ffotograffiaeth. Cyhoeddwyd ei bamffled, In Retail, gan Arachne Press yn 2019 ac mae cerddi eraill wedi ymddangos arlein ac mewn print yn Butcher’s Dog, Roundyhouse Magazine, Riptide Journal, Lighthouse Journal, Durable Goods a Really System, ymhlith eraill.
Inhale/Exile - Abeer Ameer (Seren Books)
Inhale/Exile yw casgliad barddoniaeth cyntaf Abeer Ameer, bardd o etifeddiaeth Iracaidd, sy’n byw yng Nghaerdydd. Wedi’i hysbrydoli gan y straeon niferus a glywodd yn blentyn, ac ymweld â’i theulu yn Irac fel oedolyn, mae Ameer wedi ysgrifennu llyfr sy’n dathlu gwytnwch ei chyndeidiau a’i theulu estynedig yn Baghdad a ledled y byd. Mae’r gyfrol yn cyflwyno ystod o gymeriadau mewn cymysgedd o gerddi gwleidyddol a phersonol; pobl gyffredin yn byw mewn amgylchiadau eithriadol. Mae’r cerddi’n amrywio o ran ffurf, gan gyfuno dulliau traddodiadol ac arbrofol. Maent yn llawn empathi ac mae ffydd dawel yn rhedeg trwyddynt.
***
Ganwyd Abeer Ameer yn Sunderland ac fe’i magwyd yng Nghaerdydd. Hyfforddodd fel deintydd yn Llundain a chwblhaodd MSc, gan ddatblygu diddordeb mewn meddylgarwch a trin cleifion â gor-bryder. Mae ei cherddi wedi ymddangos yn eang mewn cyfnodolion a blodeugerddi gan gynnwys Acumen, Poetry Wales, Planet, Magma, New Welsh Review, The Rialto a Long Poem Magazine. Derbyniodd le ar Gynllun Mentora Llenyddiaeth Cymru yn 2020.
The Sorry Tale of the Mignonette - Angela Gardner (Shearsman Books)
Wedi’i disgrifio gan Philip Gross fel ‘rattling good yarn’, mae The Sorry Tale of the Mignonette yn adrodd stori Richard Parker, un o berthnasau’r awdur oedd yn cabanwas a gafodd ei hwylio o Southampton i Sydney ym 1884 ar gyfer Jack Want, bargyfreithiwr a gwleidydd amlwg yn New South Wales. Suddodd y Mignonette yn Ne’r Iwerydd ymhell o’r tir, ac wedi pedair diwrnod ar bymtheg heb sôn am unrhyw olwg long i’w hachub, penderfynodd y capten a’r cydgabanwr lofruddio a bwyta Richard druan. Diwrnodau yn ddiweddarach achubwyd y morwyr oedd wedi goroesi, a dychwelsant i orllewin Lloegr i wynebu cyfiawnder. MaeThe Sorry Tale of the Mignonette yn archwilio stori bersonol a dynol un o ddyfarniadau cyfreithiol pwysicaf Cyfraith Lloegr—nid yw angenrheidrwydd yn amddiffyniad rhag llofruddiaeth. Mae’r llyfr yn un o argymhellion Diwrnod Barddoniaeth 2021.
***
Cafodd Angela Gardner ei geni a’i haddysgu yng Nghaerdydd. Mae wedi cyhoeddi chwe chasgliad unigol o farddoniaeth. Dyma ei chyhoeddiad diweddaraf, yn dilyn Some Sketchy Notes on Matter (Recent Work Press, Awstralia, 2020) a The Told World (barddoniaeth ddethol) Shearsman Books UK 2014. Ymhlith gwobrau a chomisiynau eraill, mae hi wedi derbyn Cymrodoriaeth Churchill, Gwobr Farddoniaeth Thomas Shapcott, a phreswyliadau a chyllid prosiect Cyngor Awstralia. Mae ei cherddi diweddar wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Ysgrifennu Creadigol Rhyngwladol Aesthetica ac wedi cyrraedd rhestr hir Gwobr Farddoniaeth Ryngwladol Live Canon ac wedi eu cyhoeddi yn The Edge of Necessary: Welsh innovative poetry 1966-2016, Cymru, The Yale Review a West Branch UDA; Blackbox Manifold, The Long Poem a Tears in the Fence, y DU; Plumwood Mountain, Westerley, Southerly, Rabbit a Cordite, Awstralia. Ar ôl byw am flynyddoedd lawer yn Awstralia mae hi bellach yn byw yng Ngorllewin Corc, Iwerddon. Mae hi’n artist gweledol gyda gwaith mewn casgliadau cyhoeddus rhyngwladol.
Gwobr Ffeithiol Greadigol
Roots Home: Essays and a Journal - Gillian Clarke (Carcanet)
Mae hoff fardd cyfoes Cymru yn dychwelyd at ryddiaith yn Roots Home. Fel y gwnaeth yn At the Source (2008), mae hi’n gwneud rhywbeth anarferol gyda ffurf ac yn cyfuno gwahanol elfennau. Saith o draethodau-myfyrdod bywiog wedi’u llywio gan Dylan Thomas, George Herbert a W.B. Yeats (ymysg eraill), dyddiadur sy’n rhedeg rhwng Ionawr 2018 a Rhagfyr 2020, a cherdd o’r enw ‘Winter Solstice’.
***
Ganed Gillian Clarke yng Nghaerdydd yn 1937 ac mae bellach yn byw yng Ngheredigion. Yn fardd, dramodydd, a thiwtor ar yr M. Phil mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Morgannwg, mae hi hefyd yn llywydd Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, a gyd-sefydlodd yn 1990. Mae wedi cyhoeddi wyth o gasgliadau Carcanet, ynghyd â Collected Poems a Selected Poems. Hi oedd Bardd y Brifddinas cyntaf Caerdydd yn 2005-6 a Bardd Cenedlaethol Cymru 2008-16.
The Journey is Home: Notes from a Life on the Edge - John Sam Jones (Parthian)
Hunangofiant clir a gafaelgar John Sam Jones am fyw bywyd ar y ffin, rhwng gwirionedd a chelwydd, rhwng gwrthodiad a derbyniad. O’i blentyndod ar arfordir Cymru i gyfnod cythryblus yn fyfyriwr is-raddedig ym mhrifysgol Aberystwyth, aeth ymlaen i ennill ysgoloriaeth yng Ngholeg Berkley yn San Francisco wrth i haint AIDS ddechrau gafael yn y gymdeithas.
***
Ar ôl gweithio ym myd y caplaniaeth, addysg ac iechyd y cyhoedd am fwy na deng mlynedd ar hugain, mae John Sam Jones yn byw mewn hanner-ymddeoliad gyda’i ŵr a dau Collie Cymreig mewn pentref bychan yn yr Almaen, dafliad carreg o’r ffin â’r Iseldiroedd. Sylweddolodd John ei fod yn hoyw yn ei arddegau ar ddechrau’r 1970au a daeth i ddeall yn gyflym y byddai ei fywyd yn cael ei fyw bob amser ar y dibyn – rhwng gwirionedd a chelwydd, gwrthodiad a gwawd, hunan-amheuaeth a chwilio am dderbyniad. Yn y diwedd dewisodd greu a dilyn llwybr, trwy gymdeithas oedd yn aml yn homoffobig, gan sylwi nad oedd gonestrwydd yn cael ei werthfawrogi bob amser. Yn 2001 daeth yn gyd-gadeirydd cyntaf LGB Forum Cymru (a ailenwyd yn ddiweddarach yn Stonewall Cymru) a sefydlwyd i gynghori Llywodraeth Cymru ar faterion LGB. Astudiodd ysgrifennu creadigol yng Nghaer. Enillodd ei gasgliad o straeon byrion – Welsh Boys Too – wobr Honour Book yng Ngwobrau Llyfrau Stonewall yr American Library Association. Cyrhaeddodd ei ail gasgliad, Fishboys of Vernazza, restr fer Llyfr y Flwyddyn a ddilynwyd gan y nofelau, With Angels and Furies ac Crawling Through Thorns.
The Long Field - Pamela Petro (Little Toller Books)
Mae hiraeth yn air Cymraeg hanfodol, sy’n enwog am fod yn anodd ei gyfieithu. Mae’n golygu llawer fwy na’i frasamcan Saesneg o ‘homesickness’; mae’n rhywbeth dwfn yn yr asgwrn sy’n ysu am le, person, neu amser anadferadwy. Ymwybyddiaeth acíwt o bresenoldeb absenoldeb.
Mae The Long Field yn plethu straeon hireath hanfodol Cymru gyda bywyd Pamela Petro ei hun – fel Americanes sy’n caru Cymru, fel dynes hoyw, fel goroeswr damwain trên, fel merch i riant â dementia. Trwy’r tynnu a chlymu yn y straeon hyn, down o hyd i ffyrdd traddodiadol a radical newydd o edrych ar hiraeth. Hiraeth lle a chartref, ond hefyd hiraeth ciwar. A hiraeth sy’n cael ei sbarduno gan dechnoleg, mewnfudo, argyfyngau ecolegol, a’n gwleidyddiaeth rhwygol newydd.
Ar y daith hon mae’r syniad o hiraeth yn dechrau datblygu, o brofiad unigryw Cymreig i un sy’n endemig i’r cyflwr dynol, o chwant dwfn at yr ymatebion creadigol i golled mae Pamela Petro yn eu gweld fel athrylith y diwylliant Cymreig.
***
Mae Pamela Petro yn awdur tri llyfr ffeithiol blaenorol, pob un wedi’u cyhoeddi gan argraffnodau o HarperCollins. Hi yw Cyfarwyddwr Ysgrifennu Creadigol Ysgol Haf Dylan Thomas ym Mhrifysgol Cymru, lle mae hi hefyd yn Gymrawd, ac yn dysgu ysgrifennu i ôl-raddedigion ac israddedigion yn yr Unol Daleithiau. Mae darnau o The Long Field wedi ymddangos yn The Harvard Review a The Paris Review. Roedd ei chyfrol gyntaf lwyddiannus, Travels in an Old Tongue, yn adrodd hanes ymdrechion Petro i ddysgu Cymraeg ar daith trwy 15 gwlad.
Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies
I am the Mask Maker and other stories - Rhiannon Lewis (Victorina Press)
Mae I am the Mask Maker and other stories yn cynnwys unarddeg o straeon byrion gafaelgar. Cawn ein cludo i lefydd mor amrywiol â Fenis y Dadeni sy’n llawn pla, siop lyfrau hynafiaethol aflwyddiannus yn Llundain, fferm deuluol sy’n profi trafferth yng ngorllewin Cymru yn y 1960au, a Nefoedd lle mae’r angylion yn ymbaratoi i adael.
Mae’r casgliad yn cynnwys: ‘The Significance of Swans’, a gyrhaeddodd restr fer y Bristol Prize yn 2018, ‘The Last Flight of La Librairie d’Afrique du Nord’, oedd ar restr fer yr H.G. Wells Short Story Competition yn 2020, ‘The Jugs Stay with the Dresser’, enillydd cystadleuaeth stori fer Frome Festival yn 2017, a ‘Piano Solo’, enillydd y categori Stori Fer i Oedolion yn y William Faulkner Literary Contest yn 2020.
***
Ganed Rhiannon Lewis yn Aberteifi, gorllewin Cymru ac fe’i magwyd ar fferm fach yn agos at y môr. Ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddodd Victorina Press ei nofel gyntaf, My Beautiful Imperial, a oedd yn seiliedig ar brofiadau ei hen-hen-ewythr, capten llong, a gymerodd ran, yn anfwriadol, yn rhyfel cartref Chile yn 1891. Ym mis Mawrth 2018, rhoddwyd y gyfrol ar restr o nofelau hanesyddol a argymhellir gan y Walter Scott Prize Academy, ac fe’i gyfieithwyd i’r Sbaeneg a’i chyhoeddi fel Mi Querido Imperial. Yn 2019, daeth ei nofela, The Significance of Swans yn ail yn y New Welsh Writing Awards. Ym mis Medi 2020, enillodd ei gwaith, ‘Piano Solo’, y William Faulkner Literary Contest am stori fer.
Pain Sluts - Sian Hughes (STORGY Books)
Gan gyfuno arsylwadau traw-berffaith, comig tywyll, a chyffyrddiadau tyner o ddynoliaeth, mae Pain Sluts yn cofnodi diffygion, eiddilwch, ac ysbryd parhaol cast eclectig o gymeriadau diddorol wrth iddynt lywio’r bygythiadau sy’n wynebu eu hunaniaeth a’u dynoliaeth.
Dyma gyfrol cyntaf dewr a hyderus sy’n llawn trallod a thosturi. Mae’n gasgliad ysgytwol o straeon sy’n amlygu ein harddwch a’n rhyfeddod. Yn finiog a thyner, yn wir ac yn ddoeth, mae’r straeon hyn yn cyhoeddi dyfodiad llais newydd hynod dalentog.
***
Mae Sian Hughes yn ysgrifennwr copi llawrydd, yn ysgrifennwr i’r sgrin, ac yn awdur. Mae ei straeon byrion wedi’u cyhoeddi arlein ac mewn print a’u haddasu ar gyfer ffilm a theledu, gan ymddangos ar HTV, BBC Wales, ac S4C. Perfformiwyd addasiad o’i stori fer ‘Consumed’, gyda Shauna Macdonald o The Descent, am y tro cyntaf yn 2021 yn y Glasgow Short Film Festival. Ar ôl cwblhau MA mewn Ysgrifennu Creadigol yn ddiweddar, lle enillodd Ragoriaeth, mae Sian hefyd yn gweithio fel ymarferydd creadigol i Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae Sian yn byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr, tri o blant, a llu o anifeiliaid ystyfnig.
The Fortune Men - Nadifa Mohamed (Viking, Penguin Random House)
Mae Mahmood Mattan yn gymeriad cyfarwydd ym Mae Teigr yng Nghaerdydd yn 1952. Mae’n dad, yn fentrwr, ac yn fân droseddwr. Mae’n nifer o bethau, ond nid yw’n llofrudd. Pan caiff siopwr ei ladd yn greulon, nid yw Mahmood yn poeni gormod. Dim ond yn y cyfnod cyn yr achos llys, wrth i’w obaith bylu, y mae’n gwawrio ar Mahmood fod angen iddo frwydro am ei fywyd – yn erbyn cynllwyn, rhagfarn a chreulondeb – ac efallai nad yw’r gwir yn ddigon i’w achub.
***
Ganed Nadifa Mohamed yn Hargeisa, Somaliland, ym 1981 a symudodd i Brydain yn bedair oed. Enillodd ei nofel gyntaf, Black Mamba Boy, y Betty Trask Award; ac ymddangosodd ar restr fer y Guardian First Book Award, y John Llewellyn Rhys Prize, y Dylan Thomas Prize a’r PEN Open Book Award. Enillodd ei hail nofel, Orchard of Lost Souls, y Somerset Maugham Award a’r Prix Albert Bernard. Cafodd Nadifa Mohamed ei dewis ar gyfer y Granta Best of Young British Novelists yn 2013, ac mae’n Gymrawd i’r Royal Society of Literature. Cyrhaeddodd The Fortune Men y rhestr fer ar gyfer y Booker Prize 2021. Mae Nadifa Mohamed yn byw yn Llundain.
Gwobr Plant a Phobl Ifanc
Daydreams and Jellybeans - Alex Wharton (Firefly Press)
O jelibîns angof i freuddwydion gwreichionllyd, mae cerddi Alex Wharton, a luniwyd ar gyfer disgyblion cynradd, yn ddoniol ac yn feddylgar, gan anelu at sbarduno cynefindra ac ysbryd cynhwysol. Mae’r cerddi yn defnyddio odl, rhyddm a’r mesur rhydd, ac maent yn ddelfrydol ar gyfer eu perfformio, gan feithrin cariad at iaith ac at ddarllen, a chan ddatblygu hyder a hunan-fynegiant.
***
Mae Alex Wharton yn awdur ac yn fardd. Mae ei waith wedi’i gyhoeddi’n gyson yn The Caterpillar, Wales Haiku Journal, Hedgerow ac I Am Not a Silent Poet. Cydweithiodd â The Reading Realm ym mis Ionawr 2020 lle ymddangosodd pump o’i gerddi ar app addysgol iTunes. Yn arweinydd rheolaidd y Cardiff Arts Free Festival, mae Alex yn ymweld ag ysgolion i berfformio ei farddoniaeth a hwyluso gweithdai. Enillodd Gwobr Rising Stars Cymru yn 2020. Daydreams and Jellybeans yw ei gasgliad barddoniaeth cyntaf.
The Shark Caller - Zillah Bethell (Usborne)
Plymiwch dan donnau’r antur hudolus hon o gyfeillgarwch, maddeuant a dewrder, wedi’i gosod ar lannau Papua Gini Newydd, sy’n berffaith ar gyfer dilynwyr Katherine Rundell ac Eva Ibbotson.
Mae Blue Wing yn ysu am ddod yn alwr siarc, ond yn lle hynny mae’n rhaid iddi fod yn gyfaill i’r newydd-ddyfodiad cynddeiriog Maple, sy’n cyrraedd ynys Blue Wing yn annisgwyl. Ar y dechrau, mae’r merched yn rhy ddig i rannu eu cyfrinachau a dod yn ffrindiau, ond pan fydd y llanw’n rhoi addewid o drysor, rhaid iddyn nhw deithio gyda’i gilydd i waelod y cefnfor i herio’r siarc mwyaf bygythiol ohonynt i gyd…
***
Ganed Zillah Bethell yng nghysgod llosgfynydd Mount Lamington yn Papua Gini Newydd. Fe’i magwyd heb esgidiau, teganau na thechnoleg. O ganlyniad, treuliodd lawer o amser yn y môr yn nofio ac mewn canŵod. Dychwelodd teulu Zillah i’r Brydain pan oedd hi’n ddeg oed, ac mae hi bellach yn byw yn ne Cymru gyda’i theulu. Mae hi wrth ei bodd yn dychwelyd i lannau Papua Gini Newydd gyda The Shark Caller.
The Valley of Lost Secrets - Lesley Parr (Bloomsbury Children's Books)
Medi 1939.
Pan fydd Jimmy yn cael ei symud i bentref bach yng Nghymru, ni allai fod yn fwy gwahanol i Lundain. Yn wyrdd, yn dawel ac yn llawn dieithriaid, mae’n teimlo’n estron ar unwaith.
Pan ddaw o hyd i benglog wedi’i guddio mewn coeden, daw’r dyffryn yn fwy brawychus na’r rhyfel. Pwy all Jimmy ymddiried ynddo? Mae ei frawd yn rhy fychan, a’i ffrind gorau wedi newid.
Gan ddod i ymddiried yn rhywun annisgwyl, dadorchuddiant gyfrinachau sy’n gorwedd gyda’r benglog. Bydd yr hyn maen nhw’n ei ddarganfod yn newid Jimmy – a’r pentref – am byth.
***
Magwyd Lesley Parr yn ne Cymru, ar waelod dyffryn ac yn weddol agos i ffatri gwaith dur ar lan y môr. Bellach mae hi’n byw yng nghanol Lloegr (bron mor bell o’r môr ag sy’n bosib) gyda’i gŵr a’u cath achub, Angharad. Mae’n rhannu ei hamser rhwng ysgrifennu straeon, dysgu mewn ysgol gynradd a thiwtora oedolion. Ar wahân i lyfrau, rygbi undeb yw ei hoff beth yn y byd, yn enwedig os yw Cymru yn fuddugol! Graddiodd Lesley o Brifysgol Bath Spa gyda rhagoriaeth mewn MA Ysgrifennu ar gyfer Pobl Ifanc. The Valley of Lost Secrets yw ei llyfr cyntaf.