Enw Prosiect: Gwyrth Geiriau
Cyfranogwyr: Agored i bawb
Prif artist: Amanda Wells
Platfform Digidol: Zoom
Gwybodaeth am y prosiect:
Cyfres o dri gweithdy sy’n defnyddio ysgrifennu creadigol a thechnegau barddoniaeth weledol er mwyn cynorthwyo mynegiant creadigol. Dewch i chwarae gyda geiriau, lluniau, tasgau byrion a thechnegau amrywiol os am antur weledol ac ieithyddol.
Bywgraffiad Amanda:
Yn wreiddiol o orllewin Swydd Efrog, symudodd Amanda Wells i ganolbarth Cymru yn 1983 i astudio Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n artist ac awdur rhyngddisgyblaethol, ond yn canolbwyntio’n bennaf ar farddoniaeth. Mae ganddi MA mewn celf gain ac mae’n creu dan enwau Ceridwen Powell a Rosamund McCullain. Mae Amanda yn artist haniaethol sy’n mwynhau gweithio mewn amrywiol ffyrdd, gan ddilyn sawl trywydd. Fel unigolyn anabl, teimlai bwysigrwydd i siarad yn agored am hawliau unigolion anabl. Mae ganddi ddiddordeb yn rôl y celfyddydau a sut y gall creadigrwydd helpu unigolion a chymunedau i ffynnu ac i wella.
“Dwi eisiau darparu gweithgareddau creadigol i bobl er mwyn eu helpu i archwilio eu meddyliau a’u teimladau.” – Amanda Wells