Gwaith Comisiwn Llenyddiaeth Cymru
Rydym yn ymwybodol iawn ein bod yn wynebu cyfnod eithriadol o bryderus, a hynny yng nghyd-destun ein hiechyd a’n llesiant meddyliol a chorfforol fel unigolion a chymunedau, ac yn arbennig felly i’r rheini sy’n dibynnu ar incwm llawrydd. Pwrpas y galwad agored hwn yw galluogi awduron llawrydd i barhau i dderbyn gwaith â thâl yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd. Yn ogystal, bydd y gwaith a gomisiynwyd yn diddanu, ysbrydoli ac yn addysgu cynulleidfaoedd creadigol, egin awduron, plant a chyfranogwyr ledled Cymru.