Dewislen
English
Cysylltwch

Enw Prosiect: Paentio Lluniau gyda Geiriau

Cyfranogwyr: Plant a phobl ifanc sy’n cael eu haddysg o gartref (4 – 16 mlwydd oed)

Prif artist: Ffion Jones

Platfform Digidol: Zoom

 

Gwybodaeth am y prosiect:

Roedd Paentio Lluniau gyda Geiriau yn gyfres o weithdai ysgrifennu creadigol arlein wedi’u hysbrydoli gan weithiau celf, mewn cydweithrediad â Mountain Movers – cymdeithas sy’n cynorthwyo gydag addysgu o’r cartref, wedi ei leoli yn ne Cymru. Fe weithiodd Ffion gyda 15 o blant oedd yn cael eu haddysg gartref gan ddefnyddio celf fel ysgogiad ar gyfer eu hysgrifennu creadigol, roedd y plant yn dysgu i ddefnyddio’r un manylion yn eu straeon ag y maent yn ei wneud yn aml yn eu lluniau. Yn ogystal â gwaith celf, fe ddefnyddwyd fideos, teganau, gemau a llyfrau fel ysbrydoliaeth. Roedd y gweithdai yn helpu’r cyfranogwyr siapio eu syniadau yn straeon drwy edrych ar hanfodion stori a thechnegau ysgrifennu creadigol syml sy’n help i ddod â syniadau’n fyw. Mae’r prosiect wedi arwain at gynhyrchu llyfr o waith y plant.

 

Bywgraffiad Ffion:

Mae gan Dr Ffion Jones radd PhD mewn Llenyddiaeth Saesneg o Brifysgol Bangor. Mae hi’n cyd-gyfarwyddo, ysgrifennu a darlunio cyfres o lyfrau Nurse Ted, gan ehangu dealltwriaeth plant o afiechydon difrifol. Hi hefyd sy’n rhedeg Fly Me Stories, menter gymdeithasol sy’n creu anturiaethau i blant sy’n sâl mewn ysbytai. Yn ogystal ag ysgrifennu, mae hi wedi bod yn diwtor ysgrifennu creadigol a chelf ers nifer o flynyddoedd. Mae hi’n byw yn Abertawe gyda’i gŵr a’i dau o blant.

 

“Yn un o fy ngweithdai cyntaf erioed, defnyddiais lyfr Ish gan Peter Reynolds er mwyn canolbwyntio ar “mak[ing] your mark and see[ing] where it takes you” yn hytrach na phoeni am bethau i fod yn “berffaith”. Rwy’n dynesu at ysgrifennu creadigol yn yr un modd, gan ganolbwyntio ar gynyddu hyder mewn syniadau, cyn siapio syniadau yn stori. Rwy’n hynod gyffrous i ddechrau’r prosiect hwn, a chynyddu hyder plant yn eu dychymyg eu hunain fel eu bod yn dylunio lluniau gyda’u geiriau eu hunain.” – Ffion Jones

Adnoddau ar gael yma

Nôl i Gwaith Comisiwn i Awduron Llenyddiaeth Cymru