Dewislen
English
Cysylltwch

Enw Prosiect: Straeon y Clo Mawr

Cyfranogwyr: Preswylwyr cartrefi gofal

Prif artist: Fiona Collins

Platfform Digidol: Ar-lein

 

Gwybodaeth am y prosiect:

Fe weithiodd Straeon y Clo Mawr gyda saith o bobl hyn ar draws Cymru, rhai mewn cartrefi gofal a rhai yn byw ar eu pen eu hunain. Bu’r unigolion yn rhannu eu hatgofion a’u straeon teuluol, a gafodd eu trawsgrifio i lyfr o’r enw Lockdown Legends. Roedd effaith y weithred fach yma ar eu llesiant yn syfrdanol – mae modd canfod copi o’r llyfr ar lein, a’i rannu gydag eraill ar draws Cymru a thu hwnt.

 

 

Bywgraffiad Fiona:

Mae Fiona Collins yn perfformio barddoniaeth a straeon o bob rhan o’r byd ond â diddordeb arbennig mewn chwedlau o Gymru. Mae hi’n angerddol tuag at gefnogi eraill i adrodd straeon am eu bywydau eu hunain. Mae hi’n credu fod hyn yn rôl bwysig i’r henoed yn ein plith, er mwyn addysgu ac arwain y cenedlaethau iau. Sefydlodd Fiona grŵp Cylch Stori yn Venue Cymru sydd yn cefnogi unigolion ifanc sy’n adrodd straeon, mae hi hefyd yn aelod o banel Chwedl, rhwydwaith ar gyfer merched sy’n adrodd straeon. Mae hi’n ddwyieithog a hi gipiodd wobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol 2019.

 

“Mae gofalu am yr henoed yn ein plith a gwrando ar eu straeon yn rhoi cipolwg o’u cariad diamod ac yn ein helpu i’w caru yn yr un modd. Dyma gyfle i bobl hŷn ddefnyddio’r cyfnod clo i gofio ac adrodd straeon gwerthfawr iddyn nhw o wahanol adegau yn ystod eu bywydau, gan ddefnyddio technoleg i siarad â’i gilydd o amgylch Cymru a chreu casgliad o’r atgofion a rennir.” – Fiona Collins

Nôl i Gwaith Comisiwn i Awduron Llenyddiaeth Cymru