Dewislen
English
Cysylltwch

Enw Prosiect: Canllaw Therapydd Trawma i Ysgrifennu Creadigol Therapiwtig ar gyfer Iechyd Meddwl

Cyfranogwyr: Unrhyw un sydd yn credu fod y cynnwys hwn yn addas ar eu cyfer hwy

Prif artist: Grace Quantock

Platfform Digidol: Adnoddau fideo ac adnoddau ysgrifennedig; gweithdy caeedig

 

Gwybodaeth am y prosiect:

Mae rhai atgofion yn drwm, ac yn faich; nhw ydi’r llyfrau heb eu darllen mewn bocsys heb eu hagor, yn cael eu llusgo gyda ni o dŷ i dŷ. Yn hytrach na phwyso arnom ni, mae’r straeon hyn yn rhan o lyfrgelloedd byw ein gorffennol, yn barod i gael eu hailddefnyddio a’u hailenwi; i’w deall yng nghyd-destun ein bywydau ni heddiw; ddim yn rhywbeth i fod a chywilydd ohono nag i’w ofni, ond yn rhywbeth i’w wynebu a’i gwestiynu; ac yna i’w roi i orffwys yn ei fan terfynol. Bydd y prosiect hwn yn gymorth i chithau allu tynnu’ch llyfrau o’u bocsys a’u gosod ar eich silff lyfrau. Gallwch eu defnyddio nhw, neu anghofio amdanynt, fel y dymunwch. Nid baich fydd y rhain mwyach. Bydd y prosiect yn defnyddio deunyddiau a chyswllt fideo er mwyn canfod prif ddigwyddiadau ym mywydau’r cyfranogwyr, ar draws genres llenyddol gwahanol, gan ddistyllu hanfod y profiadau hyn yn gloriau llyfrau eironig, sydd yn gallu bod yn garthydd. Mae cymaint i’w drafod.

 

Bywgraffiad Grace:

Mae Grace Quantock yn awdur ac yn gwnselydd seicotherapiwtig. Mae’n ysgrifennu am y croestoriad rhwng cyfiawnder cymdeithasol, hunaniaethau sy’n cael eu hymylu a’r celfyddydau creadigol. Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi yn The Guardian, The Fabian Review, The Unexpected Shape yn ogystal â chyhoeddiadau eraill. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar lyfr sy’n sôn am bobl ymylol mewn byd polar.

 

“Mae nifer o bobl sy’n brifo neu sydd wedi profi poen yn troi at ysgrifennu fel ffordd o ganfod ystyr o’r goddefiant, i ail-ddiffinio’r cyfarwydd. Rwy’n awdur ac yn gwnselydd seicotherapiwtig sy’n arbenigo mewn gweithio gyda chleientiaid gyda hunaniaethau sydd wedi eu hymylu a’u gormesu. Rwyf eisiau creu adnoddau i gefnogi pobl yng Nghymru sydd am elwa o fynediad tuag at ysgrifennu creadigol er budd iechyd a llesiant mewn modd sy’n rhoi sylw i drawma. Yn benodol, mae gen i ddiddordeb mewn cynnig adnoddau i bobl sy’n cael eu tangynrychioli mewn llenyddiaeth, gan wybod fod ein llenyddiaeth ni yma yng Nghymru am elwa yn fawr o glywed a darllen y geiriau yma.” – Grace Quantock

Adnoddau

Fideo: How to write about painful emotions or memories in a safe and effective way with Grace Quantock

Adnodd PDF ar gael yma

Nôl i Gwaith Comisiwn i Awduron Llenyddiaeth Cymru