Dewislen
English
Cysylltwch

Enw Prosiect: Gweithio gyda Geiriau er Lles

Cyfranogwyr: Ymarferwyr creadigol neu’r rheiny sydd â diddordeb mentro i’r maes hwn

Prif artist: Kerry Steed

Platfform Digidol: Gweithdai digidol

 

Gwybodaeth am y prosiect:

Roedd y cwrs ar-lein pum-rhan yma yn cefnogi, yn bywiogi ac yn datblygu ymarferoldeb. Roedd y cwrs hwn yn cefnogi ymarferwyr sefydledig a fyddai’n hoffi cwrdd ag eraill i rannu profiadau ac arferion da, a’r rheiny oedd yn newydd i’r gwaith hwn ac yn dymuno dysgu rhagor amdano. Roedd y sesiynau’n ymdrin ag: ysgrifennu ar gyfer myfyrio ac ymwybyddiaeth ofalgar; barddoniaeth wrth ymarfer a chwarae; adnabod lleoliadau creadigol i ysgrifennu, gan gynnwys addasu ar gyfer gweithio ar-lein; ymarferoldeb, peryglon a phrotocolau; a chreu Maniffesto Ysgrifennu er Llesiant. Cafwyd cyfle i ddysgu ar y cyd, trafod a chronni adnoddau a chael cefnogaeth gan weddill y grŵp. Gyda chyfraniadau gan yr awdur a’r ymarferydd, Debs Llewelyn, a’r bardd a seicotherapydd, Steve Thorp. Mae’r cwrs hwn yn cael ei ddatblygu ymhellach, gyda rhagor o wybodaeth i ddod yn fuan.

 

Bywgraffiad Kerry:

Mae Kerry Steed yn ymarferydd creadigol ac yn eiriolwr dros ysgrifennu ar gyfer llesiant ac er mwyn ymgysylltu â chymunedau. Mae Kerry wedi datblygu prosiectau ac wedi gweithio gydag unigolion mewn cymunedau yng Nghymru a thu hwnt. Mae hi wedi teithio fel actor a cherddor cyn dychwelyd yn ôl i’w mamwlad yn Sir Benfro i ganolbwyntio ar ysgrifennu. Ar ôl sylwi ar holl fuddiannau a photensial  ysgrifennu er llesiant unigolion, symudodd ei ffocws tuag at ymarfer creadigol i rannu hyn gydag eraill. Mae llawer o ymarferwyr wedi’u hysbrydoli ac wedi bod yn gwbl allweddol i’w datblygiad. Mae hi’n edrych ymlaen at gyfarfod rhagor o’r unigolion hynny yn ystod y cwrs hwn.

 

“Yn ystod y cyfnod hwn, mae angen cysylltiad, anogaeth a thosturi fwy nag erioed; ac amser i ysgrifennu er llesiant. Rwy’n gobeithio rhoi gofod i ymarferwyr ddod at ei gilydd, i rannu ein pryderon a’n cefnogaeth; gofod sy’n cynnig cyfle i feithrin ac yn ein galluogi i ddal ati i ymarfer ac i gyrraedd unigolion a chymunedau sydd angen cymorth.” – Kerry Steed

Nôl i Gwaith Comisiwn i Awduron Llenyddiaeth Cymru