Dewislen
English
Cysylltwch

Enw Prosiect: Tu hwnt i ddiagnosis

Cyfranogwyr: Cleifion sydd â salwch cronig sy’n hunan-ynysu

Prif artist: Paul Whittaker

Platfform Digidol: Gweithdai digidol

 

Gwybodaeth am y prosiect:

Roedd Tu Hwnt i Ddiagnosis yn brosiect ar gyfer cleifion gyda chyflyrau cronig, wedi ei ddatblygu mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro. Derbyniodd Paul gefnogaeth lawn gan Melanie Wotton; Cydlynydd Celf a Iechyd, a bu’n gweithio gyda’r Uned Nephrology er mwyn cyflawni’r prosiect. Mae cleifion gyda chyflyrau ac salwch cronig yn aml yn profi ‘hunaniaith salwch’ – ac wedi i chi dderbyn diagnosis, mae’n aml yn trosi i fod yn ddiffiniad ohonoch chi eich hun yn llygaid eraill, gan gynnwys chi eich hun. Mae derbyn diffiniad o’ch hun fel eich symtom yn gallu cael effaith ar eich gobaith, sgiliau cymdeithasol, perthnasau, hunan hyder a hyd yn oed difrifoldeb eich symtomau. Fe greodd gyfranogwr eu cyweithiau creadigol hunangofiannol eu hunain i’w rhannu gyda staff a chynulleidfaoedd ehangach.

 

Bywgraffiad Paul:

Mae Paul Whittaker yn arlunydd anabl amlddisgyblaethol, sydd â diagnosis o bersonoliaeth dau begwn. Yn 2017 cynhaliodd ei arddangosfa celf weledol gyntaf, RULES yn Oriel Hearth, Ysbyty Athrofaol Llandochau. Fel awdur, creodd gywaith digidol oedd yn cyfleu sut mae’r rheolau yn ei fywyd wedi newid gyda’i gyflwr. Cafodd staff seiciatryddol Hafen y Coed eu heffeithio cymaint gan onestrwydd y darn nes iddynt ofyn iddo weithio gyda staff yr Ysbyty ar weithdai hyfforddi. Mae’r gwaith bellach yn cael ei arddangos yn barhaol yn yr Ysbyty.

 

“Mae iechyd meddwl ac iechyd corfforol yn aml yn cael eu gwahanu o fewn lleoliadau gofal, ond gwn o brofiad eu bod yn cydblethu. I mi, mae ysgrifennu creadigol wastad wedi bod yn therapiwtig ond mae hefyd yn rhoi mewnwelediad llawer mwy craff na sgyrsiau mewn lleoliadau clinigol oherwydd eich bod yn camu i ffwrdd o rôl Y Claf a’r Person Proffesiynol.” Paul Whittaker

Nôl i Gwaith Comisiwn i Awduron Llenyddiaeth Cymru