Dewislen
English
Cysylltwch

Mae’r Ddraig yn Deffro: Straeon ar gyfer y Metro newydd

 

I ddathlu dyfodiad y System Drafnidiaeth Metro newydd, cydweithiodd Llenyddiaeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru ar y prosiect unigryw yma i ysbrydoli pobl ifanc mewn ysgol gynradd yn Ffynnon Taf, Rhondda Cynon Taf.

Bydd Metro De Cymru yn rhwydwaith integredig o fysiau, trenau a theithio llesol (cerdded a beicio) a fydd yn gwella cysylltedd ac yn gwneud teithio cynaliadwy yn haws ar draws De Cymru.

Roedd y prosiect yn annog plant i archwilio eu hardal leol yn greadigol, tra’n dysgu mwy am brosiect Metro a’i effaith bosibl ar eu hamgylchedd. Mae’r Argyfwng Hinsawdd yn flaenoriaeth strategol allweddol i Llenyddiaeth Cymru, gyda ffocws arbennig ar annog cenedlaethau iau i fynegi eu pryderon am ddyfodol ein planed, gwella eu cysylltiad â’u hardaloedd lleol, a chymryd camau cadarnhaol.

Yn ystod tymor Hydref 2022, fe wnaeth disgyblion blwyddyn 4 Ysgol Gynradd Ffynnon Taf fwynhau gweithdai ysgrifennu creadigol a darlunio gyda’r awdur Mike Church a’r darlunydd Osian Grifford. Dysgon nhw sut i lunio stori, archwilio cymeriadau ac hanes Ffynnon Taf yn greadigol, a chasglu syniadau ar gyfer eu stori eu hunain.

 

“Roedd y plant wedi cymryd diddordeb o’r cychwyn cyntaf ac roeddwn i wedi rhyfeddu at ba mor frwd oedden nhw wrth roi pin ar bapur! Mae Mike wedi dangos sut mae dychymyg yn allweddol i ysgrifennu! Fe wnaethon ni fwynhau’r prosiect yn fawr a doedden ni ddim eisiau iddo ddod i ben.” 

Mrs Howells, athrawes yn Ysgol Gynradd Ffynnon Taf

 

Cafodd eu stori wych am y Metro a’r ddraig sy’n byw yn y ffynnon boeth ei droi yn gasgliad o gylchgronau a cherddi poster a fydd yn cael eu harddangos yn yr ysgol ac yn yr orsaf drenau leol.