Dewislen
English
Cysylltwch

Pencerdd: Athrawon Barddol 2025-2026

Eurig Salisbury
(Athro Barddol Nanw Maelor)
Mwy
Rhys Iorwerth
(Athro Barddol Llio Maddocks)
Mwy
Mererid Hopwood
(Athro Barddol Mared Fflur)
Mwy
Gruffudd Eifion Owen
(Athro Barddol Brennig Davies)
Mwy
Osian Rhys Jones
(Athro Barddol Megan Jones)
Mwy
Eurig Salisbury
(Athro Barddol Nanw Maelor)

Mae Eurig Salisbury yn fardd, yn nofelydd ac yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth. Ef oedd Bardd Plant Cymru 2011–13, Prif Lenor Eisteddfod y Fenni 2016 a Bardd Tref Aberystwyth 2024–6. Ar hyn o bryd, ef yw bardd preswyl Ystrad-fflur. Mae’n cydgyflwyno podlediad Clera gydag Aneirin Karadog a Gruffudd Antur, ac yn cyd-drefnu noson Cicio’r Bar yn Aber gyda Hywel Griffiths.

Cau
Rhys Iorwerth
(Athro Barddol Llio Maddocks)

Bardd, cyfieithydd ac ysgrifennwr copi llawrydd yw Rhys Iorwerth. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011 ac ef oedd Prifardd Coronog Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023. Enillodd Wobr Farddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2015. Cyhoeddodd dair cyfrol o farddoniaeth, Un Stribedyn Bach (Gwasg Carreg Gwalch, 2014), Carthen Denau: Cerddi'r Lle Celf 2019 (Cyhoeddiadau'r Stamp, 2019) a Cawod Lwch (Gwasg Carreg Gwalch, 2021) ac un gyfrol o ryddiaith, Abermandraw (Gwasg Gomer, 2017). Mae wedi cynnal dosbarthiadau cynganeddu yng Nghaerdydd a Chaernarfon ers dros ddegawd ac mae’n un o sefydlwyr nosweithiau barddoniaeth Bragdy’r Beirdd.

Cau
Mererid Hopwood
(Athro Barddol Mared Fflur)

Mae Mererid wedi treulio ei gyrfa ym myd addysg, ieithoedd a llenyddiaeth. Mae’n Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth. Enillodd Gadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol, Gwobr Llyfr y Flwyddyn, (barddoniaeth), Gwobr Tir na n-Og (llyfrau plant) a derbyniodd Fedal Farddoniaeth Gŵyl y Gelli (2023). Bu’n Fardd Plant Cymru ac mae wrth ei bodd yn cydweithio ag artistiaid o wahanol gelfyddydau, o ddawns i ddrama, o gelfyddyd weledol i ffilm a cherddoriaeth. Mae’n un o lywyddion anrhydeddus Cymdeithas Waldo Willams ac yn Ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru. Hi yw’r Archdderwydd cyfredol.

Cau
Gruffudd Eifion Owen
(Athro Barddol Brennig Davies)

Mae Gruffudd Owen yn fardd, sgriptiwr teledu a dramodydd sy’n gweithio ar ei liwt ei hun. Mae Gruffudd wedi perfformio ei gerddi i blant ac oedolion ar hyd a lled y wlad a fo oedd Bardd Plant Cymru 2019-2021. Mae wedi sgriptio ar gyfer cyfresi Pobol y Cwm, Rownd a Rownd a Stad. Aeth ei ddrama-gomedi ‘Parti Priodas’ ar daith gyda’r Theatr Genedlaethol yn ystod Gwanwyn 2024. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2018 a daeth ei gyfrol Mymryn Rhyddid (Cyhoeddiadau Barddas, 2023) i’r brig yng nghategori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2024.

Cau
Osian Rhys Jones
(Athro Barddol Megan Jones)

Mae Osian Rhys Jones yn fardd a dylunydd cynnwys sy’n byw ym Mhenarth; fe’i magwyd ger Y Ffôr, Pwllheli.
Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Môn yn 2017. Enillodd Dlws Coffa D. Gwyn Evans (Y Gymdeithas Gerdd Dafod) ddwywaith a derbyn Tlws Coffa Cledwyn am delyneg orau cyfres Talwrn y Beirdd yn 2011 a 2017.

Mae’n aelod o dîm Y Glêr ar gyfres Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru, tîm a oedd yn bencampwyr y gyfres yn 2012. Yn yr un flwyddyn, Y Glêr oedd y tim cyntaf i ateb Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru, gan gyfansoddi cant o gerddi ar y cyd dros gyfnod o 24 awr.
Yn 2011 roedd Osian yn un o griw a sefydlodd nosweithiau Bragdy’r Beirdd yn y brifddinas. Mae’r digwyddiadau barddol poblogaidd yn dal i gael eu cynnal yn rheolaidd yng Nghaerdydd. Mae’n ymddiredolwr i Barddas, y Gymdeithas Gerdd Dafod.

Cau