Llywela Siriol
MwyPaige Morgan
MwySioned Camlin
MwyCelt John
MwyMorgan Elwy
Mae Morgan Elwy yn fardd, cerddor, cynhyrchydd a chyfansoddwr o Lansannan, Dyffryn Clwyd. Ar ôl ennill Cân i Gymru yn 2021 gyda'r gân reggae boblogaidd ‘Bach O Hwne’ mae wedi bod yn brysur yn perfformio, ysgrifennu, rhedeg label cerddoriaeth Bryn Rock a chynnal gweithdai a creu theatr i bobl ifanc ledled Cymru.
Mae Morgan Elwy eisoes wedi rhyddhau dwy albwm o gerddoriaeth rock-reggae sef 'Teimlo’r Awen' yn 2022, 'Dub yn y Pub' yn 2024 gyda’r drydedd albwm 'Amser Da' i ddod allan yn ystod haf 2026.
Yn ogystal â theithio gyda band byw yn canu mewn gwyliau cerddorol Cymraeg mae Morgan Elwy bellach wedi sefydlu ei hun fel MC sydd yn canu a rapio reggae Cymraeg mewn nosweithiau system sain yn rheolaidd. Wrth gydweithio â DJs reggae gwahanol mae Morgan yn ceisio codi pont rhwng y diwylliant Cymraeg a cherddoriaeth ddawns danddaearol. Mae Morgan yn ysgrifennu amrywiaeth o eiriau cydwybodol sy’n adlewyrchu ar gymdeithas, caneuon protest yn ogystal â phenillion hwylus sy’n dathlu ein hanes a'n diwylliant.
“Dwi’n gobeithio dysgu am y gynghanedd yn fwy manwl a’i defnyddio’n fwriadol yn fy ngwaith fel cerddor ac wrth ysgrifennu’n greadigol. Hoffwn fuddsoddi fy amser yn y traddodiad hynafol hwn, gan ddefnyddio’r gynghanedd i ychwanegu haen ddyfnach a mwy soffistigedig i’m gwaith creadigol.
Credaf yn gryf fod barddoniaeth yn perthyn i bawb, a byddwn wrth fy modd yn dangos i bobl ifanc ei bod yn bosibl mwynhau a chysylltu gyda barddoniaeth mewn ffyrdd cyfoes a chreadigol a rhannu’r hyn rwy’n ei ddysgu am y gynghanedd gyda chenhedlaeth newydd drwy weithdai. Mae cynllun Pencerdd i’w weld yn cynnig y fframwaith delfrydol i mi ddyfnhau fy nealltwriaeth o’r grefft.”
Llywela Siriol
Mae Llywela Siriol yn ferch fferm o Pentrellyncymer ger Cerrigydrudion, ond mae bellach yn byw yng Nghaernarfon. Ei phrif ddiddordeb yw pêl-droed – mae’n chwarae i CPDM Felinheli, ac yn mynd yn rheolaidd i gefnogi Cymru yng Nghaerdydd ac oddi cartref. Mae hi yn aelod brwd o fudiad y Ffermwyr Ifanc, ac yn gadeirydd ar Glwb Uwchaled. Drwy’r Ffermwyr Ifanc y dechreuodd gystadlu mewn cystadlaethau llenyddol am y tro cyntaf gyda’i cherddi, rheiny’n gerddi rhydd i gychwyn, cyn datblygu i arbrofi gyda’r gynghanedd. Dysgodd ei hun i gynganeddu yn ystod y cyfnod clo, ac ers hynny, mae hi wedi dechrau mynychu clwb cynganeddu yng Nghaernarfon, ac yn dysgu llawer o wrando ar feirdd sy’n hen law ar y grefft yn trafod rheolau a chreu englynion. Byddai’n hoffi parhau i ddysgu mwy am y gynghanedd, ac yn gobeithio y bydd ryw ddydd yn hen law ei hun!
“Dwi wedi dysgu fy hun i gynganeddu, gyda help amryw o lyfrau, ac ambell ffrind hael iawn eu hamser ac amynedd gyda mi! Mae’n amser rŵan i mi gael gwers go iawn, a dwi’n edrych mlaen at ddysgu llawer mwy am y grefft drwy’r rhaglen Pencerdd. Bydd hefyd yn reswm da i mi eistedd lawr a cheisio ysgrifennu, gan fod prysurdeb bywyd yn aml yn golygu nad wyf yn rhoi digon o amser ar gyfer ceisio meistroli’r grefft.”
Paige Morgan
Yn hanu o Seattle yn wreiddiol, mae Paige Morgan bellach yn byw yn Jyrsi Newydd yn yr Unol Daleithiau, ac yn gweithio gyda chasgliadau a gwasanaethau digidol yn Llyfrgelloedd Prifysgol Rutgers. Dysgodd y Gymraeg fel oedolyn, gan wrando ar BBC Radio Cymru, a’r Talwrn yn benodol, gan fwynhau sain a cherddoriaeth y gynghanedd, a’r llawenydd oedd yn treiddio drwy’r cystadlu. Ers hynny, mae hi wedi dechrau chwedleua, ysgrifennu’n greadigol, a barddoni, ar ôl dysgu’r gynghanedd drwy ddosbarthiadau Prifysgol Aberystwyth. Mae hi bellach yn ysgrifennu i gylchgronau Lingo360 a Golwg, ac enillodd Dlws Rhyddiaith yn Eisteddfod y Dysgwyr Ardal Bae Abertawe eleni.
Fel dysgwr, mae hi wastad yn ceisio ffeindio ffyrdd newydd i chwarae, a chydbwyso dysgu gramadeg gyda chwerthin. Pan nad yw hi’n gwneud pethau yn y Gymraeg, beicio, rhwyfo, a cherdded yw hoff ffyrdd Paige i dreulio ei hamser a chrwydro llefydd newydd.
“Bachodd y Talwrn fy sylw wrth imi wrando arno ym Miami yn 2016 fel dysgwr newydd, a cefais afael ar gopi ail-law o llyfr Mererid Hopwood, Cynghanedd i Blant, a oedd allan o brint bryd hynny, yn ogystal â Singing in Chains. Doeddwn i heb hyd yn oed meistroli berfau cryno ar y pryd, ac yn dysgu ar fy mhen fy hun, felly doedd yr uchelgais o farddoni fy hunan ddim yno eto – roedd yn rhaid dysgu cerdded cyn rhedeg, heb sôn am ddawnsio! Pan ddaeth y cyfle i ddysgu’r gynghanedd gyda Phrifysgol Aberystwyth, a neb llai na Ceri Wyn Jones, roeddwn i’n ffaelu credu’r peth!
Mae’r diwylliant barddoniaeth Cymraeg yn wahanol i ddiwylliant barddoniaeth yr UDA. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at weithio gyda gweddill carfan Pencerdd, a dysgu gyda’n gilydd, parhau i wella, a ffeindio ffyrdd newydd i gofnodi’r modd rwy’n gweld yn y byd mewn cerddi caeth. A falle, yn y dyfodol, ffeindio lle ar dîm Talwrn?”
Sioned Camlin
Cerddor a bardd o Ddyffryn Banw yw Sioned Camlin gydag ugain mlynedd o brofiad ym myd dryms a gigio gyda bandiau fel Twmffat a Mascot Moth. Mae hi nawr ar daith gynganeddol newydd ac yn aelod o dîm Talwrn y Lleill o’r Llew. Mae hi wedi byw yn Sir Drefaldwyn erioed ac wedi gweithio fel plannwr coed, llyfrgellydd, trefnydd celf, gwerthwr wellingtons, tiwtor Cymraeg i oedolion, gyrrwr fforc-lifft a derbynnydd. Yn aelod brwd o sawl menter leol fel Oriel Awen Llanfyllin, mae Sioned yn angerddol dros weithgaredd cymunedol – mae hi hefyd yn medru jyglo gyda tair pêl.
“Ers cychwyn mynychu dosbarth y Llew Coch yn Ninas Mawddwy yn Hydref 2024, mae’r gynghanedd wedi cipio fy nychymyg ac yn teimlo’n brofiad tebyg i ‘ddod adre’. Anodd yw dal gafael ar dy Gymraeg fan hyn wrth y ffin gyda chyfleoedd am sgyrsiau treiddgar yn brin – mae’r dysgu wedi ailagor drws imi i fyd llachar a dwys canu caeth fy mamiaith. Dwi’n edrych mlaen i ddysgu am fesurau gwahanol, i gael amsugno'r holl wybodaeth alla i er mwyn gwella a datblygu fy nghrefft. Braf fydd cyfarfod beirdd eraill sydd hefyd yn mwynhau celfyddyd mor ‘niche’! Dwi mor ddiolchgar am y cyfle ac yn barod am yr her.”
Celt John
Un o Ddolgellau yw Celt John, a’i wreiddiau yn Abertawe; mae’n 24 oed a bellach yn byw yn Llundain ac yn gweithio i Brifysgol City St. George’s. Derbyniodd ei addysg uwch ym Mhrifysgol Bangor ble y graddiodd mewn Cymraeg a Cherddoriaeth. Wedi ei astudiaethau cafodd ei ethol am ddau dymor fel Llywydd yr Undeb Myfyrwyr Cymraeg yno.
Dechreuodd ei daith i ddysgu’r gynghanedd pan oedd yn y chweched dosbarth yn Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth. Mynychodd dosbarthiadau gyda chriw Talwrn y Llew Coch yn Ninas Mawddwy cyn i mi symud i Fangor i’r brifysgol. Yno, ymgymrodd â modiwl Cynghanedd yr Athro Peredur Lynch.
Yn ddiweddar mae wedi penderfynu ail-afael mewn barddoni gan ddod yn drydydd yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd, Dur a Môr 2025. Ysgogodd hyn iddo gymryd cwrs ail-gam y gynghanedd trwy Prifysgol Aberystwyth, yng ngofal y Prifardd Ceri Wyn. Bellach, mae’n aelod o dîm Talwrn newydd ‘O Bob Cwr’ ac yn gobeithio, trwy gynllun Pencerdd i hogi ei sgiliau cynganeddol a throsi’r hyn mae am ei ddysgu i mewn i gerddi yn y gobaith o’u rhannu’n gyhoeddus.
“Anaml mae rywun yn dod ar draws barddoniaeth caeth Cymraeg yn ymwneud â materion ynghylch y gymuned LHDTC+. Fel aelod o’r gymuned honno, fy ngobaith trwy’r cwrs hwn yw medru datblygu fy ngallu cynganeddol er mwyn creu gweithiau o farddoniaeth caeth all leisio straeon y gymuned, boed yn leisiau a fu a rheiny’n rhai dorrodd dir newydd i’r gymuned, neu’n leisiau cyfoes arloeswyr ein cymuned heddiw. Fy ngobaith trwy’r cwrs hwn hefyd yw medru meistroli’r gallu hwn i farddoni’n gaeth gan felly fynegi fy nheimladau am fyw fel Cymro yn Llundain yn fwy rhwydd heb y rhwystredigaeth o ddiffyg llif cynganeddol wrth farddoni’n gaeth.
Edrychaf ymlaen nid yn unig i ddysgu gan athrawon barddol y cwrs ond hefyd i ddysgu gan y beirdd eraill sydd wedi cael eu dewis ar gyfer y cynllun.”