Gweithdai ysgrifennu creadigol gyda charcharorion ifanc
Cyfranogwyr: Carcharorion ifanc
Awdur ac artist: Connor Allen
Lleoliad: Carchar y Parc
Gwybodaeth bellach: Cyfres o weithdai creadigol a gynhelir yng Ngharchar y Parc gyda’r uned Pobl Ifanc yn seiliedig ar y cwestiwn ‘Beth mae’n ei olygu i fod yn berson ifanc yn 2019?’. Bydd yr atebion i’r cwestiwn hwn yn sail i fonologau y bydd y bobl ifanc yn eu hysgrifennu. Yna bydd y monologau yn cael eu recordio a’u chwarae ar radio’r carchar yn null y gyfres gan Alan Bennett ‘Talking Heads’.
Connor Allen: Ers graddio o Trinity Saint David fel actor, mae Connor wedi gweithio gyda chwmnïau fel Theatr Torch, Sherman, Tin Shed Theatre a National Theatre Wales. Mae’n aelod o Theatr Ieuenctid Genedlaethol Prydain ac roedd hefyd yn enillydd Triforces Cardiff MonologueSlam, yn cynrychioli Cymru yn rhifyn enillwyr Llundain. Fel awdur mae wedi ysgrifennu ar gyfer No Boundries, Fio, Avant Theatre a Protest Fudr.
Dyfyniad:
“Fyddwn i ddim pwy ydw i heddiw oni bai fod pobl wedi credu ynof fi a dangos i mi fod bywyd y tu allan i’r hyn yr oeddwn i’n ei ystyried yn ‘norm’. Ac os gallaf roi rhywfaint o’r profiad a’r arweiniad hwnnw yn ôl i’r bobl ifanc hyn, gall fod â’r potensial i newid eu bywydau.”